Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Llun 7) gal ei hail-agor. Mewn ychydig fisoedd, 'roedd y briw agored a guddiwyd gan y croen wedi gwella a chroen newydd y person wedi ymsefydlu. Bellach, 'roedd yn medru llawn ymestyn y llaw a'i defnyddio unwaith eto (Lluniau 8, 9a a 9b). 'Roedd nerf Czech felly wedi gwneud i law Burmead weithio eto, asgwrn Sais yn caniatáu i fachgen ifanc gerdded eto a chroen Groegwr i fam fedru ail-afael yn ei phlentyn. Hyn i gyd drwy allu'r llawfeddygon a'r impiadau estronol. Y traddodiad Bwdaidd Er bod y traddodiad Bwdaidd yn casáu cardod o unrhyw gyfeiriad, ac yn sicr yn eu gwahardd rhag gofyn amdano, 'roedd llwyddiant y triniaethau hyn yn ddigon i'w perswadio bod yn rhaid cael Ystorfa o'r impiadau hyn yn Burma. Hyn oedd bwriad y Sefydliad Ynni Atomig o'r dechrau ond ni allent gynnig, ac ni allai Burmeaid ofyn-sefyllfa amhosibl wrth gwrs. Mae rhesymau da pam y dylai Burma fod yn ganolfan y gwaith yma yn Ne-Ddwyrain Asia. Er yr ymdrech i wthio'r ideoleg gomiwnyddol gan y llywodraeth, y dylanwad mwyaf ym mywyd y brodorion yw'r ffydd Bwdaidd. Hyn sy'n eu cynnal yn eu tlodi a'u dioddef. Hanfod eu ffydd yw'r parodrwydd i aberthu a rhannu o'u heiddo ag eraill. Nid oes anhawster crefyddol felly rhag cyflwyno'u cyrff ar ôl marwolaeth at wasanaethau eraill. O'r cyrff hyn y ceir y rhannau sydd o gymaint budd mewn meddygaeth heddiw. Yma mae angen falfiau'r galon, meinwe clywed y glust, rhannau adnewyddol y llygaid, etc. Hyd yma, ni fuont ar gael yma, ond y gobaith yn awr yw y bydd cywaith rhyngwladol yn dechrau yn ddioed i'w cynorthwyo i gael y cyfleusterau angenrheidiol. Ynglŷn â'r broblem fwy, sef datblygiad y wlad, mae'n anodd gwybod ble i ddechrau, mor anobeithiol yw'r sefyllfa bresennol. Fe allai ymyrraeth ormodol o'r tu allan, hyd yn oed pe bai'r wladwriaeth yn fodlon derbyn hynny, ddifetha natur y bywyd presennol sy'n gyfoethog er y tlodi. Sirioldeb, hir-amynedd, cymwynasgarwch, ffyddlondeb priodasol, heddwch mewnol yw rhai o'r nodweddion sydd yma ac sydd yn prysur ddiflannu yn y Gorllewin. Pam fod yn rhaid i dechnoleg a datblygiad fod yn gyfystyr â rhuthr a diystyru'r unigolyn? Tybiaf mai'r cymorth mwyaf allwn ni ei roi yw rhannu o'n cyfoeth â hwy, gan gyflwyno gwir angenrheidiau bywyd iddynt, ac yna gadael iddyn' nhw leddfu tipyn ar y dioddef yma drwy'r pethau hynny. Mae angen cyffuriau, ffilm pelydr-X, rhwymau glân at eu briwiau, offerynnau i fedru gweini ar y cleifion, etc.-y pethau a gymerwn ni yn ganiataol. Pe teimlai unrhyw un o ddarllenwyr Y GWYDDONYDD fel cyfrannu at gynnal Ysbyty Orthopaedig Kemmedine, Rangoon, yna mi ofalaf bod yr arian yn prynu'r angenrheidiau hyn i'w danfon allan yno, a rhoi cyfrif manwl am yr holl wariant. Ni theimlais erioed y fath angen na theilyngdod achos mewn unrhyw wlad. GLYN O. PHILLIPS COLEG PRIFYSGOL GOGLEDD CYMRU, BANGOR UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: SYR CHARLES EVANS, M.A., D.SC., F.R.C.S. Darperir cyrsiau gradd Prifysgol Cymru yng Nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Diwinyddiaeth. Mae'r cyfadrannau'n cynnwys testunau arferol curricula prifysgol, a cheir, yn ychwanegol, ddarpariaeth arbennig ar gyfer dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn nifer o bynciau. Y mae gan y Coleg chwe Neuadd Breswyl gan gynnwys Neuadd gymysg Gymraeg, sef Neuadd John Morris-Jones. Gellir cael manylion pellach a chopi o Brospectws y Coleg oddi wrth y Cofrestrydd.