Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Egni-f) Niwclid Hanner oes Math o (uchafrif) ymbelydrol ddadfeiliad mewn Mef 3H(T) 12-43 blwydd /T -0186 14C 5730 blwydd -156 3SS 87-4diwmod -167 32P 14-3diwrnod 1·709 131I 8-04diwrnod p',y ·247-·806 y ·080-·723 125I 60 diwrnod electron dal y" -027-032 Ffig. 7 Priodweddau rhai o'r niwclidau ymbelydrol pwysicaf Dau o Gewri'r Ffydd: Fleming a Rutherford* YN YSTOD y ganrif hon mae dau ddarganfyddiad wedi tra-arglwyddiaethu ar y lleill i gyd, ac wedi newid cwrs hanes, sef hollti'r atom a datblygu penisilin a'r cyffuriau antibiotig eraill. Dau ddyn gwahanol iawn oedd wrth wraidd y darganfyddiadau chwyldroadol hyn. Tyfodd pob math o chwedloniaeth o'u cwmpas dros y blynyddoedd. Â ninnau yn tynnu tuag at ddiwedd y ganrif a'u cynhyrchodd mae'n bosibl, bellach, cael golwg mwy gwrthrychol arnynt. 'Roedd gwaed Albanaidd yn y ddau. Ganwyd Rutherford yn Seland Newydd o dras Albanaidd a theulu Calfinaidd, ac yr oedd Fleming yn fab i ffermwr cyffredin o Swydd Ayr. Drwy ysgoloriaethau a gwaith caled cyrhaeddodd Rutherford Brifysgol Caergrawnt yn 1890, graddio yno, ac astudio wedyn yn McGill, Canada a Phrifysgol Manceinion cyn sefydlu ei hun yn ôl yn y Cavendish yng Nghaergrawnt yn 1920. Gwnaeth Fleming yn dda yn yr ysgol a'r polytechnig lleol, cyn cael lle yn Ysgol Feddygol y Santes Fair yn 1901. Creadur cwbl ymarferol oedd Rutherford. Gwell 0 lawer oedd ganddo symud ymlaen drwy arbrofion syml clir na chymylu'r maes â damcaniaethau astrus. Chwiliai bob amser am yr anarferol (oddity). Arweiniodd ei arbrofion cynnar gyda radio ac ymbelydredd at astudiaethau ar saerniaeth ac adeiledd yr atom. Croniclai bob dim yn ofalus, ac ymdeimlai â phwysigrwydd ei waith ar y pryd. Yn 1917, er enghraifft, esgusododd ei hun o un o bwyllgorau'r llynges efo'r geiriau: If, as I have reason to believe, I have disintigrated the nucleus of the atom, this is of greater significance than the war. Fel y tyfai mewn awdurdod yn ei faes, fe'i dyrchafwyd o fewn y Cavendish, nes yn y diwedd iddo ddod yn bennaeth yno. Profodd yn arweinydd tim rhagorol a daeth y Cavendish, o ganlyniad, yn labordy ymchwil enwocaf y byd. Eu hawr fwyaf efallai oedd 1932 pryd y dawnsiodd John Cockroft a E. T. S. Walton i lawr King's Parade yn cyhoeddi We've split the atom. *Alexander Fleming: The Man and the Myth, gan Gwyn Macfarlane. Hogarth Press, Llundain. Tud. 320. Pris: £ 12.50. Rutherford: Simple Genius, gan David Wilson. Hodder, Llundain. Tud. 634. Pris: £ 14.95. gloi, rhaid sôn am un o'r datblygiadau mwyaf arwyddocaol yn ystod y blynyddoedd diweddar mewn bioleg folecylaidd, sef dadlennu trefn elfennol llawer o'r molecylau DNA ac RNA. Cydnabyddwydd pwysigrwydd yr orchest hon pan ddyfarnwyd rhan o'r wobr Nobel am Gemeg yn 1980 i Sanger a Gilbert. Y mae'r ffaith fod niwcliotidau wedi eu labelu â 32P i'w cael ar actifedd sbesiffig uchel a phurdeb ymbelydrol wedi cyfrannu'n fawr iawn at lwyddiant y gwaith yma. Cyfeiriadau R. W. Clark, The Greatest Power on Earth, Sidgwick and Jackson, 1980. 2 R. Jungk, Brighter Than 1000 Suns, Penguin Books, 1960. 3 G. Dean, Report on the Atom. GLYN O. PHILLIPS Llun 1. Rutherford [ar y dde] yn Labordy Cavendish [Labordy Cavendish, Caergrawnt] Ymdriniai Rutherford yn gwbl anffurfiol a chyfeillgar â'i boys, a'r rheini o ganlyniad yn ymateb drwy ddatblygu dyfeisiadau lu a gyfrannodd yn helaeth at ennill y ddau rhyfel byd. Llewyrchodd gwyddoniaeth Prydain yn anhygoel yng nghyfnod Rutherford, ac nid oherwydd arian ac adnoddau chwaith, a ystyrir heddiw mor hanfodol i