Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ond faint o blant Cymru sy'n clywed crybwyll enw Wallace ? A dyna'r mathemategwyr wedyn- roedd hi'n hen bryd i rywun dalu teyrnged iddynt! Mae'r daearegwyr a'r ffisegwyr sy'n cael sylw yn cynnwys nifer o wyddonwyr amlwg ein cyfnod presennol. Daw'r llyfr i ben gyda darlith yr awdur i Adran Wyddonol y Gymdeithasfa Gymreig ym 1973- a hon yw'r unig ran o'r llyfr sydd eisoes wedi ymddangos mewn print, sef yn Rhifyn Rhagfyr 1973 O Y GWYDDONYDD. Hawdd fyddai i gyfrol fel hon, sy'n cynnwys cymaint o wybodaeth am lu o wyddonwyr, fod yn gatalogaidd sych ond llwydda'r awdur i roi cnawd ar yr esgyrn a chreu personoliaethau byw. Yn wir mae'n codi chwant arnom yn aml am ragor o wybodaeth, am gynfas ehangach a fyddai'n galluogi'r darllenydd i werthfawrogi'r cysylltiad rhwng y gwrthrych a'i gyfnod. Fy unig ofid yw nad GWASG PRIFYSGOL CYMRU PYNCIAU LLOSG CYMRU ATTITUDES AND SECOND HOMES IN RURAL WALES Chris Bollom; tt. 130. Clawr meddal £ 2.50. Astudiaeth o ardrawiad tai haf ar nifer o gymdeithasau yng Ngwynedd a Chlwyd, gan ddangos yr angen am ymchwil bellach yn y maes hwn. SECOND HOME OWNERSHIP-A CASE STUDY Richard de Vane; tt. xiii, 108. Clawr meddal £ 1.75. Yn y gyfrol hon mae'r awdur yn astudio amlder tai haf yng Ngwynedd, a'u hardrawiad economaidd trwy edrych ar wariant yn yr ardal gan berchenogion a'u teuluoedd. MID-WALES: DEPRIVATION OR DEVELOPMENT Clare Wenger; tt. 230. Clawr meddal £ 3.75. Mae'r adroddiad yma yn cyflwyno darlun o batrwm cyflogaeth yn yr ardal ac yn tynnu sylw at agweddau cymdeithasol eraill sy'n effeithio ar y problemau. AN ECONOMETRIC MODEL OF WALES Stephen Wanhill; tt. xii, 148. Clawr meddal £ 5.00.. Cynnwys: Adeiladwaith newydd i Economi Cymru, 1945-70; Cyfrifon Cenedlaethol i Gymru, 1948-68; Modelu'r Economi Cymreig, 1948-68; Efelychu â Model Econometrig; Cyfeiriadau a Llyfryddiaeth Ddethol. COLLIERY CLOSURE AND SOCIAL CHANGE John Sewel; tt. 81. Clawr meddal £ 1.50. Mae'r astudiaeth hon yn dangos yn glir ganlyniad cau pwll glo ar fywyd cymdeithas gyfan ac yn olrhain y problemau a wynebir nid yn unig gan y glowyr di-waith ond hefyd gan ddisgyblion sydd wedi cyrraedd oed gadael ysgol, ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr. GWASG PRIFYSGOL CYMRU 6 STRYD GWENNYTH, CATHAYS, CAERDYDD, CF2 4YD oedd yn bosibl i gynnwys lluniau na mynegai. Byddai'r ddau wedi cyfoethogi'r llyfr yn fawr ac mae diffyg mynegai, yn arbennig, yn rhwystro'r darllenydd rhag gwneud defnydd llawn o'r manyl- ion sy'n britho'r tudalennau. Mae'r sawl sy'n mynd ati i bortreadu gwyddon- wyr Cymru yn cyflawni gwaith cenhadol o wir werth oherwydd fel y cawsom ein cyflyru yn yr ysgol i feddwl am hanes Prydain yn nhermau hynt brenhinoedd Lloegr, felly hefyd y mae hanes gwyddoniaeth yn cael ei gyfyngu i wyddonwyr o Loegr a daw ein disgyblion ysgol i synhwyro mai 'gwlad y gân' yn unig yw Cymru. Ond nid felly y mae hi, wrth gwrs, ac 'rydym yn ddiolchgar unwaith eto i O. E. Roberts am ei waith wrth geisio unioni'r cam. H.G.FF.R.