Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Byd y Microprosesor-I TUA CHANOL y saithdegau daeth yn amlwg fod cyfnewidiadau mawr ar droed mewn sawl agwedd ar fywyd materol ein cymdeithas. Daeth yn ffasiynol i sôn am 'Chwyldro'r Micro', ac i ddarogan fod un sglodyn silicon gywerth â mil o swyddi, ac yn wir fe grewyd yr argraff ym meddyliau'r cyhoedd fod y ddyfais electronig anhygoel-y microprosesor-am greu byd newydd, gyda llawer o briodoleddau diflas '1984', George Orwell, i'w ganlyn. Ond mewn gwirionedd yr oedd y sylwebyddion rai blynyddoedd ar ei hôl hi, gan fod y microprosesor cyntaf wedi ymddangos ar y farchnad ym 1971, a bod amryw o enghreifftiau o offer yn defnyddio'r ddyfais wedi ymddangos yn hollol ddi-stwr yn y blynyddoedd dilynol. Yr hyn a greodd y dychryn, mae'n debyg, oedd dyfodiad y prosesydd geiriau i mewn i swyddfeydd, gyda'i sgrîn deledu yn cymryd lle'r papur traddodiadol uwchben bysellau'r teipiadur. Mewn gwirionedd nid oedd dim byd newydd yn y dull o drin geiriau ar gyfrifiadur-yr oedd hyn wedi dod yn beth gweddol gyffredin ers rhai blynyddoedd; beth oedd yn newydd oedd fod technoleg y microprosesor wedi ei gwneud yn bosibl i osod cyfrifiaduron o faintioli bychan, ond o allu syfrdanol o eang, mewn swyddfeydd, lle cynt yr oedd yn rhaid i'r defnyddiwr fynd i ganolfan gyfrifiadurol i gael Ffig. 1. Prosesu Geiriau ar ôl chwyldro Gutenberg (allan o 'The Reformation': Great Ages of Man, Time Life International) A. R. OWENS gwneud yr un gwaith. Enghraifft oedd hyn o dechnoleg yn brasgamu ymlaen ac yn cynnig dulliau newydd sbon o gyflawni hen orchwylion. I'r sawl oedd yn ymwneud â thechnoleg silicon a chyfrifiaduriaeth ym myd electroneg ar y pryd nid oedd 'Chwyldro'r Micro' yn ddim amgen na datblygiad hollol naturiol yn dilyn yn gwbl resymol o ddatblygiadau electronig y chwarter canrif a oedd wedi mynd heibio. Ond o graffu'n fwy manwl ar gefndir rhai o'r datblygiadau gellir gweld mai pwysigrwydd y microprosesor yw ei fod yn cyfuno technegau micro- electroneg a chyfrifiadureg yn fwy clòs nag a fuont erioed o'r blaen, a thrwy hynny agor drysau newydd i beirianwyr o'r ddwy ochr. Ar ochr cyfrifiadureg, mae'r cyfrifiadur poced yn awr mor rymus ag a oedd rhai o brif beiriannau'r byd yn nechrau'r 50'au; ym myd offeriant electronig, go brin bellach fod unrhyw beiriant yn cael ei gynllunio heb gynnwys microprosesor i reoli ei weithrediad ac i brosesu'r data electronig sydd ynglyn â hynny. Gwers hanes I ddeall arwyddocâd y microprosesor, rhaid olrhain rhai datblygiadau technegol ar hyd y canrifoedd, a'u dylanwad ar allu dyn i gyfathrebu a chyfrif.