Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyna ni, felly. Yn ddiau, dyma gam pwysig i'r cyfeiriad cywir ac yn argoeli'n dda ar gyfer y pedwar llyfr arall yn y gyfres. Tybed ai gormod fyddai gobeithio y bydd eraill gyda'r un weledig- aeth ac unplygrwydd sy'n nodweddiadol o Dafydd Kirkman a'i griw yn cael eu hysbrydoli gan y llyfr hwn i baratoi cyfresi cyffelyb yn y gwyddorau eraill ? H.G.FF.R. i 'Y Gymraeg yng Ngwyddoniaeth a Thechnoleg ein Colegau-Y Ffordd Ymlaen', Mai 1979, Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol. Mathematics and the Real World (gol. Bernheim Booss a Mogens Niss). Birkhäuser Verlag, Basel. Tud. 136. Pris S.Fr. 24. Adroddiad yw'r llyfr hwn o gynhadledd a gynhaliwyd yn Roskilde yn Nenmarc ym mis Awst 1978 gyda'r diben o roi llwyfan i nifer cyfyngedig o bobl a oedd yn sylweddoli bod datblygiad mathemateg yn rhan o wareiddiad pob wlad, ac oedd â diddordeb yn y problemau a ddaw yn sgîl hyn. Trafodwyd tri phrif bwnc, sef y ffactorau sy'n bwysig mewn datblygiad disgybl- aethau mathemategol newydd, y cysylltiadau â'r byd anfathemategol, a'r methodau posibl o wneud syniadau mathemategol yn ddealladwy i'r byd. COLEG PRIFYSGOL ABERTAWE UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro; R. W. STEEL, B.SC., M.A., F.R.G.S. Darperir y cyrsiau canlynol i fyfyrwyr gwyddonol: (a) Graddau Prifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth Bur a Gwyddoniaeth Gymwysedig. (b) Diploma'r Coleg mewn Ffiseg Fathemategol. (c) Diploma'r Coleg mewn Cartograffi. (ch) Diploma'r Coleg mewn Peirianneg Gemegol. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Bur yn cynnwys Athroniaeth, Seicoleg, Economeg, Mathemateg Bur, Ystadegau, Mathemateg Gymwysedig, Ffiseg, Cemeg, Daeareg, Daearyddiaeth, Botaneg, Swoleg, Geneteg, Microbioleg, Eigioneg a Bioleg Forol. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Gymwysedig yn cynnwys Peirianneg Sifil, Trydanol, Mecanyddol, Technoleg Cyfrifyddol a Diwydiannol, Peirianneg Gemegol, a Meteleg. Ceir Neuaddau Preswyl ar gyfer dynion a merched. Dyfernir Ysgoloriaethau Derbyn bob blwyddyn ar sail canlyniadau arholiadau lefel 'A'. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. Mae pump ar hugain o bapurau, ac yn anffodus mae llawer ohonynt braidd yn annelwig, ond maent yn cynnwys rhai sylwadau o ddiddordeb serch hynny. Mae El Tom o'r Swdan yn trafod mathemateg ac anghenion gwledydd annatblygedig. Mae'n dweud ei bod yn bwysig dangos grym mathemateg i'r werin trwy drafod y methodau mathemategol a fydd o ddefnydd amlwg yn hytrach na sôn am natur a phrydferthwch mathe- mateg, a bydd rhaid meddwl am gyhoeddiadau addas i'r diben hwn. Ategir hyn gan Gnedenko o'r Undeb Sofietaidd sy'n egluro sut y mae ei wlad ef, sydd i'w chanmol yn y cyswllt yma, wedi ymateb i'r her. Mae Narasimhan o'r India yn trafod yr anawsterau sy'n codi wrth gymhwyso mathemateg at systemau biolegol ac ymddygiadol, gan nad yw'r peth sydd dan sylw yn wrthrych sy'n dilyn dylanwadau. Yn hytrach, mae'n wrthrych sy'n ymateb i'w amgylchfyd ac yn ymyrryd ag ef. Mae'r llyfr yn gorffen gyda llyfryddiaeth o bymtheg tudalen. Er bod rhai pethau da yn y llyfr hwn, teimlaf y collwyd cyfle gan mai ychydig iawn o'r gwaith caib a rhaw sy'n angenrheidiol i ehangu gwerthfawrogiad ac, yn fwy pwysig, cymhwysiad mathemateg a geir yma. Hefyd mae'r pris am lyfr clawr meddal o'r hyd yma yn afresymol o uchel. LL.G.C.