Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oedd galw ym mhentref Castel Nova am gelati, sef hufen ia, cyn dychwelyd. Ni fyddem wedi disgwyl gweld gardd drofannol, fel arfer, yn y pentref moel, uchel yma yn y mynyddoedd. Ond roedd y gwres o'r ddaear, a'r hafn yn rhoi cysgod naturiol i'r gwyntoedd miniog, nes bod palmwydd, hyd yn oed, yn ffynnu yno. Rhoddodd y fro, yn sicr, ddimensiwn ychwanegol i'r gynhadledd. Dyma amgylchiadau mae NATO yn eu mynnu ar gyfer eu Gweithdai a'u Cylchoedd trafod gwyddonol Ewropeaidd, ac o weld llwyddiant Volterra yn denu cynadleddau bach, mae'n amlwg bod llawer o gyrff rhyngwladol eraill o'r un farn â NATO. Mae digon o fusnes bellach i gyfiawnhau mentr Cyngor Volterrayn adeiladu neuadd o faint canolig y gellir ei defnyddio ar gyfer y cyfarfodydd gwyddonol, ac sydd o ddefnydd hefyd i'r boblogaeth leol, o tua 13,000. Mae'n amlwg bod y fenter yn cael eu holl gefnogaeth. 'Roedd croeso i'r ymwelwyr, oedd wrth eu bodd yn crwydro drwy strydoedd cuI a waliau hynafol Volterra. Gorffennai trafodaethau'r nos yn rheolaidd yn y tai gelati, a rhwng y llyfiadau, yr oeddem yn parhau i drafod, trefnu i gyfarfod eto, cyfnewid gwybodaeth ac adeiladu cyfeillgarwch sydd yn fy mhrofiad i wedi cyfoethogi fy mywyd i, Rhiain a'r plant. 'Roedd Elen, y ferch, gyda ni, a hithau yn ail-afael yn y cysylltiad â merch y Felicolis fydd rwan yn dod i Brydain i barhau gyda'i gyrfa ym myd y ddrama. 'Roedd y ddwy wedi cyfarfod o bryd i'w gilydd dros y pymtheg mlynedd olaf, yn ystod ein hymweliadau â'r Eidal. Dyma un arall o fanteision y cynadleddau hyn, sydd yn ymestyn i gwmpasu'r teulu i gyd. Mi wn bod llawer fyddai'n arswydo at y gost o £ 50 miliwn er mwyn i wyddonwyr gael gweld y byd! Wrth gwrs, nid ydynt bob amser yn delio â gwaith newydd sy'n mynd i ymestyn ffiniau'r pwnc, ac mae llawer o ail-adrodd. Fodd bynnag, mae'r manteision yn amlwg hefyd, yn gwarchod y frawdoliaeth wyddonol rhag mynd yn blwyfol a gor-genedlaethol. Roedd merch o wlad Pwyl yn Volterra, ac yr oedd yn amlwg oddi wrth agwedd y gwyddonwyr eraill tuag ati bod lle arbennig iddi yn y gynhadledd. Nid oedd ganddi offer soffistigedig yr Americanwyr a'r Almaenwyr, rhyddid yr Eidalwyr a ninnau, nac adnoddau'r merched eraill i elwa ar fargenion siopau'n llawn 'sgidiau, bagiau lledr, addurniadau alabaster a dillad crand. Eto talwyd sylw manwl a pharchedig i'w syniadau, a cheisiai arweinwyr grwpiau'r gwledydd unigol ganfod ffordd i'w chael i ymweld â nhw yn y dyfodol. Mae'n amlwg bod y cynadleddau yn gyfle i wneud mwy na chyfnewid syniadau am wyddoniaeth i wyddonwyr o du ôl i'r lIen haearn. Mae'n gyswllt holl bwysig â'r byd mawr tu allan. Ac efallai, yn y pen draw, mai dyna yw'r cyfiawnhad pennaf gan bawb ohonom dros gynnal cynifer o'r dathliadau rheolaidd hyn. GLYN O. PHILLIPS Coleg Prifysgol Gogledd Cymru CANMLWYDDIANT Gan mlynedd yn ôl, ar 18 Hydref 1884, agorwyd drysau'r Coleg am y tro cyntaf. Mae'r Coleg wedi trefnu rhaglen arbennig am y flwyddyn o Hydref 1984 tan yr Haf 1985, ac 'rydym yn awyddus i gysylltu â chyn-fyfyrwyr y Coleg. Byddwn hefyd yn paratoi Cofrestr Barhaol o Gyn-fyfyrwyr. YSGOLORIAETHAU Y mae'r Coleg yn cynnig 18 Ysgoloriaeth Fynediad i gyd, y rhan fwyaf ohonynt yn werth £ 200 y flwyddyn. Rhoddir 7 o'r ysgoloriaethau hyn gan Awdurdodau Lleol ac y mae nifer ohonynt yn gyfyngedig i fyfyrwyr o Gymru. Hefyd rhoddir un ysgoloriaeth gan Gylch Darlithwyr Cymraeg y Coleg i fyfyriwr sydd â'r gallu i ddilyn cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Os hoffech gael gwybod mwy am y dathlu, y Gofrestr Barhaol, neu os hoffech dderbyn copi o'r Prospectws arbennig 'Dysgu Drwy Gyfrwng y Gymraeg' neu'r pamffled ar yr Ysgoloriaethau, cysylltwch â John W. Jones, Cofrestrydd Cynorthwyol, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, Gwynedd, ffôn Bangor (0248) 351151, est. 400.