Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol PRIN y byddai neb yn disgwyl i wlad fel Burma fod ymhlith arweinwyr y byd mewn maes llawfeddygol. Gwlad yw sydd wedi encilio o'r byd ers y chwyldro sosialaidd ym 1962 a dim ond yn ddiweddar yr agorwyd cil y drws i ymwelwyr rhyngwladol. Ar ran Sefydliad Ynni Atomig y Cenhedloedd Unedig y deuthum i yma i'w cynghori ar harneisio ymbelydredd i ddiheintio meinwe dynol er mwyn ei ddefnyddio mewn llawfeddygaeth. Y bwriad yw creu Ystorfa o'r meinweoedd hyn at alw gwledydd eraill yn Ne-Ddwyrain Asia fel y bo angen. Cyflwr Burma Fe'u cefais yn bobl hynod gwrtais a chyfeillgar, ac yn awyddus iawn i adnewyddu cysylltiadau â gwledydd o'r tu allan. Nid oes dim chwerwedd yn erbyn Prydain, er ein holl wahaniaethau yn y cyfnod imperialaidd. Yn wir, ymhlith y dosbarth proffesiynol canol oed, ym Mhrydain y cafodd y mwyafrif ohonynt eu hyfforddi, yn arbennig felly'r meddygon. Cyntefig, a dweud y lleiaf, yw amgylchiadau bywyd yma, ac mae'r olygfa ar eu strydoedd yn union fel pe baech ym Mhrydain ddwy ganrif yn ôl. Yn wyrthiol, llwyddwyd i gadw'r hen geir yn rhedeg, ac 'roedd sglein rhyfeddol arnynt. Gwelir dwsinau o Morris Cyfres E 1938, Hillman 1936-37, Vauxhall 1938, cannoedd o'r enwog Morris Minor, etc. Arbedir hefyd pob tamaid o wastraff plastig, gwydr, papur, etc., a ddaw gyda mewnforion a gwneir y defnydd mwyaf creadigol ohonynt. Yn ein llawnder, 'rydym yn amlwg wedi tyfu'n wastraffus, ac mae cynildeb y brodorion yma yn codi cywilydd arnaf. Deuddegfed yw Burma o waelod rhestr gwledydd tlawd y byd, felly'r ymdrech fwyaf yw yr un i gadw'n fyw yn hytrach na hel unrhyw fwythau iddynt hwy eu hunain. Mae'n chwerthinllyd gweld cyfeiriadau yn y papurau at economic recession yn Ewrop. Caiff y diwaith sydd ar y dôl fwy ar gyfartaledd na'r arbenigwr meddygol uchaf yma. I raddau, athrawiaeth sosialaidd-gomiwnyddol y wlad sydd yn rhannol gyfrifol am y cydraddoldeb sydd yn nodweddu'r gymdeithas, ond mae'r anobaith a'r tlodi yn llethu'r cryfaf.