Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwestiwn ac Ateb OWAIN WYN DAVIES (Un o'r ddwy erthygl a enillodd Wobr Y gwyddonydd yn Eisteddfod Dyffryn Lliw eleni) YNNI, heb amheuaeth, yw pwnc mwyaf llosg ein hoes. Rhaid ei gael i gynhesu'r tŷ, i gynhyrchu bwyd, i adeiladu ac i deithio. Ynni yw hanfod technoleg fodern. Boed allan o lo, olew, gwynt, dwr yr afonydd neu'r moroedd, mawnogydd, wraniwm neu nwy megis methan neu hydrogen, rhaid ei gael o rywle os am gynnal safon byw gwledydd y Gorllewin. Rhaid cyfaddef i gyfandiroedd y byd gymryd y mater yn hollol ganiataol ar hyd y blynyddoedd, gan feddwl nad oedd yn bosibl i ffynonellau'r ynni hwn byth redeg yn sych a bod digon eto ar gael. Ond, yn ystod y degawd hwn daeth dyn yn sydyn wyneb yn wyneb â realaeth y broblem, pan godwyd pris olew y Dwyrain. Ar yr un pryd daeth mwy a mwy o ddinasyddion gwledydd y Gorllewin i werthfawrogi eu hamgylchedd. Gwelsant sut y gall dulliau traddodiadol o ddihysbyddu ffynonellau nwyddau crai a thanwydd adael eu hôl ar am- gylchfyd dyn ac anifail. Daethant yn ymwybodol o'r peryglon sy'n deillio o ddulliau niwclear o greu ynni, dulliau sy'n bygwth ein genedigaeth fraint ac yn peryglu gwareiddiad yn llwyr. Bellach rhaid ystyried anghenion materol cymdeithas ochr yn ochr â'r effeithiau ar yr amgylchedd. Bu dyn yn greadur chwilfrydig erioed. Wedi 'darganfod' Gwyddoniaeth yn yr ail ganrif ar bymtheg, mae heddiw wedi 'darganfod' ei am- gylchedd ac yn sylweddoli na roddwyd iddo hawl ddwyfol i dreisio bro a mynydd, ac nad oes ffynnon ddi-waelod o elfennau i gynnal ei fywyd. Gorfodwyd y gwyddonydd i feithrin cydwybod gymdeithasol ac erbyn heddiw ni fyddai'n meiddio ymyrryd â'r amgylchfyd heb bwyso a mesur yr holl oblygiadau. Yn yr erthygl hon ceisiwn nodi a chloriannu'r prif ffynonellau ynni gan ddangos mai dim ond ynni o'r haul ac ynni niwclear all ddiwallu anghenion dyn yn y pen draw. Beth yw ynni? Nid gorchwyl hawdd yw diffinio egni neu ynni i drwch y blewyn. Y ffordd orau o sôn am ynni yw dweud fod perthynas uniongyrchol rhyngddo â gwaith. Os codir pwysau o un lefel i lefel uwch, yna rhaid wrth waith ac ymdrech i wneud hynny. Pan gyrhaedda'r pwysau y lefel uwch, dywedir fod ganddo ynni potensial; ac os byth y digwyddai ddisgyn i lefel is drachefn, yna fe gyll yr ynni hwn ac fe dry yn ynni cinetig (sef ynni symudol) yn ystod y daith. Fe gollir yr un faint o ynni potensial ag a enillir o ynni cinetig. Dyna egwyddor 'cadwr- aeth ynni' wrth ei waith, sef bod cyfanswm ynni yn ddigyfnewid; gellir yn unig newid ei ffurf. Llwyddodd Einstein i ddyfnhau ein deall o natur ynni trwy ddangos nad yw mater ei hun yn ddim ond ffurf arall ar yr ynni hwn. Pe dinistrid maint neilltuol o fater, yna byddai'r un faint yn union o ynni ar gael ar ffurf ymbelydredd ar ôl y dinistr. Dyma sylfaen hafaliad enwog Einstein sy'n cysylltu mater ac ynni, sef: E = mc2; lle saif E dros ynni, m dros fas, ac c dros gyflymdra goleuni (sef tua 3 X 108m/s). Gellir yn awr sôn am ddadfeiliad mater, yn llythrennol felly; a phan ddigwydd hynny, allyrrir ynni ar raddfa eang iawn. Prin bod angen cyfeirio at y bom atomig a'r bom hydrogen fel yr enghreifftiau gorau o fedr dyn i drawsnewid mater. Er i'r syniadau gwyddonol am fater ac ynni newid cryn dipyn tros y blynyddoedd, ni fu newid o gwbl ar drachwant cymdeithas am gyflenwad o ynni er cynnal breichiau cynnydd. Yn wir, bu tyfiant aruthrol yn y gofyn amdano, o amser dyn yn Oes yr Arth a'r Blaidd hyd at y dyddiau technolegol presennol. Rhaid fu archwilio ym mhob congl am gronfeydd newydd ac ymchwilio yn barhaus i ddulliau cynhyrchu mwy effeithlon. Ynni hydro-electrig Soniwyd eisoes am ynni potensial darn o fas yn rhinwedd codiad o un lefel i lefel uwch. Yr un yn union yw egwyddor cronfa pwer hydro-electrig. Cynhesir y moroedd a'r llynnoedd gan yr haul ac anweddir cyfran o'r dwr gan ffurfio cymylau. Syrthia drachefn fel glaw ar dir uchel. Fe'i cesglir mewn cronfeydd a thrwy reoli llif y dwr trwy argae'r gronfa fe gyll ei ynni potensial i greu ynni cinetig sy'n cael ei sianelu i droi tyrbiniau. Dadleuir fod y ffurf yma o gynhyrchu ynni yn ddihysbydd, ond eto dim ond ychydig o wledydd y byd sy'n ddigon mynyddig i fedru dibynnu ar gawodydd cyson i sicrhau llwyddiant cynlluniau o'r