Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Planedau Heddiw Darlith Goffa Walter Idris Jones 1980 IWAN PRYS WILLIAMS ER amser Galileo, bu seryddwyr yn edrych ar y planedau gyda chymorth telesgopau sydd yn defnyddio golau gweledig. Drwy wneud hyn, cawsom lawer o wybodaeth am y planedau. Er enghraifft, darganfuwyd y naw planed y gwyddom amdanynt heddiw drwy ddefnyddio y telesgop optig. Darganfuwyd hefyd nifer o loer- ennau o amgylch y planedau, y rhan fwyaf yn cylchdroi o amgylch Iau, Sadwrn a Uranws ond darganfuwyd dwy loeren fechan yn cylchdroi o amgylch Mawrth. Canfuwyd hefyd fod llawer o graterau ar wyneb y lleuad, bod Mawrth yn edrych yn goch gyda iâ ar ei ddau begwn, a bod bandiau amlwg ar wynebau Iau a Sadwrn. 'Roedd pawb hefyd yn gwybod am y modrwyon o amgylch Sadwrn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cafwyd llawer o ffyrdd eraill o hel gwybodaeth am y planedau. Ar ôl y rhyfel byd diwethaf, daeth defnyddio y Y Ddaear yn codi fel y gwelid hi o'r Lleuad telesgop radio yn gyffredin iawn mewn seryddiaeth a chafwyd llawer o ddarganfyddiadau cyffrous drwy ei gymorth. Er enghraifft, gyda'r telesgop radio y darganfuwyd Quasars. Mantais fawr telesgop radio ydyw nad ydi llwch yn amharu arno ac felly mae'n ddefnyddiol iawn ar gyfer edrych ar bethau sydd yn bell i ffwrdd. Gan nad ydi llwch yn broblem fawr yn y system o blanedau, ni wnaeth y telesgop radio lawer o wahaniaeth i'n gwybodaeth am y planedau. Gydag ymledu ein technegau i fedru defnyddio roced a balwn, dechreuwyd defnyddio telesgopau is-goch ac wltra-fioled. Gyda thelesgop is-goch canfuwyd bod y blaned Iau yn pelydru mwy o egni nag y mae'n ei gael o'r haul. Mewn geiriau eraill, mae Iau yn disgleirio ohoni ei hun ac nid yn adlewyrchu golau'r haul. Canfuwyd mai dim ond tua deuddeg y cant o olau Iau sydd yn adlewyrchiad. Credir fod y gweddill yn dod gan fod Iau o hyd yn