Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dysgu Gwyddionaeth yn yr Ysgol Gynradd NORMAN CLOSS-PARRY Mae'r awdur yn enedigol o'r Fachwen ger Deiniolen yn Arfon. Fe'i hyfforddwyd fel athro yn arbenigo mewn gwyddoniaeth yn y Coleg Normal, ac yn ddiweddarach cymerodd radd B.Add. gyda sylw arbennig i Astudiaethau'r Amgylchedd, ac M.Add. mewn Addysg Wyddonol. Bu'n brifathro ar ddwy ysgol gynradd yng Nghlwyd, ac yn ddiweddar bu am flwyddyn yn Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru fel tiwtor ar gwrs Diploma mewn Gwyddoniaeth i athrawon ysgolion cynradd. Ef hefyd ydyw cyfarwyddwr a phrif ysgogydd prosiect gwyddoniaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a sefydlwyd yng Nghyfadran Addysg Coleg Bangor, dan nawdd y Swyddfa Gymreig. Y mae Norman Closs-Parry yn adnabyddus fel pysgotwr, naturiaethwr, darlledwr a darlithiwr ar bob agwedd o'r byd o'n cwmpas ac fe ŵyr pawb a ddaeth tan ei ddylanwad am ei frwdfrydedd a'i egni. YN 1965 cyhoeddodd P. H. Hirst yr athronydd addysgol, bapur: Liberal education and the nature of knowledge. Byrdwn ei ddadl yw bod gwybodaeth yn ddeublyg, hynny yw, mae i wybodaeth ei maes a'i ffurf ei hun ac mae hynny'n adlewyrchu'r gwahanol ddisgyblaethau academaidd. Enwa Hirst saith/wyth ffurf sy'n ymgynhaliol-ac mae gwyddor empirig yn un ohonynt. Mae i wyddoniaeth ei ffordd arbennig ei hun o astudio a gweithio. Beth yw ffordd gwyddoniaeth? Sut mae hyfforddi plant yn y ffordd yma? A ellir gwneud hyn yn yr ysgol gynradd? Pa ddull dysgu yw'r gorau? Dyma rai cwestiynnau sydd wedi goglais meddwl addysgwyr ac athrawon ers amser. Ar y cychwyn gellir dweud mai chwilfrydedd a gweledigaeth a chred egwyddorol unigolion a arloesodd ac a ddatblygodd wyddoniaeth fel rhan o faes llafur yr ysgol gynradd. Priodwyd yr elfen hon gyda chefnogaeth a chynlluniau fel eiddo Nuffield a'r Cyngor Ysgolion yn y 60au a'r 70au. Rhoddwyd hwb ychwanegol gyda chyhoeddi Adroddiad Gittins ar yr ysgol gynradd ym 1967. Hercian ymlaen a wnaeth y 'pwnc' fodd bynnag, nes y daeth chwistrelliad arall o orfod ac ymdrech yn yr 80au. Yn 1982 cyhoeddodd yr Adran Addysg a Gwydd- oniaeth (D.E.S.) eu papur: Addysg Wyddonol yn yr Ysgolion. Ym mharagraff 30 o'r papur dywedir (wedi awgrymu yn flaenorol yn y papur na wireddwyd breuddwydion y 60/70au) 'Yng ngoleuni profiad, crêd yr Ysgrifennyddion Gwladol mai amodau llwyddiant yn yr Ysgolion Cynradd ddylai fod: (a) i bolisi yr Awdurdodau Addysg Lleol gynnwys astudiaeth o wyddoniaeth yn y cwricwlwm. (b) i'r prifathro/athrawes fod yn ymrwymedig tuag at wyddoniaeth i blant ysgol gynradd, ac i'r ysgol gael athro/athrawes gyda'r weledigaeth a'r gwybodaeth a'r medr i wireddu'r bwriad, a (c) bod pob athro/athrawes i gael mynediad, mewn perthynas â gwyddoniaeth, i fannau oddi allan i'r ysgol i gefnogi eu hymdrechion, fel gwasanaeth ymgynghorol, athrofa hyfforddi athrawon neu ganolfan athrawon.' Credaf y gellir gweld y problemau sydd eto'n aros yn y maes cynradd mewn dysgu gwyddoniaeth fel a ganlyn: (a) Diffinio i athrawon dihyder (am amryw resymau) beth yw gwyddoniaeth a'r ffordd wyddonol o weithio. (b) Darparu gwasanaeth cefnogol i hyfforddi y cyfryw rai (un ai drwy gyrsiau mewn swydd, cyrsiau hir neu radd). (c) Hysbysu ac argyhoeddi rhieni, rheolwyr ysgolion a'r cyhoedd beth yw addysg a beth yw gwyddor. (ch) Ymchwilio a datblygu ffordd resymol o asesu a recordio datblygiad disgyblion mewn gwyddon- iaeth. Beth yw gwyddoniaeth? Diddorol yw darllen barn gwyddonwyr ac athronwyr ar y cwestiwn hwn. 'Trefn ar synnwr cyffredin' ydyw hanfod gwyddoniaeth meddai T. H. Huxley, lladmerydd cadarn Darwiniaeth. Dywedodd Albert Einstein 'Nid