Skip navigation

Y gwyddonydd

 - 

Cyf. 18, Rhif 4 Rhagfyr 1980

Debygwn i : ysgrifennu ar feddygaeth/

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Debygwn i
0. E. Roberts
YSGRIFENNU AR FEDDYGAETH
MENTRODD y Gymdeithas Feddygol ddechrau
cyhoeddi cylchgrawn o'r enw Cennad fis Mehefin
eleni (1980), hwnnw i ymddangos o leiaf ddwywaith
y flwyddyn ond yn gyfyngedig ei gylchrediad.
Dr. Ieuan Parri, Penrhyndeudraeth, un â phrofiad
mewn bathu termau Cymraeg ar gyfer geirfa
feddygol, yw'r golygydd ac fe hoffai ef gynnwys yn
y cylchgrawn waith gwreiddiol, megis canlyniadau
ymchwil.
Gan fod lle amlwg i gamau breision meddygaeth
y dyddiau hyn ar radio a theledu mae ar bobl
eisiau gwybod rhagor am weithgareddau meddygon
ac oherwydd y galwad wele gyfle i ymateb mewn
erthyglau Cymraeg darllenadwy yn hytrach na
chyfyngu'r cylchgrawn i feddygon yn unig. Ond
pob hwyl i'r fenter, gan hyderu y daw Cennad maes
o law yn gydymaith teilwng i Y GWYDDONYDD, sy'n
sicr wedi ennill lle arbennig ym myd cyhoeddi
Cymraeg.
Y doctoriaid Emyr Wyn Jones, Glyn Penrhyn
Jones a Huw Edwards a gyfrannodd fwyaf i'n
llenyddiaeth feddygol yn ystod yr ugain mlynedd
diwethaf, er y cyhoeddwyd nifer o lyfrau cyn
hynny, o tua 1750 ymlaen.*
Nid anwybyddwyd pynciau meddygol yng
nghylchgronau'r ganrif ddiwethaf ychwaith. Bu
erthygl ar awyriad addoldai yn Y Drysorfa ym
1835 a thrachefn yn yr un cylchgrawn ym 1894. Yn
yr un cylchgrawn, eto ym 1835, ymborth dyn oedd
y testun ac wele adroddiad ynddo hefyd o ddarlith,
adroddiad gweddol faith: 'Traddododd y Dr. Moor,
Phisygwr rhagorol yn Nghaerlleon, araeth gyn-
nwysfawr iawn, yn ddiweddar, yn Sefydliad y
Llawgelfyddwyr, allan o'r hwn y dyfynwyd yr
ychydig bethau nodedig a ganlyn:— Am ddyn wedi
boddi dylid arfer moddion i geisio adferyd
bywyd drwy ymgais am adferiad rhediad y gwaed,
chwythad y ffroenau, ac agoriad y chwys dyllau, er
y byddai dyn wedi bod dan ddwfr am ddwy awr
neu dair Pan y byddo dyn wedi ei grogi yn
erbyn ei wddf, mae marwolaeth yn dyfod yn yr un
modd a phe bai y dyn yn boddi, hynny yw, mae y
gwaed oherwydd diffyg anadl bywiol neu yr oxygen
gas i'r cylla, y mae yn troi yn wenwyn i'r ymenydd
ac i holl ansawdd y gewynau, ac felly yn lladd y dyn.
Mellt. Os bydd dyn newydd gael ei ladd gan
fellten, symmudwch y corph i awyr oer ac iachus,
chwyrn-deflwch gryciad o ddwfr oer arno, rhwb-
iwch y corff yn dda, chwythwch awyr i'w gylla, a
defnyddiwch wefr-dyniad (Electricity) araf.'
Ambell bwt hefyd, megis ymysg nodiadau fel
'Amrywion' Y Dysgedydd (Ionawr, 1845): 'Dywedir
mewn amryw Newyddiaduron fod un o'r Rwsiaid
wedi cael allan ffordd i wella y gynddaredd. Y mae
hefyd un o'r Ffrancod yn Paris wedi bod yn
cynnyg ei gyffyr i athrofa feddygol, a arferwyd yn
ei deulu ef am lawer o flynyddoedd. Dywedir iddo
feddyginiaethu dros 800 o ddynion ac anifeiliaid.'
Eto (1847), 'Y mae y typhus ferer yn gwneud
anrhaith dychrynadwy yn Cork yn y dyddiau
presenol. Bu 146 farw mewn un wythnos yn y
tyloty yno.'
Gwelai awdur erthygl ar fellt yn Y Dysgedydd yn
y pumdegau fendithion o astudio trydaneg. Y mae
dybenion meddygol i gael eu hateb drwyddynt.
Y mae doniau gwyddor a chelfyddyd wedi eu
rhoddi er lleihau dyoddefiadau, ac ychwanegu
cysuron dynolryw Gwyddir fod gwefryddiaeth
wedi bod yn foddion i wella y parlys, y gewyneg, a
llawer o anhwylderau eraill Y mae y mellt wedi
bod yn foddion i adferu golwg deillion am beth
amser Ni wyddir gan hynny pa nifer o
feddyginiaethau gwerthfawr a ellir eu gwneud ond
deall yn iawn pa fodd i'w cymhwyso.'
Bu tro ar fyd mewn newyddiaduraeth feddygol
Saesneg yn y blynyddoedd diwethaf hyn. Dyna'r
stwr a wnaeth y papurau wrth gyhoeddi hanes
trawsblannu'r galon ddynol gyntaf yn Capetown,
rhyw bymtheng mlynedd yn ôl. Yn ymddangos yn
wyrthiol i'r cyhoedd, nid oedd neb yn fodlon
ystyried mai arbrawf, nid gwyrth, ydoedd ac mai'r
canlyniad llwyddiannus mewn cyfnod o amser oedd
yn bwysig. Nid oedd trawsblannu calon yn beth
hollol newydd gan i Alexis Carrell drawsblannu
calon ci ym 1905 ac i lawfeddygon arbrofi ar yr un
llinellau cyn i Barnard drawsblannu calon ddynol.
I lawfeddyg, nid oedd gwahaniaeth dirfawr rhwng
yr arbrawf ar anifail a'r un ar ddyn.
Yr oedd cyhoeddi'r hyn a wnaeth Barnard yn
groes i'r arferiad cyffredin cyn hynny, sef feddygon
ddisgwyl llwyddiant i arbrawf cyn cyhoeddi
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.