Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wir iddo fod naill ai'n aelod o senedd Ewrop neu nad oedd ddim yn Brif Weinidog. O symboleiddio hwn cawn: (p. q) => (qv p) Ond gwelwyd uchod fod y gosodiad hwn yn dawtoleg ac felly mae'r ymresymiad yn ddilys. Astudir ymhellach yn y llyfryn hwn ddilysrwydd ac annilysrwydd ymresymiadau gan ddefnyddio amryw o reolau. Dyma rai o'r enghreifftiau: p'un ai dilys neu annilys yw'r ymresymiadau canlynol ? (1) Os bydd naill ai Abertawe neu Gaerdydd yn cyrraedd y rownd derfynol ni fydd Wrecsam yno. Bydd naill ai Wrecsam neu Gaerdydd yno. Os bydd naill ai Caerdydd yno neu Abertawe ddim yno yna bydd Bangor yno. Bydd Abertawe yn y rownd derfynol. Felly bydd naill ai Bangor yno neu ni fydd Caer- dydd yno. (2) Os llwydda'r Blaid Lafur i ennill yr etholiad ceir mwy o genedlaetholi. Felly, os bydd y Blaid Lafur yn fuddugol a hithau'n dal ei gafael ar gefnogaeth yr Undeb ceir mwy o genedlaetholi. Dyma enghraifft debyg o bapur arholiad 1979: 'Wrth lunio amserlen ddychmygol ar gyfer y chweched dosbarth glynir at yr amodau canlynol: (a) os yw myfyriwr yn astudio bioleg neu fathemateg rhaid iddo hefyd astudio ffiseg; THOMAS JONES YR ALMANACIWR Tt. vii, 160. Clawr caled 1980 £ 6.95. Cyfrol yn ymdrin â bywyd a gwaith Thomas Jones yr Almanaciwr (1648-1713), personoliaeth ddifyr, gwr o amrywiol ddoniau ac un a hawliodd sylw yn ei ddydd fel argraffwr, cyhoeddwr, sêr-ddewinydd, awdur, newyddiadurwr, almanaciwr, bardd a chrachfeddyg. Cafodd Thomas Jones Ie amlwg yn oriel arwyr Bob Owen, Croesor, ac felly dylai'r gyfrol hon apelio at werinwyr diwylliedig ynghyd â haneswyr, llenorion a llyfryddwyr. Gwobrwywyd y gyfrol mewn cystadleuaeth i lunio 'Bywgraffiad o Gymro neu Gymraes' yn Eisteddfod Wrecsam a'r Cylch ym 1977. GWASG PRIFYSGOL CYMRU 6 STRYD GWENNYTH, CATHAYS, CAERDYDD, CF2 4YD (b) ni ellir astudio mathemateg heb astudio ffiseg a vice versa; (c) rhaid astudio 0 leiaf un o'r tri phwnc; (ch) ni ellir astudio mathemateg gyda bioleg. Pa ddosbarthiad ar bynciau sy'n bosibl dan yr amodau hyn? Eglurwch sut y gallech ddefnyddio symbolau i gael eich ateb.' Nid yw ond yn bosibl mewn adolygiad fel hwn i gyfleu peth o naws y cyfrolau ond gobeithir bod hyn o gyflwyniad yn fodd i ysgogi eraill i ym- ddiddori ynddynt. Mae ymddangosiad y cwrs i'w groesawu'n fawr ac mae cael llyfrynnau parod yn y Gymraeg yn sail i'r cwrs yn beth amheuthun, o gofio'r gwaith a gyflawnir yn aml gan athrawon unigol a disgyblion o orfod cyfieithu llyfrau Saesneg. O brofiad personol gallaf gymeradwyo'r llyfrynnau hyn yn llawen i'm cyd-athrawon, gan danlinellu eu bod yn addas ar gyfer amrywiaeth eang o ddisgyblion ac nid arbenigwyr mewn mathemateg yn unig. Mae broliant y llyfr yn mynegi'r peth i'r dim: Mae'r medrau a ddadansoddir ac a ddefnyddir yma yn sylfaenol i bob trafodaeth sy'n galw am dynnu casgliadau mae'n astudiaeth wirioneddol gyffredinol ac yn berthnasol i holl feysydd eraill y cwrs addysg. Mewn byd sy'n dra thueddol i enllib a niwlogrwydd, i haeru disail ac amherthnasedd awdurdodol, gall rhesymeg fod yn rhywfaint o amddiffynfa i'r dyn cyffredin. GERAINT H. JENKINS