Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sydney y dylai y rheini fod. Byddai banc wrth law ym mhob rhan o'r byd wedyn. Er fod pum can mil o Sri Lanka wedi cyfamodi eu llygaid, 10% o'r boblogaeth o bedair miliwn ar ddeg, fyddai hynny ddim yn ddigon i ddiwallu anghenion y byd. Mae cnewyllyn yn y dinasoedd yma'n barod, a Llundain yn rhannu ei hystôr ar raddfa fach efo gwledydd eraill, ond ar gyfer eu hanghenion eu hunain y mae'r lleill yn hel, fel y rhai ddaw i Efrog Newydd a'r rhai a gesglir gan Tokyo, lle mae mwy o anhawster i gael cyfamodwyr. Y drafferth, wrth gwrs, fyddai sicrhau bod i'r canolfannau hyn ymroddiad llwyr a gallu trefnyddol Dr. Silva a'i wraig ynghyd â chyfamodi haelfrydig pobl Sri Lanka. Thervada, Buddha, yw crefydd y mwyafrif, gyda'i phwyslais gref ar roddi a Isotopau, Amersham a'r Cysylltiad Cymreig Er iddo gael ei eni yn Llundain, addysgwyd yr awdur yn ysgolion lleol Tregaron cyn symud ymlaen i astudio Cemeg yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth (1955-61). Cafodd yno radd B.Sc., a hefyd Ph.D. cyn ei apwyntio fel darlithydd cynorthwyol yng Ngoleg Uwchraddol Battersea, Llundain. Symudodd y coleg allan i Guildford ym 1968 ar ddod yn Brifysgol Surrey, ac yno yr erys, erbyn hyn yn ddarllenydd yn yr adran Gemeg. Mae yn adnabyddus am ei ymchwil ac yn awdur y llyfr, The Ionisation of Carbon Acids. Dyfarnwyd gradd D.Sc. Prifysgol Cymru iddo ym 1976. YR AWDUR N1 ALL neb sydd yn gyfarwydd â hanes darganfod ymbelydredd a gwaith gwyddonwyr enwog fel y Curies, Rutherford, Fermi, Cockroft ac Oppenheimer, lai na synnu at fawredd y datblygiadau y buont yn rhan ohonynt. Mae R. W. Clark wedi adrodd hanes diddorol, a brawychus, datblygiad holltiad niwclear a Jungkl ei hun wedi delio â hanes moesol a gwleidyddol y gwyddonwyr atomig. Yn ffodus mae yna ochr hapusach i'r datblygiadau hyn gan fod yr isotopau sydd yn cael eu creu fel canlyniad i'r holltiad niwclear, yng ngeiriau Gordon Dean,' a fu yn gadeirydd Awdurdod Ynni Atomig yr Unol Daleithiau, yn cael eu defnyddio i drin y claf, i ddysgu mwy am afiechyd, i wella ffyrdd rhannu, ac mae esiampl y mwyafrif wedi ysbrydoli y lleiafrifoedd Catholig, Anghydffurfiol a Hindwaidd i gefnogi'r Banc Rhyngwladol. Yn wir mae gyrfa Dr. Silva'n esiampl o gyd-fyw crefyddol gan mai Tamil oedd y gwr welodd ei bosibiliadau'n fachgen bach ac a berswadiodd ei dad i adael iddo fynd yn feddyg a helpu'n ariannol. 'Roedd newydd ddychwelyd i Bombay ar ôl talu teyrnged yn Canada i'r gwr hwnnw sydd wedi dianc oddi wrth yr erledigaeth sydd yn Ceylon i'r Tamil. Mae galw mawr am i'r Dr. Hudson Silva siarad mewn cynadleddau a chynghori banciau eraill, ond brysio'n ôl y mae o bob man i Colombo at y gwaith enfawr sy'n aros iddo yno, ac a gyflawnir bob blwyddyn, am gost fyddai'n gyflog un meddyg yng ngwledydd y Gorllewin. J. R. JONES cynhyrchu, i gynyddu ffrwythlondeb cnydau ac anifeiliaid, ac i gynorthwyo dyn i ddeall gweithrediadau sylfaenol ei gorff, y pethau byw o'i amgylch, a'r byd ffisegol y mae yn byw ynddo.' Bellach mae yna gysylltiad Cymreig gan fod y cwmni sydd yn arwain y byd mewn paratoi cemegion ymbelydrol wedi ymgartrefu rhyw bedair milltir o Gaerdydd, ger traffordd yr M4. Hanes Cynnar y Cwmni Dechreuwyd y cwmni yn nyddiau cynnar yr ail Ryfel Byd pan wahoddodd y Llywodraeth Brydeinig gwmni Thoriwm i ymgymryd â'r gwaith o buro radiwm a chynhyrchu paent sylfaen-radiwm hunan-lewyrchol i'w ddefnyddio mewn cwmpawdau, gynnau ac offer awyrennau. Dechreuodd y gwaith yn Amersham ym mis Mai 1940 a hyn oedd yn gyfrifol am gysylltu enw 'Amersham' a defnyddiau ymbelydrol led led y byd. Erbyn canol y pedwardegau yr oedd arwyddocad datblygiadau amser y rhyfel mewn ynni niwclear yn amlygu ei hun fwyfwy a manteisiwyd ar y cyfle i fasnachu'r cynnyrch a oedd yn dod ô'r adweithydd niwclear a'r cyflymydd. Canlyniad hyn oedd ffurfio 'The Radiochemical Centre', cwmni ym meddiant y Llywodraeth a chanddo awdurdod i ddatblygu a chynhyrchu defnyddiau ymbelydrol i'w defnyddio mewn ymchwil, meddygaeth a diwydiant. Yn ystod y pumdegau daeth yr isotopau a oedd yn cael eu cynhyrchu yn yr adweithydd niwclear yn bwysicach fyth gan ei bod yn bosibl paratoi cemegion ymchwil yn cynnwys y defnyddiau yma. Ehangwyd y cyfleusterau yn Amersham i gynhyrchu'r isotopau pwysicaf fel 32P,