Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Silff Lyfrau CROESO I CENNAD Cennad, Cylchgrawn Y Gymdeithas Feddygol, Cyfrol I, Rhif 1. Pris £ 1.75. Pleser unigryw erbyn hyn i adolygwyr yn yr iaith Gymraeg yw croesawu cylchgrawn newydd a hynny mewn maes newydd. Yn wir, ers sefydlu'r Gym- deithas Feddygol yn nechrau'r saithdegau, mae angen wedi bod i gofnodi rhai o'r trafodaethau, pynciau'r dydd, technegau, ymchwil, gweinydd- iaeth, arbenigaeth gan y meddygon, a hynny yn y Gymraeg. Mae Cennad yn cyflawni'r angen hwn ac yn rhoi fforwm i feddygon siarad â'i gilydd gan ddefnyddio eu termau a'u hiaith eu hunain. Mae'r Golygydd, y Dr. leuan Parri o Benrhyn- deudraeth â'i fys nid yn unig ar byls ei gleifion, ond hefyd ei fro a'i broffesiwn, a theyrnged iddo ef ac i selogion eraill y Gymdeithas Feddygol yw amryw- iaeth a safon y cyfraniadau ac ansawdd y cyflwyniad. Nid cylchgrawn i'w ddarllen ar fyrder yw Cennad ond cyfnodolyn a fydd yn ychwanegiad teilwng iawn at wybodaeth a llyfrgell meddyg o Gymro. Yn y rhifyn cyntaf, ceir amrywiaeth diddorol o erthyglau. Er enghraifft, mae'r Dr. Cedric Davies yn ysgrifennu am bwnc cyfoes a dadleuol iawn— 'Cynllunio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol'. Ceir ganddo arolwg manwl o ddatblygiad a darpariaeth y Gwasanaeth lechyd yng Nghymru ers 1948. O Wynedd hefyd y daw'r ail gyfrannwr. Meddyg teulu ym Mangor yw'r Dr. Robin Pritchard ac mae o'n delio gyda 'Helbulon Corfforol mewn Cleifion â Chancr Terfynol'. Gwybydd nad oes pechod casach Na godineb brwnt a llosgach Y wnaeth difa da a dynion A dwr diluw, tân a brwmstan. Dyna farn y Ficer Pritchard am destun erthygl Huw Edwards, Seiciatrydd Ymgynghorol Awdurdod Iechyd Dyfed. Ni wn beth fuasai'r Ficer wedi ei wneud o lith yr awdur ond llosgach (incest) sydd dan sylw. Yn ei erthygl, ceir cefndir hanesyddol a dadansoddiad seiciatregol (ac anthropolegol) i'r math yma o gyfathrach. Cyfathrach o fath gwahanol sydd gan Gyfar- wyddwr Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Mae Alwyn Roberts yn defnyddio y method meddygol o ddiagnosis i 'Ddidoli Dadleuon' ynghylch fflworeiddio dwr. Mae ei gronicl o'r dadleuon yn egluro pa mor bwysig ydyw i leygwyr ymgiprys ag agweddau o'r problem- au meddygol. Yn wir, nid gormodaeth fyddai dweud bod ei erthygl yn mynd at sylfaen democrat- iaeth. Fe fyddai o fudd i unrhyw un sy'n penderfynu rhywbeth dros y gymdeithas loffa ffrwyth y didoli hwn. Rhoir dau air olaf y Cennad cyntaf i'r Dr. Fraser Williams, Microbiolegydd Ymgynghorol o Fan- ceinion erbyn hyn, a'i eiriau-Ffibrosis Sustaidd- 'yr afiechyd mwyaf cyffredin ymhlith tylwythau croenwyn y ddynoliaeth'. Mae ei erthygl (y gyntaf o dair) yn delio yn drylwyr gyda chefndir gwydd- onol ac agweddau clinigol yr anhwylder hwn. Un arall o hoelion wyth y Gymdeithas Feddygol yw'r Dr. Emyr Wyn Jones. Yn ei gyflwyniad i Cennad mae yn sôn am y manteision yn ogystal â 'phrydferthwch' sy'n perthyn i uned fechan ond serch hynny yn gweld 11e i ehangu 'heb beryglu na'i diddosrwydd na'i werth'. Dyna ei obaith a'i gyngor i Cennad. 'Rwy'n gwybod fod selogion Y GWYDDONYDD yn porthi ei eiriau. H.E.E. APPIL-Advanced Physics Project for Independent Learning, 1980: Unit EN-Electrons and the Nucleus, Llyfr Disgybl £ 2.45, Llyfr Athro 95c; Unit TP—Thermal Properties, Llyfr Disgybl £ 2.65, Llyfr Athro 95c. Cywaith yw APPIL a ddatblygwyd gan Awdur- dod Addysg Llundain Ganol er mwyn hwyluso'r gwaith o ddysgu ffiseg at Safon Uwch mewn cyfnod pan fo prinder athrawon ffiseg yn frawychus. Bwriadwyd y cynllun yn wreiddiol i'w ddefnyddio gan grwpiau bach fel rhaglen ddysgu bersonol fel bo pawb yn gweithio wrth ei bwysau gyda chymorth achlysurol gan athro. Erbyn hyn mae'r cynllun wedi profi ei werth pan fo ystod gallu eang yn y dosbarth, pan fo cefndir y disgyblion yn y pwnc yn dra gwahanol a phan fo gorfodaeth ar yr athro i ddysgu'r chweched isaf ynghyd â'r chweched uchaf. Ysywaeth, mae'r dair sefyllfa hon yn ddigon cyfarwydd i ysgolion Cymru. Deg uned sydd i'r cywaith, a phob un yn cynnwys gwaith am ryw chwe wythnos. Yn y flwyddyn gyntaf ceir unedau ar strwythur mater, grymoedd,