Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Meddyginiaethau Gwerin: Defnyddio Rhannau o Anifeiliaid ANNE ELIZABETH JONES Defnyddiau perthynol i'r corff dynol YMDRINIWYD yn rhifyn Mehefin o'r GWYDDONYDD ag un garfan o feddyginiaethau y cafwyd tystiolaeth amdanynt ar lafar, sef y meddyginiaethau llysieuol. Gwneid defnydd, odid yr un mor helaeth, o rai anifeiliaid hefyd, ac weithiau o ddefnyddiau perthynol i'r corff dynol. 'Roedd defnyddio golch neu eich dwr eich hunan yn gyffredin ddigon ar gyfer nifer o anhwylderau. Rhoid llond gwniadur o ddwr y claf yn y glust at bigyn clust, tra yn ôl tystiolaeth o Lanfachreth, Meirionnydd, fe'i defn- yddid i olchi'r traed at losg eira, neu pan fyddent yn sgaldian. Gellid ei ddefnyddio hyd yn oed i olchi'r wyneb os byddai'r croen yn sych, yn ôl tystiolaeth o Abertawe, a byddai glowyr yn ei roi ar eu dwylo i'w caledu. Cofiai gwr o Ddyffryn Aeron am y gwas ar y fferm gartref pan oedd yn blentyn yn gwneud dwr dros goes ebol a oedd wedi brifo gyda weiran bigog; pwrpas hyn oedd ceisio sicrhau fod y blew yn tyfu'n ôl yn ddi-fwlch, heb linell wen i ddynodi bod yr ebol wedi cael anaf, ac fe weithiodd, yn ôl yr hanes. Ymddengys ei fod yn cael ei roi ar fwyd yr anifeiliaid mewn rhannau o Sir Gaernarfon-yn ôl tystiolaeth gwraig o Aberdaron fe'i rhoid ym mwyd y moch i godi eu stumog a dywedodd gwr o Eifionydd y byddid yn arfer berwi haidd i'r ceffylau a rhoi golch am ei ben, ac yna rhoi'r gymysgfa ar ben eu ffîd. Credai y byddai hyn yn magu sglein arnynt, ac yn codi eu stumog. Defnyddid poer cynta'r bore i lanhau llygaid dolurus, ac fe'i rhoid yn ogystal ar ddafad ar y llaw. Byddai ambell i blentyn yn cael ei eni gyda'r freithell neu wisgen (caul) am ei ben. Cedwid hi yn ofalus, ac yr oedd cred na foddai'r sawl a oedd â hon yn ei feddiant. Anifeiliaid fferm Meddyginiaethau lle y gwneid defnydd o anifeil- iaid fferm megis y fuwch a'r mochyn yw'r mwyaf niferus. Gwneid defnydd helaeth o gynnyrch y fuwch: rhoid ei llaeth ei hunan i fuwch i'w yfed ar ôl dod â llo-credid fod hyn yn help i atal clwy llaeth, gan ei fod yn rhoi'r calsiwm yn ôl iddi. Ystyrid fod llefrith yn dda at y croen hefyd, ac fe'i defnyddid i olchi'r wyneb. Câi glastwr llefrith ei ddefnyddio i olchi'r llygaid os byddai gan rywun lyfrithen, ac fe'i hystyrid yn neilltuol o dda ar gyfer llygaid babanod. Pan fyddai buwch wedi taflu ei llestr yna fe'i golchid mewn un ai glastwr cynnes neu hufen a'i roi mewn cynfas i'w gadw'n lân nes y gellid ei roi yn ei ôl. Defnyddid hufen yn ogystal at losg tân (Dyffryn Aeron), ac fe'i rhoid ar y breichiau rhag llosgiadau'r haul (Pwllheli). Ystyrid bod llaeth enwyn hefyd yn dda at losgiadau-yn ôl tystiolaeth o Abergeirw, Meirionnydd, arferid taro'r llaw yn y pot llaeth cadw pe byddid wedi llosgi'n ddrwg. Fe'i defnyddid i geisio cael gwared â brychni yn ogystal, gan olchi'r wyneb nifer o weithiau y dydd. Credid hefyd ei fod yn cadw'r corff yn iach. Arferid rhwbio ymenyn ar y trwyn os byddai'n dyn gan annwyd, ac fe'i rhoid ar wefusau'n cracio. Fel sylfaen eli yr oedd ymenyn gwyrdd (ymenyn heb halen) fwyaf poblogaidd ond fe'i defnyddid hefyd i rwbio llyfrithen ar y llygaid (Llanrhaeadr) ac i'w roi ar friw ar ôl torri ar anifail (Eifionydd). Yn ôl tystiolaeth o ardal Llandysul rhoid pwys ohono i lawr gwddf buwch a oedd yn dioddef o'r pwd. Ond nid y cynnyrch yn unig oedd yn ddefnyddiol. Un feddyginiaeth yn Eifionydd os byddai pwrs buwch yn mynd yn ddrwg wrth hesbio neu pan fyddai mewn llaeth oedd rhoi baw gwartheg cynnes arno. Yn ôl tystiolaeth o ardal Llandysul byddid yn rhwbio baw gwartheg ar ddrywinen ar anifail. Yr arfer mewn rhai ardaloedd os byddai buwch yn methu â chodi ei chil oedd cipio blaen cil buwch arall a'i roi yn ei cheg; byddai hyn yn ei galluogi hithau yn ei thro i godi ei chil. Gwneid defnydd o gorff yr anifail hefyd-un feddyginiaeth at annwyd, neu at y pâs yn fwyaf neilltuol gan ei fod yn dod â'r fflem i fyny, oedd berwi llefrith a rhoi siwad ynddo. 'Roedd corn y fuwch yn cael ei ddefnyddio i'r fath raddau i roi dos i anifail fel mai 'cornio' y gelwid y broses hon fel rheol. Dichon mai o'r mochyn y gwneid mwyaf o ddefnydd. Twymo sleisen o gig moch a'i rhoi mewn gwlanen am y gwddf oedd un o'r meddygin- iaethau mwyaf cyffredin at ddolur gwddf. Yng nghylch Aberystwyth gwneid defnydd o'r saim a oedd ar ôl yn y badell ar ôl ffrio'r cig moch i'w