Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gwyddonwyr, er yn ymgroesi rhag unrhyw ddiddordeb yn natur eu methodoleg, ar yr un pryd mor eiddigeddus o'u 'darganfyddiadau' fel ag i wrthod ystyried yn aml iawn ddilysrwydd unrhyw ddamcaniaethau newydd sy'n ymddangosiadol groes i wyddoniaeth sefydledig. Tanlinellir hyn gan y tri llyfr arall sydd dan sylw ­tri sy'n ymwneud ag agweddau anuniongred ar wyddoniaeth-os gwyddoniaeth hefyd. Nid yw'r anuniongrededd hon i'w phriodoli i ddeunydd crai anaddas (byddai gwyddonydd 'go iawn' yn gwadu fod y fath gategori yn bod) ond yn hytrach i'r ffaith fod y canlyniadau yn anghydnaws â gwyddoniaeth normal. Mae llyfr Kircher, Abusing Science, yn ymwneud â Chreadaeth (Creationism), y grêd fod rhywogaethau wedi'u creu yn unol â disgrifiad Genesis ac nid o ganlyniad i unrhyw fath o esblygiad; mae'n debyg fod Arlywydd presennol y Taleithiau Unedig yn arddel y gred hon. 'Beibl' (efallai y byddai 'esboniad' yn well term) y creadaethwyr yw llyfr H. M. Morris Scientific Creationism (San Diego, 1974), llyfr y mae Kircher yn ddi-arbed ei feirniadaeth ohono. Prif anhawster creadaeth i'r gwyddonydd uniongred yw ei bod yn seiliedig ar ragdybiaethau 'arallfydol' tra bod gwybodaeth wyddonol yn deillio o broses ofalus o arbrofi, sylwadu a rhesymu. Rhaid cydnabod fod Morris a'i gyd-greadaethwyr wedi dewis anfanteisio eu hunain rhywfaint trwy gyflwyno eu dadl yn nhermau gwyddoniaeth uniongred, er enghraifft trwy danlinellu problemau a bylchau Darwiniaeth glasurol. Mae hyn wrth gwrs yn hwyluso gwaith Kircher sydd â'i wyddoniaeth bob amser yn drech na gosodiadau'r creadaethwyr. Er hyn, ni ellir osgoi'r teimlad ar adegau fod hon yn drafodaeth rhwng dwy garfan sy'n arddel dwy iaith gyfathrebol wahanol. Cwestiwn diddorol yw ar gyfer pwy y 'sgrifennodd Kircher ei lyfr? Prin bod ei angen ar fiolegwyr proffesiynol am nad yw dadleuon negatif ac amddiffynol y creadaethwyr yn debyg o fennu dim arnynt. Ac y mae'n amheus ai'r math hwn o gyflwyniad lled-dechnegol sydd fwyaf addas ar gyfer y darllenydd lleyg. Mae a wnelo'r ddau lyfr arall hefyd ag agweddau ffiniol ar wyddoniaeth ond yn wahanol i'r dadleuon creadaethol defnyddiant yr un idiom â gwyddoniaeth uniongred ei hun ac ni chymylir y sefyllfa gan unrhyw ragdybiaethau 'arallfydol'. Trafod datblygiad bywyd ar y ddaear y mae Hoyle a Wickramasinghe­dau seryddwr o Goleg y Brifysgol, Caerdydd. Eu dadl yw fod y Ddamcanieth Ddarwinaidd draddodiadol nid yn unig yn anghyflawn ond yn wallus. Yn ei lle awgrymant ddamcaniaeth sy'n seiliedig ar ymyrraeth o'r gofod. Dadleuant fod mathau arbennig o fywyd, megis pryfed, wedi cyrraedd y ddaear yn ôl y galw, o'r gofod, a bod y cwbl dan reolaeth Llaw Anfeidrol, Gyfrifiadurol sydd ymhell tu hwnt i'n hamgyffred ni. Mae'n ddiddorol tybied i ba raddau y byddai'r 'greadaeth wyddonol' newydd hon yn dderbyniol gan y creadaethwyr uniongred Beiblaidd. Ym marn Hoyle a Wickramasinghe y mae'n esbonio'r ffeithiau yn llawer mwy boddhaol na Darwiniaeth glasurol-er wrth gwrs ni ellir byth 'brofi' hyn, mwy nag y gellid 'profi' (neu, yn ôl dehongliad rhai, 'anwireddu') Darwiniaeth glasurol. Yn yr un modd y mae llyfr Eysenck a Nias yn delio â maes esgymun aralI-sêrddewiniaeth (astroleg). Priodola'r awduron gryn arwyddocad i arbrofion diweddar y Ffrancwr Michael Gauquelin sydd wedi dangos mewn nifer o bapurau safonol fod cryn dystiolaeth fod perthynas rhwng personoliaeth rhywun a safle'r planedau adeg ei enedigaeth, fod geni gwyddonwyr, er enghraifft yn digwydd o dan Sadwrn, pobl allblyg o dan Fawrth ac Iau ac yn y blaen. Fel y mae Eysenck a Nias yn pwysleisio byddai'r radd uchel o 'arwyddocad ystadegol' sy'n nodwedd o'r astudiaeth hon wedi sicrhau ei derbyn yn ddi-gwestiwn petai'n rhan o ryw wyddor gydnabyddedig. Ond ar y cyfan, derbyniad go oeraidd a gafodd y ddau lyfr hyn gan wyddoniaeth uniongred. A hyn nid oherwydd unrhyw ddiffygion technegol ond am y rheswm syml fod y canlyniadau yn anghyson â gweddill gwyddoniaeth gyfoes. Tuedd gwyddoniaeth bob amser wrth gwrs yw gwrthwynebu unrhyw ddatblygiadau newydd a all beryglu hyfywdra'r fframwaith sefydledig ac y mae ei hymateb ceidwadol i unrhyw afreoleidd-dra ddamcaniaethol yn un o'i nodweddion mwyaf diddorol. Fe'n hatgoffir am yr hyn a ddigwyddodd ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg cyn i'r gwyddonwyr sylweddoli fod symudiadau afreolaidd ac an- Newtonaidd y blaned Wranws i'w priodoli i ddylanwad planed 'newydd' (Neifion). Yr hyn oll sy'n dod â ni yn ôl at Feyerabend a'i ddaliadau gwrth-fethod. 'Nid yw gwyddoniaeth fodern mor gymhleth a pherffaith ag a awgrymir gan ei phropaganda ei hun. nid yw'r honiad extra scientam nulla salus-nid oes unrhyw wybodaeth y tu allan i wyddoniaeth-yn ddim byd mwy na choel hen wrach' yw ei gasgliad terfynol yn ei lyfr Against Method. Rhyfedd o Fyd. Mae'n amheus a ydym yr un cam yn nes at ddeall gwir natur y broses wyddonol heddiw nag oedd Francis Bacon dair canrif yn ôl, heblaw efallai ein bod yn fwy ymwybodol o'i chyfyngderau ac yn fwy parod i dderbyn fod gwyddoniaeth ei hunan megis wedi ei thyngedu i fod yn dragwyddol amherffaith ac yn anfeidrol anghyflawn. R.E.H. Using Microcomputers in Schools gol. Colin Terry, Croom Helm, 1984, £ 12.95, t. 181 (clawr caled). Mae ton y chwyldro technolegol wedi magu momentwm a'i maint yn bygwth chwalu'n gandryll ambell gwch sydd yn ei llwybr. Y sialens i'r gyfundrefn addysg yw harneisio'r egni at ddibenion addysgiadol cadarn cyn i'r don ei hysgubo hithau i foroedd dyfnion. Mae cynlluniau'r llywodraeth i noddi gwerthiant micro- gyfrifiaduron i ysgolion uwchradd a chynradd yn tanlinellu'r angen am arweiniad a pholisiau pendant, a fydd yn ein galluogi i ail-feddwl am ein hamcanion a'n dulliau dysgu. Mae lle i gredu nad ffansi dros dro yw'r datblygiadau hyn, nid rhywbeth a fydd yn diflannu ond i ni ei anwybyddu. Prin, a dweud y lleiaf, yw'r adnoddau wrth gefn i osod canllawiau cadarn i ysgol a choleg sy'n ceisio wynebu'r datblygiadau hyn. A braf, felly, yw croesawu'r llyfr hwn o dan olygyddiaeth Dr. Colin Terry o Gyfadran Addysg Coleg Prifysgol Gogledd Cymru. Mae'r llyfr yn ceisio disgrifio'r sefyllfa bresennol yn ogystal â gosod nifer o egwyddorion ynghylch defnyddio cyfrifiaduron yn adeiladol mewn dosbarth uwchradd a chynradd. Llwydda i asio cyfraniadau gan awduron lleol, yn cynnwys erthygl ar ddysgu ail iaith gan Gareth Roberts, Pennaeth