Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwenwyn mewn Mesurau Bychain Nid oes llawer o bobl yn sylweddoli fod eu bwyd, yn fwy na thebyg, wedi cael ei drin â phlaleiddiaid wrth iddo dyfu a bod nifer o ychwanegiadau wedi eu cynnwys ynddo wrth iddo gael ei brosesu-hyd yn oed cyn i'r bwyd gael ei bacio mewn plastig i'w werthu. Mae poblogaeth gynyddol a gwell safonau byw yn hawlio fod mwy o fwyd yn cael ei gynhyrchu. Felly, y mae'n rhaid diogelu cnydau (gyda phla- leiddiaid) a chadw a gwella ansawdd y bwyd (gyda chyffuriau cadw, cyffuriau sefydlogi a defnyddiau blasu) a rhoi'r bwyd ar y farchnad yn effeithiol a glân (wrth ei bacio mewn plastig). Wrth gwrs, y broblem yw fod y pethau hyn yn peryglu iechyd os na ddefnyddir hwy yn ofalus. Ym maes glanweithdra iechyd, mae Cyngor Ewrop wedi canolbwyntio ar archwilio a mesur yr ychwanegiadau a roddir yn y bwyd i ddarganfod a oes gwenwyn ynddynt yn ogystal ag arbrofi'r pethau a all lygru bwyd. Hefyd, maent wedi canolbwyntio ar wella'r canllawiau sy'n dangos sut i drin y defnyddiau hyn yn ddiogel. Mae arbenigwyr Cyngor Ewrop wedi gosod diogelu iechyd y cyhoedd yn brif egwyddor. Ond maent wedi dewis dull gwyddonol positif o ddiogelu iechyd y cyhoedd nad yw'n tarfu ar ddatblygiad technolegol. Mae'r arbenigwyr wedi archwilio miloedd o ddefnyddiau blasu a'r elfennau a ddefnyddir i wneud defnyddiau pacio plastig, er mwyn mesur cyfartaledd y gwenwyn sydd ynddynt gan restru dim ond y defnyddiau hynny y gellir eu defnyddio heb beryglu iechyd y cyhoedd. Rhestr bositif Mae'r system rhestr bositif hon, sy'n sicrhau mai dim ond defnyddiau diogel a ddefnyddir, wedi ei defnyddio hefyd ar gyfer dosbarthu emwlsiynau a sefydlogwyr ac ar gyfer rhestru'r gwrthfiotigau a ganiateir mewn bwydydd at gyflymu tyfiant anifeiliaid. Dilynwyd yr un system wrth osod meini prawf ar gyfer rheoli mewnforio grawnfwydydd a chnau bwytadwy amrwd a hadau olew wedi eu trin gan