Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol CYNADLEDDAU GwYDDONOL yw un o'r dulliau cydnabyddedig a ddefnyddir gan wyddonwyr i gyfathrebu a chael y wybodaeth ddiweddaraf. Mae cylchgronau yn araf iawn yn ymddangos a chan fod eu nifer yn cynyddu'n barhaus, fe all sgwrs anffurfiol dynnu sylw at bapur allweddol allai'n hawdd gael ei golli, yn enwedig mewn meysydd fel bioleg moleciwlar, er enghraifft, sydd yn ymylu ar fwy nag un arbenigaeth. 'Does ond rhaid darllen adroddiad y colegau o flwyddyn i flwyddyn i weld bod bri a phwysigrwydd yn gysylltiedig â darllen papur mewn cynhadledd ryngwladol. Yr awgrym yw bod gwahoddiad i gyfrannu i'r gynhadledd yn gydnabyddiaeth o gyrhaeddiadau'r gwyddonydd yn ei faes arbennig. Os cyhoeddir y papur, yn ogystal, gwell fyth. Dyna gyhoeddiad arall i ychwanegu at y rhestr, er ei fod, gan amlaf yn ail-adrodd canlyniadau a gyhoeddwyd yn wreiddiol mewn man arall. Erbyn hyn, fe ellid disgwyl bod y lleihad yn y cymorth ariannol a roddir tuag at ymchwil wedi arwain at lai o gynadleddau a chyhoeddi. Fodd bynnag, nid dyna'r argraff a gefais i drwy fynychu tair cynhadledd o fewn ychydig wythnosau eleni. Cellucon '84 Cynhaliwyd cynhadledd Cellucon '84 ar y cyd rhwng Cymdeithas Gemeg Frenhinol Prydain a Chymdeithas Gemeg America (CGA) am wythnos yng Ngorffennaf yn yr Athrofa yng Nghlwyd. Daeth dau gant yno o bymtheg gwlad, ac yn drawiadol, Prydain oedd â'r gynrychiolaeth leiaf. Roedd bron i 12,000 yng nghynhadledd genedlaethol CGA yn Philadelphia, a'r cyfarfodydd wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y ddinas fawr honno mewn gwestai unigol. Dim ond 60 oedd yn bresennol mewn gweithdy dan nawdd NATO yn nhref hynafol Volterra yn yr Eidal. Ni allwn lai na gofyn i mi fy hun p'run o'r rhain a gyfrannodd fwyaf at ein gwybodaeth wyddonol ac at ddatblygiad y gwyddonwyr a'i mynychodd. A oedd y canlyniad yn werth yr holl arian a wariwyd arnynt? Gellid amcangyfrif bod £ 60,000 wedi ei wario gan y cynrychiolwyr yng nghynhadledd Cellucon '84 ar gostau aros, teithio a thâl i'r trefnwyr. Ped ychwanegid at hyn eu cyflogau, byddai cost Cellucon '84 yn £ 120,000 0 leiaf. Yr un modd byddai cost cynhadledd genedlaethol CGA yn £ 7.2 miliwn, a gweithdy NATO dros bythefnos yn yr Eidal yn £ 30,000. Dros yr haf, cynhaliwyd cannoedd o gynadleddau ar hyd a lled y byd, a byddai'n anodd iawn eu rhestru. Er mwyn ceisio cael rhyw amcangyfrif o'r costau gadewch i ni yma ychwanegu y 1100 gynadleddau Gordon a drefnir yn rheolaidd yn ardal Lloegr Newydd a Chaliffornia gyda 140 ym mhob un. Rhoddir cryn fri ar fynychu'r rhain. Maent yn anffurfiol a'r cynadleddwyr yn gymysgedd o bobl ifainc a gwyddonwyr profiadol. Trefnir y rhaglen gan Gadeirydd a ddewisir o flwyddyn i flwyddyn, ac ymestyn y pynciau ar draws y sbectrwn gwyddonol. Yn ôl un amcangyfrif gwariwyd o leiaf £ 7 miliwn ar y rhain dros un haf. Wedyn bob blwyddyn cynhelir, nid cynadleddau yn yr ystyr flaenorol, ond yr hyn y byddai'n fwy cywir eu disgrifio fel sasiwn neu gyngres rhyngwladol, mewn cemeg, ffiseg, astudiaethau ymbelydrol, carbohidradau etc, gan enwi'r meysydd y gwn i amdanynt yn unig. Fe all 5,000 fynychu'r rhain, a chan eu bod yn rhyngwladol, yng ngwir ystyr y gair, mae costau teithio a chynhaliaeth gymaint a hynny'n fwy. Er mwyn cael amcangyfrif bras o'r nifer chwiliais y cylchgronau a chael hyd i 500 sy'n hawlio'r disgrifiad Cyngres Rhyngwladol. Nid oes amheuaeth bod £ 50 miliwn, 0 leiaf, yn cael ei wario ar drafodaethau gwyddonol bob blwyddyn. Portmeirion 'Does dim syndod felly bod diwydiant llewyrchus wedi tyfu ar gefn y clebran gwyddonol yma. Nid oes un safle yng Nghymru lle gellid cynnal un o'r cynadleddau yma a chael lle i 5,000-10,000 o gynrychiolwyr. Dair blynedd yn ôl buom yn chwilio Llandudno, Caerdydd ac Abertawe am fan i gynnal y Gyngres Ymchwil Pelydredd Rhyngwladol ymhen dwy flynedd, gan fod angen trefnu ymhell o flaen llaw. O'r diwedd Caeredin a ddewiswyd, gan fod yna ddigonedd o welyau gwesty, campws prifysgol, neuadd addas, i'r sesiynau cyflawn (plenary) a chyngor effro oedd yn barod i gynnig derbyniadau dinesig a mathau eraill o gefnogaeth. Yn ddiweddar hefyd fe gollwyd cynhadledd fu am ugain mlynedd yn cyfarfod yn rheolaidd ym Mhortmeirion, yng Ngwynedd, sef Cynhadledd Miller ar effeithiau cemegol a biolegol ymbelydredd. Pan aethpwyd yno y llynedd i wneud y trefniadau arferol, roedd y gost yn hollol afresymol, er bod y gynhadledd wedi'i threfnu ar ddyddiad y tu allan i'r tymor gwyliau. Y canlyniad fu i'r gynhadledd yma gartrefu bellach yn Windermere, a'r ardal honno sy'n elwa ar holl fanteision yr arian a werir ar gyhoeddusrwydd. Onid oes yma gyfle i'r Bwrdd Croeso gydweithio â'r Brifysgol a'r colegau i farchnata'r adnoddau cynhadledd? Bellach mae'n farchnad arbennig ac nid yw'n ddigon i gynhyrchu pamffledi lliwgar cyffredinol. Nid yw gofynion cynhadledd fach arbenigol yr un â chyngres ryngwladol. Oni ddylid ymchwilio i'r adnoddau sydd ar gael ac yna gysylltu gyda'r cyrff amrywiol sy'n trefnu cynadleddau drwy'r byd? Dangosodd canolfan