Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

2. Y pwyslais mawr a ddylid ei roddi ar y prosesau. Symudodd pob ardal ymlaen i ffurfio eu grwp gan ethol cytgordiwr ac ysgrifennydd iddynt. Yr oeddynt: (a) i gynllunio a datblygu rhaglen gydweithredol ar wyddoniaeth yn eu hardal (b) i roi adroddiad i'r panel llywio unwaith y tymor (c) i gysylltu'n rheolaidd â chyfarwyddwr y prosiect. Oherwydd natur a chefndir yr athrawon a'r ardaloedd cafwyd rhaglenni amrywiol gyda'r mathau canlynol o weithgareddau yn gyffredin: 1. Gwaith maes a Iabordy-e.e., athrawon cynradd yn mynd i adrannau gwyddoniaeth yn yr ysgolion uwchradd. Hefyd athrawon yn cael eu hyfforddi mewn Canolfannau Maes (Field Studies Centres) 2. Cyfarfodydd trafod ymdrechion a chyfnewid syniadau 3. Ymweliadau gan ddarlithwyr allanol 4. Cefnogaeth ymarferol gan adrannau hyfforddi athrawon mewn athrofa a choleg hyfforddi 5. Ymweliadau â gweithgareddau ymarferol efo Arolygwyr Ei Mawrhydi 6. Ymweliadau â llecynnau arbennig dan arweiniad arlunwyr proffesiynol 7. Diwrnodau neu hanner diwrnodau gwydd- oniaeth yn yr ardal gydag arddangosfa o waith o ardaloedd eraill y prosiect 8. Ymweliadau rhwng ysgolion 9. Trafodaethau rhwng cynradd/uwchradd i ffurfio polisi gwyddoniaeth 10. Rhannu a datblygu cyfarpar (cynradd/ uwchradd) 11. Ymdrechion i gefnogi Ffeiriau Gwyddoniaeth yng Nghlwyd a Bangor Anfonwyd holiadur i holl weithwyr y prosiect yn nhymor y Pasg 1982 i asesu effeithiolrwydd cynllun y prosiect. Cafwyd atebion diddorol, a darganfuwyd fod newid yn digwydd-er enghraifft, dengys yr atebion fod datblygiad y prosesau a gweithgaredd y plant (ac felly bwyslais yr athrawon) wedi cychwyn o leiaf. Hefyd mae'r atebion yn debyg iawn i sylwadau Dr. Lynne Harlen (A.P.U.). Tabl 1. Trefn y sgiliau a nodwyd (gan ddefnyddio y categori 'llawer iawn' yn unig) trafodaeth 62% mesur 31% sylwadaeth 54% dosbarthu 18% cwestiynu 39% dadansoddi 14% recordio 36% cynllunio 2% 3. Cynhaliodd Adran Addysg y Swyddfa Gymreig gwrs byr (5-8 Ebrill 1982) yn Athrofa Gogledd-Ddwyrain Cymru, Wrecsam, a rhoddwyd gwahoddiad i weith- wyr blaenllaw o'r prosiect i fod yn diwtoriaid ar y cwrs, ac yn ogystal i ofalu am holl weithgaredd un o'r diwrnodau. Yn ogystal â sesiynau gwaith a maes, cododd y syniad o baratoi arddangosfa i gydredeg efo diwrnod gwyddoniaeth yn y gwahanol ardaloedd. Mae'r prosiect hefyd wedi sefydlu patrwm o gael 'cynhadledd' i'r cytgordwyr ac athrawon i gyfnewid syniadau ac i ail ysbrydoli gweithwyr 'wyneb y calch' Wrth i'r ail ran o'r prosiect ddechrau, gyda phob ardal yn gwahodd ychwaneg o ysgolion o dan eu hadain gobeithiwn y gellir ysbrydoli'r gwaith-ond gyda chwistrelliad o wynebau newydd a syniadau newydd. Fodd bynnag, bydd yr egwyddorion yn ddisymud-prosesau a gwaith ymarferol gan y plant fydd y thema. Teg yw cyfeirio at ddatblygiad arall, sef cwrs newydd yn Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru, Wrecsam, o dan nawdd y Brifysgol. Ym 1982-83 dechreuwyd Diploma mewn dysgu Gwyddoniaeth yn yr ysgol gynradd. Cwrs blwyddyn ydyw hwn gydag athrawon wedi eu rhyddhau gan Awdurdod Addysg Clwyd yn llawn amser i ddod arno. Mae i'r cwrs gyfarwyddwr a thiwtoriaid o'r Coleg, a hefyd diwtor y Sir. Amcanion y Cwrs Diploma yw: i. ystyried natur gwyddoniaeth a'i lle yn yr ysgol gynradd ii. gwella deall a gwybodaeth yr athro o brif egwyddorion gwyddoniaeth a'i cysyniadau sy'n berthnasol i waith y plant yn yr ysgol gynradd iii. archwilio trefnyddiaeth ac ymarfer dysgu gwyddoniaeth yn yr ysgol gynradd iv. datblygu sgiliau dysgu mewn gwyddoniaeth a chael gwybodaeth am y cyfarpar sydd ar gael Bydd y diploma yn cael ei roddi am (a) gwaith y flwyddyn wedi ei groniclo mewn dyddlyfr (b) traethodau ar agweddau o'r cwrs (c) dilyniant a dadansoddiad o'r gwaith wythnosol mewn gwahanol ysgolion Nid yw gofod yn caniatau manylu ar y cyrsiau byrion yn y tair sir-rhai unnosweithiol, na'r rhai cyfresol nac ychwaith y cwrs newydd a ddechreuwyd yng Nghlwyd ym mis Medi 1983 yn dwyn y teitl Gwyddoniaeth Ysgol Gynradd (C.F.P.S.). Cwrs llai academaidd ei gynnwys na'r diploma yw hwn, ond yn tanlinellu yr egwyddorion sy'n brigo drwy'r papur hwn, serch hynny.