Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Silff Lyfrau The Voyage of Charles Darwin (gol. Christopher Ralling). Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, 1978. Pris £ 6.75. The Genesis of Diversity, gan Bryan Shorrocks. Hodder and Stoughton, Llundain, 1978. Pris £ 2.95 (clawr papur). Readings in Sociobiology (gol. T. H. Clutton-Brock a P. H. Harvey). Freeman, Reading, 1978. Pris £ 4.50 (clawr papur). Duw, Daeareg a Darwin, gan Harri Williams. Gwasg Gomer, 1979. Pris £ 1.50. 'Roedd Charles Darwin yn ddyn ffodus iawn am na fedrai weld fod angen iddo wahaniaethu rhwng gweithio a hamddena. Darganfu hyn pan oedd yn 23 oed. Sgrifennodd yn ei ddyddiadur, wrth gychwyn ar ei waith fel naturiaethwr ym Mrasil: 'Peth hyfryd o newydd imi yw cael sylweddoli fod ymhel â natur yn gyfystyr â gwneud fy nyletswydd a byddai esgeuluso'r ddyletswydd honno yn fy amddifadu o'r hyn sydd wedi rhoi cryn bleser imi am nifer o flynyddoedd.' Yn nes ymlaen yn ei fywyd trodd Darwin at ddehongli ei sylwadau o fyd natur; erbyn hynny gwelir eisiau'r gorfoledd a'r ecstasi a nodweddasai ei astudiaethau cynnar. Peth i'w ddisgwyl efallai oedd hyn am fod hel ffeithiau a sylwadau bob amser yn orchwyl lawer haws a mwy diniwed na'r broses o'u dehongli. Dyma, yn ei hanfod, yw'r gwahaniaeth rhwng naturiaetheg a bioleg. Cych- wynnodd Darwin ar ei yrfa yn naturiaethwr dibrofiad; erbyn diwedd ei oes 'roedd wedi datblygu'n fiolegydd o'r radd flaenaf­onid yr un mwyaf erioed. Darwin oedd naturiaethwr swyddogol y Beagle ar ei thaith i Dde Amerig (ac wedi hynny, o gwmpas y byd) rhwng 1831 a 1836; dyddiadur naturiaethol yn seiliedig ar y fordaith honno oedd y Journal enwog a gyhoeddodd Darwin ym 1839. Y llynedd (1978) paratodd y BBC gyfres o raglenni moethus yn seiliedig yn bennaf ar Journal Darwin ynghyd â llyfr hynod o hardd i ddathlu'r achlysur. Ymwneud â dawn Darwin fel naturiaethwr y mae'r llyfr. Prin iawn yw'r cyfeiriadau at yr hyn a ddeilliodd, yn rhannol fodd bynnag, oddi wrth y deunydd a geir yn y llyfr, sef ei Ddamcaniaeth Esblygiad a'i ymdrech i roi cyfrif biolegol am natur DARWIN A'I EPIL Dyn a'i Ie yn y byd. Darlun felly sydd yma o weithgareddau deallusol Darwin ar eu lefel isaf­ ei allu i sylwi, i gofnodi ac ambell waith i ofyn y cwestiynau priodol. Dim ond ar y deg tudalen olaf y ceir unrhyw gyfeiriad at yr hyn a'i cododd ben ac ysgwyddau uwchben naturiaethwyr eraill ei gyfnod-ei allu digamsyniol i ddamcaniaethu ar sail arsylwadau. Ac nid oes cyfeiriad at yr hyn sydd, i nifer ohonom, yn agwedd lawn mor ddiddorol ar Ddarwin, sef datblygiad (neu, yn ôl rhai, dirywiad) ei bersonoliaeth. Am wybodaeth am ddirgelwch ei afiechyd hir-barhaol, ei anallu i ddiffinio'n foddhaol ei agwedd at faterion crefyddol, gwleidy- ddol a chymdeithasol, ei amharodrwydd i gydnabod ei ddyled i eraill, ei ddryswch meddwl ynghylch hanfodion y 'dull gwyddonol' bondigrybwyll-am y rhain oll rhaid i'r darllenydd droi at yr amryfal gasgliadau o lythyrau Darwin, ei hunangofiant a'r llu o lyfrau a chofiannau gan ei edmygwyr ac eraill. Teyrnged gaboledig yw'r llyfr dan sylw- yr union fath o ymdriniaeth newtral ag a ddisgwylid dan nawdd ein prif gorfforaeth gyfathrebu swydd- ogol; mae hyn yn codi cwestiwn diddorol: pa werth, mewn gwirionedd, sydd mewn gweithiau 'diniwed' o'r fath a gyhoeddir dan nawdd y BBC? Prin bod eisiau atgoffa neb heddiw am brif fannau ffydd Darwin-fod amrywiadau yn codi ymhlith rhywogaethau a bod yr amgylchfyd yn 'dethol' y rhai cymhwysaf i oroesi ac i atgynhyrchu. Erbyn diwedd y ganrif derbyniwyd damcaniaeth Darwin ar raddfa bur eang gan wyddonwyr. Y ddamcaniaeth hon, fe ddadleuid, oedd yr ateb terfynol i gwestiwn tarddiad a datblygiad dyn ar y ddaear. Ysgubodd ton o frwdfrydedd o'i phlaid trwy'r eglwysi hyd yn oed. Ond, a dyfynnu Medawar, 'Mae'r ddamcaniaeth sy'n honni egluro popeth, mewn gwirionedd yn egluro dim byd.' Ac fe ddaeth yn fwyfwy amlwg yng nghwrs y blynydd- oedd fod cryn elfen o annigonolrwydd ac o anghyflawnder yn perthyn i syniadaeth wreiddiol Darwin. Cynrychiola'r ddau lyfr The Genesis of Dirersity a Readings in Sociobiology feysydd lle mae dwy wyddor newydd-Geneteg a Sosiobioleg­-wedi gwneud camau breision i estyn, cyfannu a chywiro'r Ddamcaniaeth wreiddiol. Arwyddocâd geneteg fodern yw ei bod yn cynnig eglurhad