Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ateb i POENYN PENNA' Rhif 27: Codi sgwarog (o dudalen 79) Cyfeiriai Twm at y rhif 38. Y rhifau sgwarog dau ddigid yw 29, 92; 38, 83; 47, 74; 56, 65 Sylwch mai 11 yw cyfanswm digidau pob rhif sgwarog. Pam hynny? Gallwn ymestyn diffiniad Twm o rifau sgwarog i gynnwys rhifau tri digid neu fwy. Er enghraifft mae 297 yn rhif sgwarog tri digid gan fod 297 + 792 yn hafal i 1089 sydd yn rhif sgwâr (sef 33 2). Yr un modd mae 143 yn rhif sgwarog (143 + 341 = 484 = 222). Beth yw'r rhifau sgwarog tri digid eraill? Pa rif sgwarog tri digid sydd ddeng gwaith yn fwy nag un o'r rhifau sgwarog dau ddigid? Y Silff Lyfrau GWYDDONIAETH FFINIOL What is this thing called science? gan A. F. Chalmers, Open University Press (1982). Astrology gan H. J. Eysenck a D. K. B. Nias, Penguin Books (1984), pris £ 2.50. Evolution from space gan F. Hoyle a C. Wickramasinghe, Paladin, London (1983), pris £ 1.95. Abusing science gan P. Kitcher, Open University Press (1983), pris £ 6.95. Anodd gwadu nad yw gwyddoniaeth yn weithgaredd tra llwyddiannus; mae rhyfeddodau megis gosod dyn ar y lleuad neu ddefnyddio bacteria i gynhyrchu inswlin yn dystion amlwg i rym a sicrwydd yr hyn a elwir yn 'ddull gwyddonol'. Mae gweithgareddau eraill un ai yn nodedig o aflwyddiannus (megis athroniaeth neu economeg neu wleidyddiaeth) neu yn gyffredinol ddiargyhoeddiad (megis crefydd) o'u cymharu â hi. 'Wrth ei ffrwythau yr adnabyddir hi' yw hi ar hyd y daith ac y mae disgrifio canlyniadau gwyddoniaeth yn orchwyl llawer haws na diffinio natur y broses wyddonol ei hun. Nid bod hyn yn debyg o achosi unrhyw boen meddwl i'r rhan fwyaf o wyddonwyr. Wedi'r cwbl, ymarfer y grefft yw'r peth pwysig nid athronyddu ynghylch ei chynnwys. Ychydig iawn, iawn o wyddonwyr proffesiynol sydd erioed wedi dangos unrhyw ddiddordeb o gwbl yn hanes a natur eu pwnc. Yn rhyfedd iawn, haneswyr, economegwyr ac athronwyr sydd (ac a fu) amlycaf wrth drafod hanfodion y method gwyddonol-Bacon, Mill, Whewell, Jevons, Keynes, Pierce, Popper a Kuhn. Paratowyd llyfr Chalmers ar gyfer myfyrwyr prifysgol. Mae'n cynnwys yr ymdriniaeth ddisgwyliedig â'r pynciau arferol megis anwythiad, egwyddor anwireddu Popper, cyfnewid paradeimau Kuhn ac yn y blaen-ond mae'n amheus a fyddai neb yn elwa rhyw lawer ar y trafod onibai ei fod yn weddol gyfarwydd ymlaen llaw â chynnwys y gweithiau gwreiddiol. Efallai mai rhan fwyaf diddorol y llyfr yw'r ymdriniaeth â gwaith a syniadau Paul Feyerabend-anarchydd di- edifar ymhlith athronwyr gwyddoniaeth ac un y mae'n amlwg fod gan Chalmers gryn gydymdeimlad â'i safbwynt. Prif ddadl Feyerabend (fel y'i cyflwynir yn ei lyfr Against Method) yw nad oes modd diffinio unrhyw fethodoleg wyddonol sefydledig a pharhaol. Gesyd gryn bwyslais yn hyn o beth ar broblemau cymathiad ac anghymesuriaeth mewn gwyddoniaeth (pwnc a drafodir gan O. R. Jones yn rhifyn cyfredol 'Trafodion y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol') gan ddadlau na ellir mewn gwirionedd raddoli, neu hyd yn oed gymharu, gwahanol ddamcaniaethau gwyddonol oherwydd anghydnawsedd hanfodol eu cynnwys. Ni ellir derbyn felly fod gwyddoniaeth yn ddull mwy diogel o asesu realiti na dulliau eraill megis crefydd. Y ffordd o ddod at fiocemeg-neu at unrhyw wyddor arall o ran hynny-yn ôl Feyerabend fyddai nid trwy hyfforddiant mewn methodoleg wyddonol ond trwy ymdrwytho yn nhechnegau a ffeithiau biocemeg ei hun. Ymddengys mai hon yw barn Chalmers hefyd. Ar ddiwedd ei lyfr mae'n cyfaddef: 'philosophy of science is of no help to scientists'. Paham felly 'sgrifennu llyfr o'r fath? Ateb annelwig Chalmers yw er mwyn gwrthwynebu 'ideolegau gwyddonol'-y ffordd y mae rhai yn barod i ddefnyddio syniadaeth wyddonol i hyrwyddo rhagfarnau personol, megis Popper a'i feirniadaeth o Farcsiaeth. Yn rhyfedd iawn, nid yw'n crybwyll (ond yn anuniongyrchol, yn ei drafodaeth ar Feyerabend) rheswm posibl arall sef, i dynnu sylw at ddiffygion, anghyflawnder, cyfyngiadau a chulni'r dull gwyddonol. Un o baradocsau'r oes bresennol yw bod