Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol ERBYN DIWEDD 1985 fe fydd Prydain yn penderfynu a yw am ddilyn esiampl yr Unol Daleithiau ai peidio a gadael UNESCO, corff arbenigol y Cenhedloedd Unedig sy'n hyrwyddo lledaeniad rhyngwladol Gwyddoniaeth, Addysg a Diwylliant. Fe ddylai'r cyfnod prin sydd ar ôl, felly, gael ei ddefnyddio mor egniol ag sy'n bosibl i ystyried oblygiadau'r symudiad annisgwyl yma. Wedi'r cwbl 'roedd Prydain yn aelod sylfaenol o UNESCO, ac yn Llundain, ar ôl rhyfel fawr 1939-46 yr arwyddwyd y Siarter a ragwelai gydweithrediad heddychol rhwng cenhedloedd i ddileu anllythrennedd, anwybodaeth a thlodi. Pam felly ein bod rwan yn ystyried, o ddifri, cefnu ar y mudiad y bu i ni gymaint o ran yn ei sefydlu? Biwrocratiaeth Cystal cyfaddef ar unwaith bod anfodlonrwydd cyffredinol o fewn a thu allan i UNESCO ynglyn â'r modd y mae'r mudiad yn cael ei redeg a'r cyfeiriad y mae'n ei ddilyn. 'Does ond eisiau treulio ychydig iawn o amser o fewn un o'r ddau adeilad enfawr ym Mharis i ganfod bod biwrocratiaeth wedi mynd yn rhemp yno. Oni bai am hynny, pam fod yn rhaid cyflogi 2000 mewn canolfannau moethus yn un o ddinasoedd drutaf y byd er mwyn cynnal 800 o weithwyr ymarferol allan yn y maes? Tyfodd y syniad gyda'r blynyddoedd mai astudio addysg, nid addysgu, yw ei brif swyddogaeth. Cynadledda am wyddoniaeth, yn hytrach na defnyddio gwyddoniaeth, a gafodd y flaenoriaeth a'r arian yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Aeth yr ymgais i ledaenu diwylliant yn raddol i olygu hyrwyddo syniadaeth wleidyddol, a'r awydd i oleuo yn gyfystyr â cheisio sefydlu trefn 'gwybodaeth newydd' drwy awdurdod llywodraethau ac nid unigolion. Yn ôl rhai o'r aelodau presennol, y mae symudiad o'r fath yn peryglu egwyddor sylfaenol y Gorllewin o ryddid barn i bob unigolyn. Comisiwn Cenedlaethol UNESCO Ers rhai blynyddoedd bellach bum yn aelod o Gomisiwn Cenedlaethol UNESCO ym Mhrydain; corff sy'n cynghori'r llywodraeth am y blaenoriaethau y carem ni i UNESCO eu dilyn, ac i ledaenu gwybodaeth am waith UNESCO yn y wlad hon. Gallwch dybio bod cryn drafod wedi bod yn ystod y misoedd diwethaf rhwng y Comisiwn a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ein rhaglenni elusenol rhyngwladol, sef Timothy Raison, ynglyn â pha benderfyniad y dylem ei wneud fel gwlad. Cytunodd y mwyafrif y dylem roi digon o rybydd i UNESCO o'n hanfodlonrwydd, gan nodi'r cwynion yn fanwl, ac yna geisio mesur yn ofalus a fyddai UNESCO yn diwygio ei hun yn ddigon i'n galluogi i barhau yn aelod gyda'n tâl aelodaeth o rhyw £ 5m y flwyddyn. Eisoes penderfynodd yr Unol Daleithiau bod y sefyllfa yn anobeithiol ac allan â nhw gan fynd â chwarter y gyllideb bresennol gyda nhw. Mae peth tocio a diwygio yn anochel felly. Yn ddiweddar hefyd mae Japan wedi mynegi yr un pryder â Phrydain ac wedi rhoi yr un rhybudd ynglyn â gadael y mudiad. Yr Hanfodion Pa bethau fydd yn ofynnol i UNESCO eu gwneud os yw Prydain, Japan ac efallai eraill o wledydd Ewrop, i barhau'n aelodau? Dyma rai hanfodion: ı Rhaid i'r mudiad ymwrthod â defnyddio dogmâu gwleidyddol i ymosod ar werthoedd a gweledigaeth y Cyfansoddiad. в Mae'n ofynnol rhoi mwy o sylw ac arian i raglenni sylfaenol mewn addysg, gwyddoniaeth a diwylliant, a llai ar astudiaethau academaidd a damcaniaethol, e.e. Rhaglen I (astudiaethau'r dyfodol), Rhaglen III (astudiaethau cyfathrebu) a Rhaglen XIII (heddwch a diarfogi). ı Dylid torri allan y rhaglenni sy'n dyblygu meysydd canghennau eraill y Cenhedloedd Unedig. 1 Mae angen diwygio'r Swyddfa Gyhoeddusrwydd i drosglwyddo mwy o wybodaeth am waith ymarferol UNESCO yn hytrach na chynhyrchu tomennydd o bapur diwerth. в Mae angen sefydlu peirianwaith annibynnol i adolygu gwaith yr adrannau, a sicrhau bod y mudiad yn gweithio'n fwy effeithiol. § Rhaid diwygio'n sylfaenol y modd y paratoir y gyllideb ac amcangyfrifon chwyddiant. ı Mae'n hanfodol symud pwyslais yr holl raglenni tuag at weithrediadau yn hytrach nag astudiaethau, ac yn arbennig eu cyfeirio tuag at anghenion gwledydd y trydydd byd. Rhaid cynnal llai o gyfarfodydd, cynhyrchu llai o ddogfennau a chynyddu y gwaith maes. Yr awgrym drwy'r cyfan yw bod UNESCO yn gorff aneffeithiol, gwastraffus, wedi ei anelu'n fwy at y rhai sy'n gweithio a byw yn gyfforddus ym Mharis nag at broblemau gwledydd tlotaf y byd fel y rhagwelai'r Cyfansoddiad. Mewn gair, mae'r staff dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cyffredinol presennol, Mr M'Bow wedi bradychu'r weledigaeth wreiddiol. Bu'r mudiad ers ymron i flwyddyn bellach yn ystyried y feirniadaeth, ac mae digon o arwyddion erbyn hyn bod symudiadau sylweddol ar droed.