Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llun 4. Nifwl y Cranc. Gweddillion seren drom a ddinistriwyd mewn ffrwydrad anferth ym 1054 O.C. (Trwy garedigrwydd Arsyllfa Hale) gwynion) neu dwll du. Mae enghraifft o'r gweddillion hyn i'w gweld yn Llun 4, sydd yn dangos Nifwl y Cranc. Gwelwyd y ffrwydrad a roddodd fodolaeth i'r nifwl COLEG PRIFYSGOL ABERTAWE Un o Golegau Cyfansoddol Prifysgol Cymru Prifathro: B. L. Clarkson, B.Sc., Ph.D., D.Sc., C.Eng., F.R.Ae.S., F.S.E.E., F.I.O.A. Darperir y cyrsiau canlynol ar gyfer myfyrwyr gwyddoniaeth: [a) Graddau Prifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth a Gwyddoniaeth Gymhwysol. (b) Diplomâu'r Coleg mewn Bioleg Forol Gymhwysol, Cartograffi, Ffiseg Cyflwr Solet, Ffiseg Fathemategol, Ffiseg loneiddiad, Gwyddor Rheolaeth, Peirianneg Gemegol, Tocsicoleg Geneteg. Mae'r cyrsiau yn y Gyfadran Gwyddoniaeth yn cynnwys Athroniaeth, Biocemeg, Bioleg yr Amgylchedd, Bioleg Forol, Botaneg, Cemeg, Cyfrifianneg, Daeareg, Daeareg gyda Geocemeg, Daearyddiaeth, Economeg, Eigioneg, Ffiseg, Geneteg, Gwyddoniaeth Ddadansoddol, Gwyddoniaeth Dopograffigol, Mathemateg, Mathemateg Bur, Mathemateg Gyfrifiadurol, Mathemateg Gymhwysol, Microfioleg, Palaeontoleg, Seicoleg, Sŵoleg. Mae'r cyrsiau yn y Gyfadran Gwyddoniaeth Gymhwysol yn cynnwys Astudiaethau Busnes Ewropeaidd Economeg a Deunyddiau, Efrydiau Ynni, Electroneg gyda Chyfrifianneg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg Deunyddiau, Gwyddor Rheolaeth, Gwyddor Rheolaeth Americanaidd, Mathemateg Beirianegol gyda Chyfrifianneg, Meteleg, Peirianneg Drydanol a Thrydan, Peirianneg Electro- fecanyddol, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Fiocemegol, Peirianneg Cemegol, Peirianneg Sifil. Ceir Neuaddau Preswyl ar gyfer dynion a merched. Cedwir dau lawr yn Neuadd Sibly i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. hwn ym 1054 o.c. gan astrolegwyr y Dwyrain Pell, ac mae seryddwyr heddiw wedi darganfod seren newtron-pwlsar-yng nghanol y nifwl. Mae'r sêr newtron yn eithriadol iawn. Er bod eu mas cymaint â mas yr haul, pum milltir yn unig ydyw radiws seren newtron gyffredin; byddai llond llwy de yn pwyso miloedd o filiynau o dunelli! Ac os yw'r seren newtron yn ymddangos yn gorff eithafol, mae'r tyllau du yn hollol anweledig, fel pyllau diwaelod yn y gofod ei hun. Yn anffodus nid yw hyd yr erthygl yn caniatáu trafodaeth ar y sêr meirw hyn. Beth am yr elfennau trwm? Yn nechrau'r cyfanfyd 'roedd sêr y genhedlaeth gyntaf yn cywasgu allan o gymysgedd o hydrogen a heliwm yn unig; yn cyn- hyrchu'r elfennau trwm ac yn eu gwasgaru drwy'r gofod. Mewn amser cawn sêr-yr ail genhedlaeth-yn cywasgu o gymysgedd o hydrogen, heliwm a'r elfennau trwm (mae'n amlwg o'r tabl mai seren o'r ail genhedlaeth yw'r haul). Ond cawn yr un elfennau trwm ynom ni: mae'r haearn yn ein gwaed, y calsiwm yn ein hesgyrn ac yn y blaen, yn dod o sêr hynafol a oedd yn rhy drwm i derfynu eu hoes yn dawel. Yr ydym i gyd yn ddisgynyddion i'r sêr.