Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dal Pen Rheswm Brodor o bentref Llanllwni yn Sir Gâr yw'r awdur. Wedi derbyn ei haddysg uwchradd yn Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan bu'nfyfyrìwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio mewn Mathemateg. Aeth oddi yno i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru i wneud gwaith ymchwil ac enillodd radd M.Sc. Ar hyn o bryd mae'n athrawes Mathemateg a Rhesymeg yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Maen aelod o dîm o athrawon sy'n paratoi Cyfres Mathemateg Cambria. ERBYN hyn mae rhyw dri ar hugain o ddisgyblion ysgol yn Rhydfelen a Llanhari wedi sefyll arholiad lefel ‘O' Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru mewn Rhesymeg. Sefydlwyd y cwrs ym 1979, mae eisoes wedi profi'i werth, a'r gobaith yw y bydd yn cynyddu yn ei boblogrwydd ar sail y llwyddiant cynnar. Gwnaed y gwaith arbrofol gan awduron y cyfrolau dan sylw isod trwy ei ddysgu i ddosbarth yn Ysgol Gyfun Radur ger Caerdydd. Ym 1980, 'roedd cyfanswm o 33 o ymgeiswyr, 17 ohonynt yn dilyn y cwrs trwy'r Saesneg ac 16 trwy'r Gymraeg. Hyd yma, defnyddiwyd y cwrs fel rhan o gwricwlwm blwyddyn gyntaf y chweched dosbarth a hynny, mae'n bosibl, sydd i gyfrif am y canran uchel sydd wedi llwyddo yn yr arholiad. Seilir y cwrs ar y llyfrynnau Ymresymu Vr Newyddian ac, yn yr erthygl-adolygiad hon, mae Ann Dilys Jones, sy'n gyfrifol am ddysgu'r pwnc yn Ysgol Rhydfelen, yn bwrw golwg dros eu cynnwys. Ymresymu Vr Newyddian Cyfrolau I a II, gan Humphrey Palmer a Donald M. Evans, Coleg y Brifysgol, Caerdydd (cyfieithwyd gan Robin Bateman a Meredydd Evans). Cyhoedd- wyd gan Adran Efrydiau Allanol, Coleg y Brifysgol, 66 Heol y Parc, Caerdydd. 1979. £ 2 am y ddwy gyfrol (a £ 1 .50 ychwanegol am y gêm 'Logicon' sy'n gysylltiedig â chynnwys yr ail gyfrol). Y Cefndir Mae pawb ar brydiau'n dadlau, a'r rhelyw ohonom yn barnu, nawr ac yn y man, bod rhywun arall yn dadlau'n wael. Amcan y cwrs hwn yw ein cynorthwyo i benderfynu pa ymresymiadau sy'n gywir a beth sy'n cyfrif bod y rhai gwael yn wael. Rhennir y cwrs i ddwy ran. Ymwna'r rhan gyntaf (sef cynnwys Cyfrol 1) â Rhesymeg ffurfiol; ystyrir ymresymiadau diddwythol syml a hynny gyda chymorth system a ddyfeisiwyd gan Lewis Caroll, Mathemategydd yn Rhydychen yn ystod y ganrif ddiwethaf. Dr. Humphrey Palmer, darlithydd yn yr Adran Athroniaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a ysgrifennodd y rhan hon. ANN DILYS JONES Bwriad yr ail ran (Cyfrol II) yw cyflwyno'r myfyrwyr i egwyddorion sylfaenol Rhesymeg ac osgoi 'arswyd symbolau' yr un pryd. Nid yw'n gofyn am gefndir arbennig mewn mathemateg. Dyfeisiwyd y gêm 'Logicon' gan yr awdur Dr. Donald Evans (sy'n cydweithio gyda Dr. Palmer) fel cymorth-dysgu pwysig. Fe'i defnyddir bellach gan nifer o athrawon rhesymeg mewn amryw byd o wledydd i ysgafnhau'r dysgu a'i wneud yn fwy diddorol. Ffurfia ran bwysig o gynnwys y rhan hon. Cyfieithwyd y cwrs yn raenus iawn gan y Dr. Meredydd Evans, o'r Adran Efrydiau Allanol, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, a'r Br. Robin Bateman sy'n Gofrestrydd Academaidd yn Ysgol Gyfun Llanhari. Defnyddiwyd y ddau lyfryn eisoes fel rhan o astudiaeth cyffredinol yn y chweched dosbarth, gan fyfyrwyr Prifysgol a chan oedolion mewn dosbarth- iadau nos. Rhesymeg Ffurfiol Dechreua'r llyfryn trwy ein hatgoffa o'r defnydd naturiol a wneir o resymu: 'Yn ein sgwrsio bob