Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a diolch i Harri Williams am agor y drws ar un o'r digwyddiadau mwyaf diddorol yn hanes y meddwl Cymraeg ac am drafod mewn dull darllenadwy iawn un o'r ychydig enghreifftiau lle y gellir olrhain dylanwad pendant ac uniongyrchol ar rangwyddon- iaeth ar syniadaeth Gymraeg. Mathemateg Cyfres Mathemateg Cambria, Llyfr 1. Cyfadran Addysg Aberystwyth, 1979. Tud. 305. D. Brown a'i Feibion Cyf., Y Bontfaen. Pris £ 8.00 (llyfr atebion ar wahân, pris £ 1.20). Dyma fentro cyflwyno adolygiad o'r llyfr pwysig hwn ar ffurf anarferol trwy gyfuno sylwadau tri darllenwr, pob un â'i safbwynt gwahanol: W. R. Lotwick (WRL), gynt yn Bennaeth Adran Addysg Politechnig Cymru, Y Barri, yn bwrw golwg yn bennaf ar safon addysgiadol y llyfr; Merfyn Griffiths (MG), prifathro Ysgol Gyfun Llanhari, yn rhoi ei brif ystyriaeth i oblygiadau'r llyfr o fewn fframwaith drefniadol ac economaidd yr ysgol; a Graham Bowen (GB), Pennaeth Adran Mathema- teg Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd, yn canol- bwyntio ar fesur ei werth ymarferol i'r athro sydd wrthi'n feunyddiol yn ceisio naddu talpiau addysg o'r talcen sialc. Un o nodweddion cynnar rhai o'r ysgolion uwchradd 'dwyieithog' oedd y duedd ynddynt i gyflwyno rhai pynciau, megis y celfyddydau, trwy'r Gymraeg ac eraill, gan gynnwys y gwyddorau a mathemateg, trwy'r Saesneg. Pery'r deublygrwydd hyn hyd heddiw, ac mae i'w ganfod hefyd yn yr ysgolion 'naturiol' Cymraegl: (GB) 'Mae dysgu mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn bwnc emosiynol ac yn un gwleidyddol y tu fewn a thu fas i'r ystafell ddosbarth. Mae absenoldeb gwerslyfr addas yn y Gymraeg wedi tanseilio awdurdod athro a oedd yn awyddus i ddysgu drwy gyfrwng yr iaith wrth iddo ddadlau'i achos gyda llywodraethwyr, cyng- horwyr, prifathrawon, rhieni a'i gyd-athrawon yn y pwnc' Gellir croesawu'r llyfr hwn, felly, am nifer o resymau (MG) 'Pleser mawr oedd clywed ychydig o flynyddoedd yn ôl fod Dafydd Kirkman o Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, ynghyd â thîm o athrawon brwdfrydig wrthi'n paratoi gwerslyfr ar fathemateg yn y Gymraeg ar gyfer disgyblion y flwyddyn gyntaf mewn ysgolion cyfun. 'Roedd fy R.E.H. llawenydd yn ddeublyg. Yn gyntaf oherwydd y byddai hyn yn golygu y gellir ysgafnhau baich athrawon sy'n gweithio mor galed yn ein hysgolion i geisio ehangu'r defnydd a wneir o'r Gymraeg. Gan amlaf mae hyn yn golygu trosi o'r Saesneg a pharatoi taflenni gwaith a nodiadau ar gyfer y disgyblion. Yn ail oherwydd y byddai llyfr Cymraeg gwreiddiol, wedi ei baratoi gan dîm o athrawon wrth eu gwaith, yn debyg o ateb gofynion ysgolion heddiw.' Golwg y llyfr, ynghyd â'i arddull yw'r pethau cyntaf i ddal sylw'r darllenydd: (MG) 'Mae wedi ei argraffu'n lân ac yn glir ar bapur da ac mae o faint hwylus i'w drin. Mae'r diagramau ynddo'n syml a dirodres a'r clawr coch yn gwneud y cyfan yn ddeniadol iawn.' (GB) 'Wrth ddefnyddio'r llyfr yn y dosbarth sylweddolir bod trefn y gosod allan wedi sicrhau digon o olau dydd ar y tudalennau mawr; mae'r enghreifftiau yn synhwyrol, yn niferus ac yn ymddangos yn ddigon aml i fod o fudd mawr i blant o allu cymedrol.' Beth am y cynnwys a'r modd y'i cyflwynir? (WRL) 'Mae'r gyfrol hon yn cynnwys nifer helaeth o bynciau amrywiol. Mae'n dechrau â'r sylfeini-y rhifau naturiol, y pedair rheol, ffrac- siynau a degolion-y cyfan yn cael eu trin mewn modd adfywiol iawn. Mae'r pwyslais ar eglurder, ar ddatblygiad rhesymegol a graddol, ar drylwyredd ac ymarfer. Eglurir pob cam newydd gan engh- reifftiau perthnasol, ac fe atgyfnerthir y pwynt drwy ofyn i'r disgyblion geisio gwneud engh- reifftiau ychwanegol eu hunain. Dyma ddysgu da, effeithiol, sy'n defnyddio gweithgarwch i gynorth- wyo'r dysgu a'r deall, a'i bwyslais ar ymarfer ac ailwneud. Mae'r penodau sydd ar ôl-Geometreg, Algebra, Setiau, Arwynebedd, Cyfaint a Graffiau-yn mynd yn gynyddol yn fwy anodd, ond mae'r cyflwyniad yn dal yn berffaith glir, ac mae'r driniaeth yn union yr un ag a gafwyd yn y penodau cynnar.' Ond nid yw'r cyfanwaith heb ei wendidau: (WRL) 'Hoffais yn arbennig y bennod ar Geometreg, a'i hymarferion gwahanol, a'i gwaith ymarferol. Teimlaf, er hynny, mai yn y bennod hon y collwyd cyfleusterau i roi gwaith gwir ddargan- fyddol i'r disgyblion ac efallai peth o'r gwaith yn cael ei wneud tu allan i'r dosbarth. Er gwaethaf hyn, fe wnaethpwyd yr hyn a wnaethpwyd yn dda iawn, ac mewn dull arbennig o ddiddorol.'