Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nodion o'r Colegau BANGOR Er mwyn cryfhau'r berthynas rhwng y Coleg ac awdurdodau iechyd lleol sefydlwyd cyd-bwyllgor anffurfiol gan y Coleg ac awdurdodau iechyd Gwynedd a Chlwyd. Gobeithir y bydd y cyfnewid gwybodaeth a ddaw o hyn yn golygu y bydd anghenion ymchwil yr awdur- dodau iechyd yn cael sylw adrannau'r Coleg, tra bydd datblygiadau diweddar, a all fod o ddiddordeb meddygol, yn dod i wybodaeth y rhai a all elwa arnynt. Ym mis Medi eleni ymddeolodd dau aelod o staff y gyfadran wyddonol sydd wedi rhoddi llawer o flynyddoedd o waith i'r Coleg; sef Dr. G. M. Davies o'r Adran Amaethyddol, a Mr. F. Holmes o'r Ysgol Gwyddorau Ffisegol a Molecwlar. Heblaw eu gwaith dysgu ac ymchwil yn eu hadrannau, bu'r ddau yn weithgar iawn mewn materion gweinyddol y Coleg, a dymunwn yn dda iddynt ar eu hymddeoliad. Er y cyfyngu ariannol, cafodd y Coleg fendith pwyllgor grantiau'r prifysgolion i wellhau cyfleusterau adrannau gwydd- orau'r môr ym Mhorthaethwy. Cafwyd caniatâd i fwrw ymlaen â labordy newydd ar safle Craig Mair, mae'r labordy microbioleg newydd yn barod erbyn hyn, ac mae system newydd o gyflenwad dwr môr bron yn barod. Hefyd, mae gwaith wedi dechrau ar addasu hen adeilad i wneud ty anifeil- iaid ar gyfer yr Adran Swoleg Cym- hwysol. Bydd cyfleusterau yma i astudio morgrug, sy'n un o ddiddordebau'r adran hon. Ar y llaw arall, mae cyn- lluniau datblygu fferm y Coleg yn Aber wedi eu gohirio oherwydd bod amcan- gyfrifon y gost yn fwy na'r arian sydd ar gael. Cafwyd amryw o gynadleddau cyd- wladol yma yn ddiweddar. Bu grwp entomoleg coedwigol Prydain yn trafod methodau rheoli plâu pryfed, a bu cynhadledd ar fioleg poblogaethau planhigion yn ystod mis Mai. Bu amryw yn gweithio tramor eleni. Bu Dr. G. Gatehouse o'r Adran Swoleg Cymhwysol yn gweithio yn Kenya ar y modd y mae'r gwyfyn yn hedfan ac ymddygiad y pryfed tsetse. Bu Dr. D. Das-Gupta o'r Ysgol Peirianneg yn gweithio ym Mhrifysgol De Califfornia ar ddefnyddiau ynysu. Bu Dr. D. A. Jones o Adran Bioleg y Môr yn gweithio yn Kuwait ar ferdys a bu Dr. W. Eifion Jones o'r un adran yn gweithio ar arfordir Swdan y Môr Coch. Penodwyd Dr. P. F. Lloyd o'r Ysgol Gwyddorau Ffisegol a Molecwlar i bwyllgor cofrestru, pwyllgor Cemeg ym Mhrydain, a phwyllgor materion proffes- iynol Cymdeithas Frenhinol Cemeg, a phenodwyd Dr. J. Popplewell yn gyd- olygydd cylchgrawn newydd ar hylifau magnetig. Hefyd, penodwyd yr Athro G. R. Sagar yn olygydd biolegol cylchgrawn ecoleg gymhwysol. Ym 1980 daeth 413 o fyfyrwyr newydd i'r gyfadran wyddonol: 38 o Gymru, 348 o weddill yr ynysoedd Prydeinig a 27 0 dramor. Y niferau cyfatebol o geisiadau oedd 240, 2,553 a 392. Llynedd derbyn- iwyd 355. Mae'n ymddangos bod y cynnydd yn y pynciau biolegol, ac yn enwedig mewn Amaethyddiaeth a Choedwigaeth. Unwaith eto, mae'n siomedig iawn bod cyn lleied o Gymry Cymraeg yn gwneud gwyddoniaeth. Traddodwyd y darlithiau Cymraeg eleni gan yr Athro John Bryn Owen. Bu cyfres o dair o ddarlithiau gyda'r teitlau: 'Bwyd i Bawb o Bobl y Byd', 'Rheolaeth ar Fwyta', ac 'Anifeiliaid y Dyfodol'. Aelodau o staff academaidd y Coleg sy'n traddodi'r darlithiau hyn, a'r Athro Owen yw'r gwyddonydd cyntaf ers rhai blynyddoedd i gael y fraint a'r pleser o sôn am ei bwnc yn y gyfres hon o ddarlithiau cyhoeddus. Penodwyd yr Athro lolo Wyn Williams o'r Adran Addysg yn aelod o Gyngor Addysg y Gymdeithas Cemeg Frenhinol, ac o Bwyllgor y Grwp Testunau Cwricwlwm sy'n ystyried datblygu defnyddiau hanesyddol eu naws i'w defnyddio gan athrawon cemeg mewn ysgolion a cholegau; penodwyd Mr. A. Waddon o'r Adran Seicoleg yn aelod o dîm ymchwil y Cyngor Ysgolion sy'n anelu at ddatblygu defnyddiau diagnostig ar gyfer plant araf eu meddwl, Cymraeg eu hiaith, tra daeth yr Athro D. J. Crisp o Adran Bioleg y Môr yn arweinydd Project Grwp 8 (Bioleg Môr) Consortiwm Technoleg Môr Prifysgolion y Gogledd Orllewin. Bu amryw o aelodau r stan yn gweithio ac yn darlithio tramor. Bu Dr. R. Gareth Wyn Jones yn ymweld â nifer o labordai yn America a Mecsico, a bu'n yr ail Weithdy Rhyngwladol Biohalwynedd yn La Paz. Bu'r Athro T. J. Lewis a Dr. R. Pethig o'r Ysgol Peirianneg yn darlithio yng Nghyfarfod Gwyddonol Blynyddol y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Ganser yn Sea Island, Georgia, tra bu'r Athro J. Harper o'r Ysgol Llysieueg yn dar- lithio ar Fioleg Poblogaeth Planhigion ym Mhrifysgolion Sweden. Bu'r Dr. J. M. Wilson o'r Ysgol Llysieueg yn trafod ymchwil ar effeithiau oerfel a rhew ar blanhigion yn Hwngari, a bu Dr. G. Smith o'r Ysgol Gwyddorau Ffisegol a Molecwlar yn darlithio mewn cynhadledd cydwladol ar Addysg Ffiseg yn Nhrieste. Beth bynnag, yr wyf yn sicr bod y Bala wedi cael sylw am y tro cyntaf erioed mewn cynhadledd gwydd- onol cydwladol pan fu'r Athro J. Darbyshire o'r Adran Eigioneg yn darlithio yng Nghyfarfod Cymdeithas Ddaearffisegol Ewrop ym Mwdapest ym mis Awst ar 'Tonnau mewnol yn Llyn Tegid'. Ymhlith y grantiau ymchwil a dder- byniwyd yn ddiweddar yn yr Adran Swoleg Gymhwysol cafodd Dr. M. J. Lehane £ 18,000 gan Ymddiriedolaeth Wellcome i ymchwilio i ddulliau o bennu oed pryfed. Cafodd Dr. D. A. Jenkins o'r Adran Biocemeg £ 700 ar gyfer archwiliad petrograffig o grochen- waith Neolithig o Ynys Môn, a chafodd Dr. Wyn Parry o'r Ysgol Llysieueg f24,000 ar gyfer astudiaethau ar swydd- ogaeth silicon yn nhwf gwenith, ceirch a barlys. Fel arfer bu amryw o ymwelwyr tramor yn ddiweddar. Bu Dr. Jiri Scoupy o Sefydliad Coedwigaeth Wydd- onol Prâg yn ymweld â'r Adran Coedwigaeth, a bu'r Athro Li Shanhao a Dr. Yu Minyuan o'r Sefydliad Hydrofioleg yn Wuhan, Tseina yn ymweld ag Adran Bioleg y Môr i drafod dulliau tyfu algae gwyrddlas. Hefyd bu'r Athro Gareth Williams, un o'n cyn-fyfyrwyr, yn ymweld â'r Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg. Cymeradwyodd Bwrdd Academaidd y Brifysgol sefydlu Ysgol Bioleg Anifeil- iaid i'w chreu drwy gyfuno, ym mis Hydref 1981, yr Adran Swoleg a'r Adran Swoleg Gymhwysol.