Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar hyn o bryd mae trafodaethau yn mynd ymlaen ynglyn â chyrsiau o fath newydd ar gyfer peirianwyr. Bydd y Coleg yn cydweithio gyda GEC- Marconi Electronics a Ferranti i gyflwyno cwrs Coleg/Diwydiant cyfun, cyffredinol ei natur. Arloeswyd yn y math yma o gwrs gan Brifysgol Bath. Syniad Canghellor y Brifysgol, y Tywysog Siarl, oedd i Brifysgol Cymru gynnig cwrs o'r math yma, ac mae Bwrdd Academaidd y Brifysgol eisoes wedi ei gymeradwyo, er na luniwyd manylion eithaf y cynllun eto. Rhag- welir y bydd yn gwrs pedair blynedd yn arwain at radd B.Eng., ac mewn rhai achosion at radd M.Eng. Gobeithir Dyn A'i Waith Golygwyd gan Mati Rees; tt. 91. 28 llun a ffigur. Clawr caled 50c. Llyfr darllen i blant yn cynnwys penodau ar Y Cwrwgl; Pysgota ar Lan y Môr; Toi; Y Chwarelwyr; Y Crydd; Y Saer; Mynd i Efail y Gof; Y Felin; Y Felin Wlân; Y Glöwr 'Slawer Dydd; Mynd i Lawr i'r Pwll Glo; Y Gweithiwr Tun (neu Alcam); ynghyd â Geirfa. 10 i 12 oed. Y Byd Byw (Rhan II) Elizabeth Stanley, Cyfieithwyd gan Stephen J. Williams; tt. 89. 19 plât. Clawr caled 75c. Llyfr natur i blant tua 11 oed. Ceir ynddo nifer o luniau diddorol a phenodau ar Y Traeth; Y Traeth Tywod; Gwrychoedd neu Berthi; Gerddi; Dirgelion y Llyn; Mynyddoedd a Rhostir. Asia Aled Lloyd Davies; tt. 93. 57 map a ffigur, 42 darlun. Clawr caled £ 2.50. Paratowyd y gyfrol yn arbennig ar gyfer disgyblion yr ysgolion uwchradd sy'n astudio daearyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, ond ceir ynddi lawer o wybodaeth ddiddorol ac oriau o ddarllen difyr i bobl o bob oed. A'r cyfan yn cael ei gyflwyno'n hynod ddeniadol a graenus.' (Llais Llyfrau) Storiau Pum Munud Tt. 69. Clawr meddal 50c. Casgliad o hen bapurau'r Arholiad Llafar sydd yn ychwanegiad defnyddiol iawn at adnoddau darllen plant o 10-12 oed. Straeon Tad Hanes (Sef pigion o waith Herodotos ) Cyfieithiad rhydd gan T. Hudson-Williams; tt. 54. Clawr papur 50c. Cyfieithiad rhydd o rai o straeon y Groegwr Herodotos, lle y mae'n ymdrin â hanes ac arferion y rhan fwyaf o genhedloedd y byd fel yr adnabyddai'r awdur ef. Hanes Cymru hyd at farw Hywel Dda Tecwyn Jones; tt. xi 77. 26 llun ac 11 map. Clawr caled f3.95. Adargraffiad 1980 0 lyfr (a gafodd gryn glod). Fe'i bwriedir ar gyfer plant blwyddyn gyntaf ysgol uwchradd. O fewn pum pennod ddestlus, llwydda'r awdur i rychwantu cyfnod yn ymestyn o Hen Oes y Cerrig i ddiwedd teyrnasiad Hywel Dda. Cyflwynir yr wybodaeth yn llyfn ac yn glir (Llais Llyfrau) Mae'n frith o luniau uchel eu safon, rhai mewn lliw (Yr Athro) GWASG PRIFYSGOL CYMRU dechrau ar y cwrs ym 1982 gydag oddeutu 20 myfyriwr yn cael eu derbyn ar y dechrau. Cymeradwyodd y Bwrdd Academaidd sefydlu'r pum cwrs cyd-anrhydedd newydd canlynol yn y Gyfadran Wydd- onol: Addysg Gorfforol a Mathemateg neu Ffiseg neu Gemeg; Efrydiau Addysg a Ffiseg neu Gemeg. Gobeithir y bydd y cyrsiau hyn yn denu myfyrwyr nad ydynt yn barod i ymgymryd â chwrs llawn gwyddonol. Mae sefyllfa ariannol y Coleg yn bur dywyll. Cafodd addewid o swm penodol ar gyfer y flwyddyn gan y Llywodraeth, LLYFRAU I BLANT 6 STRYD GWENNYTH, CATHAYS, CAERDYDD CF2 4YD ond ar ôl i rai misoedd fynd heibio yn y flwyddyn ariannol, penderfynodd y Llywodraeth dorri'r grant gan ryw chwech y cant. Mae'n ymddangos mai'r bwriad yw cadw codiadau mewn cyf- logau staff yn isel. Y mae, wrth gwrs, effeithiau eraill sy'n fwy amlwg. Nid yw'n bosibl penodi olynydd i unrhyw un sydd yn ymadael, ac nid oes yr un geiniog ar gyfer prynu llyfrau i'r llyfrgell wyddonol. Hoffwn longyfarch Dr. A. J. E. Smith o'r Ysgol Llysieueg ar gael ei ddyrchafu yn Ddarllenydd. LL.G.C.