Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llun 3. Clwstwr o sêr y Pleiades (Trwy garedigrwydd Arsyllfeydd Mount Wi/son a Pa/omar) fydd yn chwyddo gyntaf, ac mi fydd y prif ddilyniant yn 'cyrlio' i'r dde, fel y dynodir yn Ffig. 3. Po hynaf y mae'r clwstwr, nesaf i gyd y mae'r 'tro' i ffwrdd o linell y prif ddilyniant at waelod y darlun. Gallwn ddefnyddio hyn i benderfynu oedran y clwstwr. Dyma gryfder y darlun H-R: gallwn ei ddefnyddio nid yn unig i ymchwilio i ddatblygiad y sêr, ond hefyd i benderfynu oedran a phellter clystyrau sêr. Y clwstwr M13 yw'r hynaf, gydag oedran o 14,000 o filiynau o flynyddoedd. Cyn cau'r drafodaeth, gadewch i ni fynd yn ôl at dynged y sêr trymion. Gwelsom uchod fod sêr ysgafn, fel yr haul, yn treulio eu henaint fel sêr corrach gwynion, ond nid yw hyn yn bosibl os yw eu trymder yn fwy na therfan Chandrasekhar. Pan ddaw oes seren fel seren gawr goch i ben, mae'n cael y gallu i ddefnyddio'r heliwm di-ynni sydd yn ei pherfeddion i gynhyrchu ynni trwy'r broses (y broses alffa driphlyg, am mai gronynnau alffa yw'r heliwn He^ wrth gwrs). Gall y sêr trymion ddefnyddio'r carbon i gynhyrchu ynni, ac yn y blaen, nes bod seren drom, tua diwedd ei hoes, yn meddu cyfansoddiad tebyg i'r hyn a welir yn Ffig. 4; sylwch mai haearn (Fe) sydd yng nghanol y seren yn awr. Yn y cyflwr hwn mae'r seren fel bom ansefydlog am nad oes modd defnyddio'r haearn i gynhyrchu ynni; elfen sydd yn amsugno ynni ydyw haearn. Mae rhywbeth anhysbys yn achosi i'r bom ffrwydro a bydd yr elfennau trwm a gynhyrchwyd yn ymweithydd niwclear y seren yn cael eu gwasgaru i'r gofod; ond mae perfeddion y seren yn cwympo, i greu seren newtron (cyfnither y sêr corrach Ffig. 4. Cyfansoddiad cemegol seren drom sydd ar fin ffrwydro. Haearn sydd yng nghanol y seren a hydrogen yn ei haenau uchaf