Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Poenyn Penna' Rhif 14: GORMOD O DDIM 'Wyddoch chi be'?' mentrodd Guto, gan ddangos ei beiriant cyfrif electronig newydd i'r cwmni oedd wedi ymgynnull wrth y bar. 'Mae'r 'sglodion silicon ma'n tu hwnt o glyfar: bocs bach fel hwn yn gallu rhoi'r ateb mewn chwinciad i unrhyw swm dan haul.' Ni allai Emyr ymatal rhag herio'r fath honiad ysgubol. 'lawn,' meddai. 'Beth yw'r ateb o luosi'r rhifau o un i ddeg?' 'Dim yn haws!' atebodd Guto, gan brysuro i bwyso'r botymau. 'Dyna ni,' meddai, wedi i'r sgrîn ddangos yr ateb 3,628,800. 'Tair miliwn, chwe chant dau ddeg wyth o filoedd, wyth cant. Digon da?' 'O'r gorau, ond beth am luosi'r rhifau rhwng un a chant?' heriodd Emyr. 'Ond chwarae teg!' protestiodd ei gyfaill. 'Does dim digon o Ie ar y sgrîn i ateb mor fawr â hwnnw.' 'Digon teg,' cytunodd Emyr. 'Ond beth am ddweud wrtha'i sawl 0 sydd ar ddiwedd yr ateb ?' Sylweddolodd Guto'n fuan nad oedd ei declyn fawr o gymorth iddo ateb y cwestiwn hwn ychwaith a threuliodd yr hanner awr nesaf yn gweithio'r swm-gan ddefnyddio pensil a phapur, wrth gwrs Beth yw'r ateb i gwestiwn Emyr ? A beth petai wedi gofyn sawl 0 sydd ar ddiwedd y rhif a geir wrth luosi'r mil rhif cyntaf? (Ateb ar dudalen 142) Positron COLEG PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH Ø Yr hynaf o Golegau gwreiddiol Prifysgol Cymru. # Cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg. # Graddau allanol drwy gyfrwng y Gymraeg. # Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. # Neuaddau preswyl ar gyfer 2,000. YSGOLORIAETHAU EVAN MORGAN Bob blwyddyn bydd y Coleg yn cynnig 20 o Ysgolor- iaethau Evan Morgan, gwerth £ 265 y flwyddyn, sy'n parhau dros gyfnod o dair blynedd. Fe'u cynigir ar sail arholiad arbennig a gynhelir ym mis Ionawr bob blwyddyn; caiff yr ymgeiswyr eistedd yr arholiad yn y Coleg, neu yn eu hysgolion eu hunain. Bydd gwerth yr ysgoloriaethau yn ychwanegol at grantiau'r Awdurdodau Addysg Lleol. Mae copïau o'r Prospectws, y Llawlyfr, a manylion ynglŷn â'r Ysgoloriaethau ar gael oddi wrth T. A. OWEN, M.A.. Cofrestrydd, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, SY23 2AX.