Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffig. 1. Darlun H-R ar gyfer y sêr agosaf. Cynrychiolir yr haul gan y smotyn du Felly y sêr claear hyn yw'r sêr sydd eisoes wedi symud oddi ar y prif ddilyniant: mae diwedd y sêr hyn mewn golwg. Hefyd, fel y gwelsom uchod, y sêr llewychus, trymion sydd yn defnyddio eu hydrogen gyflymaf ac felly y rhain sydd yn cyrraedd y cyflwr yma gyntaf. Wedi i seren chwyddo fel y disgrifiwyd uchod, mae perfeddion y seren yn ddwys eithriadol-nid yw gwres yr heliwm di-ynni yn ddigon i wrthsefyll disgyrchiant­·ond mae haenau uchaf y seren (mwyafrif y seren o ran cyfaint) yn denau eithriadol. Byddai llond llwy de o'r mater yng nghanol y seren yn pwyso oddeutu tunnell, ond rhaid cael cyfaint cymaint â Pharc yr Arfau Ffig. 2. Trefniad yr hydrogen a'r heliwm mewn seren sy'n dechrau heneiddio o'i hatmosffer cyn i ni gasglu pwys o fater. Yn aml, mae'r atmosffer tenau hwn yn gynhyrfus eithriadol, ac yn torri i ffwrdd o weddill y seren. Pan ddigwydd hyn, perfeddion poeth, dwys y seren sydd ar ôl, a gwelwn y gweddillion hyn fel sêr corrach gwynion, y sêr sydd i'w cael ar waelod y darlun H-R. Ambell waith yr ydym yn ddigon ffodus i ddal y digwyddiad yma cyn i'r atmosffer tenau wasgaru i'r nwy rhyngserol a gallwn weld yr atmosffer fel nifwl blanedol (gw. Llun 1). Nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y nifylau hyn a'r planedau sy'n cylchu'r haul wrth gwrs; disgrifiad o ymddangosiad y nifwl yw'r enw hwn. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, mae'r trawsfudiad rhwng y sêr cawr a'r sêr corrach, a'r symudiad cyfatebol ar y darlun H-R, yn eithriadol o gymhleth; serch hynny, mae'n amlwg fod dilyniad naturiol rhwng y gwahanol sêr ar y darlun H-R. Gyda llaw, ar derfyn oes y seren fel seren gawr goch mae'r heliwm yn dechrau adweithio ac yn ffurfio carbon, ond nid yw'r broses hon mor effeithlon â'r broses a fu'n cynnal y seren fel seren prif ddilyniant. Gadewch i ni ofyn, beth sydd yn cynnal y sêr corrach gwynion? Cofiwch fod ffynhonnell niwclear y seren wedi dod i ben ar ôl iddi symud oddi ar y prif ddilyniant, felly nid pwysedd y nwy poeth sydd yn gyfrifol yn awr. Pwysedd electronau dirywiedig sy'n cynnal y seren erbyn hyn: mae perfeddion y seren yn oer cyn belled ag y mae'r sylwedydd yn y cwestiwn. Yn ogystal â'r gwrthyriad trydanol rhwng yr electronau, mae gwrthyriad cryfach, mwy hanfodol, yn bod