Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Beth yw Cynefin? TOM PRITCHARD (Cadeirydd) ac ARWEL JONES (Swyddog) TUA DWY flynedd yn ôl dechreuwyd ar fenter uchelgeisiol na welwyd ei math o'r blaen yng Nghymru. Fel ymateb i alwad Strategaeth Cadwraeth y Byd a gyhoeddwyd yn 1980 gan yr Undeb Rhyngwladol er Gwarchod Natur ac Adnoddau Naturiol, galwyd grwp o arbenigwyr o wahanol feysydd at ei gilydd i gychwyn ar y gwaith o adeiladu Strategaeth Gymreig. Mabwysiadodd Strategaeth Cadwraeth i Gymru yr enw CYNEFIN er mwyn cynrychioli'r syniad o bobl yn eu tirlun, a chyd- ddibyniaeth y bobl hynny ar ei gilydd. Crêd yn y cy- syniad o ddyn yn ei amgylchfyd, ac o'r amgylchfyd mewn dyn. Ymgais yw CYNEFIN at werthfawrogi y presennol, a llunio dyfodol a all gynnal a meithrin Cymru a'i phobl, y tu hwnt i'r tymor byr, gyda strategaeth gynhwysfawr ar gyfer cadw a datblygu ein hadnoddau dynol a naturiol. Fel dechreuad, ffufiwyd saith grwp gwaith i ystyried materion cyfoes o safbwynt yr amgylchfyd, yr economi, cymdeithas a diwylliant, a pharatowyd tua deugain o bapurau i'w trafod. Yn mis Rhagfyr 1982 cynhaliwyd cynhadledd yn Neuadd y Brifysgol, Caerdydd, i geisio hebrwng y gwahanol agweddau at ei gilydd, a phenderfynu ar y ffordd ymlaen. Ar derfyn y gynhadledd, mewn cyfarfod cyhoeddus o fil a hanner o bobl yn Neuadd Dewi Sant, cyflwynwyd datganiad y gynhadledd ynglyn â'r dyfodol. Y grwpiau gwaith (i) MOESEG Yn gymysg o ran ffydd a safbwynt, dan nawdd Archesgob Cymru, penderfynnodd y grwp hwn y dylai moeseg gynhwysfawr ar gyfer yr amgylchfyd fod yn berthnasol i'r presennol; yn edrych i'r dyfodol, ac yn cydnabod arwyddocâd y gorffennol. Ar yr un pryd dylai roi pwyslais ar gyd-ddibyniaeth holl rannau ein byd. Gellid troi'r geiriau hyn yn weithgaredd drwy gyfrwng yr unigolyn, y teulu, y gymuned, a chyrff fel yr ysgolion a'r eglwysi. Fel enghreifftiau o'r math o bynciau y dylid cael trafodaeth a phenderfyniad moesol arnynt, awgrymwyd peirianneg genetig, y defnydd o anifeiliaid mewn ymchwil, ffermio anifeiliaid mewn ffatrioedd, ac effaith datblygiadau newydd mewn gwlad a thref ar yr amgylchfyd. O ran iaith a diwylliant, dylid diogelu dyfodol y Gymraeg a'i threftadaeth, ond nid ar wahân i weddill bywyd Cymru. Dylem dderbyn cyfrifoldeb dros ein hunain a thros ein gilydd, a chyd-weithio tuag at well cytundeb a dealltwriaeth. Y mae lles pawb yn dibynnu ar ddefnydd call a chadwraeth gyfrifol o'n hadnoddau byw. Wrth gloi, pwysleisiodd y grwp y dylai holl argymhellion CYNEFIN fod yn agored i gael eu newid gyda phrofiad. (ii) TREFTADAETH, CELFYDDYDAU A'R AMGYLCHEDD Y thema drwy holl drafodaethau y grwp hwn oedd arwyddocâd y 'ffigur' yn y tirlun. Gwelsant angen gweithredu eang os am alluogi ein treftadaeth ddiwylliannol i flodeuo ochr yn ochr â'r amgylchfyd naturiol. Mae'r angen yn parhau am gyfundrefnu'r enwau Cymraeg a ddefnyddir ym myd natur a daeareg, gan gynnwys, wrth gwrs, tafodiaith ac enwau lleol. Dylid dechrau'r broses o astudio'r amgylchfyd yn yr ysgolion cynradd, a chael canolfannau lle gellir arddangos ac egluro'r defnydd addysgol o'n treftadaeth i bawb. Gyda phwysigrwydd tirluniaeth yn tyfu, rhaid astudio holl agweddau'r datblygiadau newydd mewn ardaloedd fel Cymoedd y De, gan gofnodi a gwerthfawrogi yr adeiladau hynny sydd eisoes o bwysigrwydd arbennig. Rhaid cydnabod hefyd y cyferbyniad sy'n bod yn aml rhwng anghenion diwylliannol pobl y wlad a phobl y dref. Mewn llawer man gwelai'r grwp gyfle i ddefnyddio adeiladau ac adnoddau eraill yn gyhoeddus, ac i gynllunio nifer o adeiladau newydd ag iddynt ddefnydd amrywiol. (iii) DIWYDIANT A CHYFLOGAETH Pryder mawr y grwp oedd bod cymaint â 17-25% o'r gweithlu yn ddi-waith mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru. Yr oeddent yn poeni'n enwedig am effaith diweithdra ar ferched, pobl ieuanc, a'r diwaith tymor- hir. Ar yr un pryd, yr oeddent yn teimlo bod yn rhaid sefydlu safonau amgylchol a rhoi pwyslais ar annog diwydiannau derbyniol i ymsefydlu yma. Efallai y bydd rhaid ail-ystyried ein hagweddau tuag at gyflogaeth, yn enwedig yn y diwydiannau cynhyrchu traddodiadol. Er cymaint pwysigrwydd y diwydiannau newydd mewn uwch-dechnoleg a gwasanaethu, rhaid hybu goroesiad y diwydiannau sylfaenol fel glô, dûr, amaethyddiaeth a choedwigaeth. Hefyd, mae sialens gwahanol mewn gwahanol ardaloedd, er enghraifft, yn nalgylch yr M4 ac yng Nghymoedd y De, ar lannau Dyfrdwy ac ar hyd arfordir y Gogledd Ddwyrain, ac yng nghefn gwlad Cymru. Ochr yn ochr â gwella ansawdd yr adeiladau a'r pen- saerniaeth yn y tirlun, rhaid annog ail-lunio a glasu llawer safle diwydiannol gwag. (iv) GWLAD A THREF O ystyried y teitl hwn, cydnabu'r grwp nad yw'n hawdd rhannu Cymru'n elfennau gwledig a dinesig. Wrth gwrs, mae rhai problemau cyfoes yn bresennol ym mhobman, problemau fel cael gwared ag ysbwriel, cyflenwi'r anghenion ynni a gwella gweithgaredd y gymuned, tra bo eraill yn broblemau sy'n arbennig i fywyd dinas neu i gefn gwlad. Yn aml, nid y dechnoleg sydd ar fai wrth reoli ysbwriel, ond agweddau gweinyddol, cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd. Yn y maes hwn, fel yn y maes ynni, mae lle i gwtogi ar wastraff ac i wella ar y gwasanaethau yn sectorau'r cartref, diwydiant, a masnach. Rhaid hefyd rhoi sylw buan i'r newidiadau mawr sy'n digwydd yn y gymdeithas gyfoes, a dylai bod gan y gymuned lawer iawn mwy o hawl gwneud pender- fyniadau mewn materion cynllunio a llywodraeth leol. Gellid gwella effeithiolrwydd y sectorau cyhoeddus, preifat ac elusennol drwy gael rhagor o gyd-weithio.