Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mudiant, meysydd grym ac ar briodweddau trydan, tonnau a mater. Unedau at waith yr ail flwyddyn yn y chweched yw'r ddwy dan sylw yma. Mae dau deitl arall, sef 'Dirgryniadau a Thonnau', ac 'Electromagneteg', yn cwblhau'r rhestr. Cyn belled ag sy'n amlwg o'r teitlau mae'r cwrs yn cynnwys holl faes llafur newydd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, ac eithrio'r electroneg, er ei bod hi'n bosibl bod yr hyn sydd ei angen yn gynwysiedig yn Uned EP-Priodweddau Trydanol. Wrth ddysgu Safon Uwch un o'm prif anawsterau yw perswadio'r plant i baratoi nodiadau personol addas. Wedi'r holl gyfarwyddyd a dderbyniant tuag at Safon Gyffredin mae'n anodd iddynt gael gafael ar yr hyn sy'n bwysig mewn gwers neu werslyfr Safon Uwch. Y duedd yw i geisio ysgrifennu pob gair y mae'r athro yn ei ddweud, neu gopïo allan benodau cyfan air am air, nes diweddu gyda set o nodiadau sy'n llai o gymorth dysgu nag yw'r gwerslyfr gwreiddiol. Mae APPIL yn dechrau pob pennod â datganiad o'i nod, a rhestr o'r holl bethau y dylai'r disgybl fod wedi eu meistroli wedi ei gorffen. Mae'r ddwy uned hon yn arbennig o ofalus yn hyn o beth, fel sy'n angenrheidiol wrth gyflwyno pynciau dyrys heb fawr o gymorth athro. Arweinir y disgybl gam wrth gam a chaiff weld y llwybr yn glir o'i flaen. Y drafferth yw bod bron mwy o eiriau o gyfarwyddyd, o ragarweiniad, o gwestiynau datblygiadol neu gwestiynau hunan- asesu, ac o brofion asesu cynnydd nag sydd o eiriau o wybodaeth o'r pwnc. Mae bron yn deg dweud mai'r cyfan yw'r cwrs yw rhestr o arbrofion yn cael eu dilyn gan gwestiynau awgrymog, yn union fel cyrsiau Nuffield, er bod APPIL yn cynnwys atebion swmpus esboniadol yng nghefn y llyfrau. Mae posibilrwydd y daw disgybl allan o ben pella'r broses ddysgu gyda syniad eglur o'r hyn a ddylai wybod ond â gafael sigledig ar y ffeithiau! Er hynny, medrai hyn ragoriaethu ar sefyllfa llawer sy'n wynebu'r arholiad terfynol-o leiaf byddai dilynwyr APPIL yn abl i ddewis y cwestiynau y maent wedi eu hastudio. Mae'r Uned Electronau a'r Nwclews yn delio â phwnc deniadol mewn modd deniadol iawn. Ceir ffotograffau du a gwyn rhagorol o'r tri math o diwb electron, o'r tiwb paladr main gyda'i elec- tronau'n teithio'n gylchog mewn maes magneteg unffurf ac o batrymau diffreithiant tonnau-X ac electronau mewn haen o alwminiwm. Y mae dyfyniadau cynhyrfus o erthyglau gwreiddiol y gwyddonwyr yn sôn am eu harbrofion enwog ar ddechrau'r ganrif. Hoffaf yn arbennig y darnau o benillion digri sy'n tanlinellu rhyfeddod fel natur ddyblyg goleuni neu fel ymholltiad niwclear. Yn olaf mae pennod dau ar yr effaith ffoto-electrig yn agor â llun o'r Albert Einstein ifanc â'i lygad ymholgar yn annog pob plentyn i gampau uwch o ddealltwriaeth. Cychwynna'r Uned Priodweddau Thermal yn gadarn, trwy ddelio'n feistrolgar â phwnc sydd wedi drysu llu o fyfyrwyr, sef Graddfeydd Tymheredd. Mae'r cyflwyniad a'i ddilyniant yn eglur iawn ac yn rhoi patrwm campus i unrhyw athro ei ddilyn heb iddo wneud defnydd o'r holl gwrs. Mae'r un peth yn wir hefyd am fodel y ddamcaniaeth ginetig o'r nwy perffaith sy'n cael ei ddisgrifio ym mhennod tri. Llwyddir i osgoi llawer o'r problemau arferol trwy gael y myfyrwyr i brofi hafaliad y nwy perffaith drostynt eu hunain mewn cwestiwn sy'n eu tywys yn sicr o linell i linell. Fel yn y cynllun Nuffield mae APPIL am sicrhau bod disgyblion yn medru darllen erthygl wyddonol ac amgyffred y pethau pwysig ynddi. Ceir ymarferion dealltwriaeth diddorol yn Uned TP megis un ar stad ffisegol y mater serennol. Dilynir yr ysgrif gan gwestiynau sy'n gorfodi'r disgyblion i drin plasma fel pedwar- edd stad mater. Mae i'r ddwy uned ganllaw athro sydd yn esbonio pwynt pob pennod o safbwynt yr athro; yn rhoi llyfryddiaeth fwy manwl; yn rhestru offer angenrheidiol a defnydd ffilmiau ychwanegol; ac yn rhoi atebion llawn i'r holl gwestiynau sydd heb fod yn rhai datblygiadol neu yn rhai hunan-asesu. GWEN AARON Rhai o Wyddonwyr Cymru, gan O. E. Roberts. Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf., 1980. Tud. 100. Pris £ 3.00. 'Wedi cyhoeddi Gwyddonwyr o Gymry (1956), bwriadwn ysgrifennu am ychwaneg ohonynt ond ni ddaeth cyfle hyd yn awr.' Felly y mae'r awdur yn cychwyn ei ragair i'r llyfr defnyddiol a phwysig hwn. Prin fod angen tanlinellu'r ffaith mai O. E. Roberts yw un o brif gymwynaswyr gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Testun llawenydd yw iddo lwyddo i gadw ei addewid wrth gyhoeddi'r gwaith graenus a gofalus hwn. Nid oes yma nemor ddim sy'n ail-adrodd cynnwys ei gyfrol gyntaf a chawn benodau ar y botanegwr Edward Lhuyd (1660-1709) ynghyd â detholiad o naturiaethwyr, a rhoddir sylw haedd- iannol i'r esblygwr Alfred Russel Wallace (1823- 1913). Cafodd pawb eu magu ar syniadau Darwin,