Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Datblygiadau Bûm i yn gwylio'r Adran Addysg a Byd Gwaith yn ofalus. Ychydig iawn o bwyslais a roddwyd hyd yma ar addysg dechnegol, er enghraifft, er bod galw aruthrol yng ngwledydd y trydydd byd am dechnegwyr i gynnal a thrwsio'r holl offer a'r systemau technolegol sy'n hanfodol i'w datblygiad. Astudiaethau cymharol o'r systemau addysgol technegol mewn gwahanol wledydd fu'r agosaf gafwyd hyd yma. Rwan sylwaf bod cyllideb yr Is-Adran ar 'Addysg Dechnegol' wedi ei threblu. Ac o'r hyn a glywaf dyna sy'n digwydd o fewn yr adrannau eraill, lle mae'r pwyslais pennaf ar baratoad at waith ac at hyfforddiant ymarferol. Mae symud bid siwr. Ond a fydd y symud yn ddigon i'n llywodraeth ni? Amser yn unig a ddengys. Mae'n deg dweud mai barn mwyafrif aelodau'r Comisiwn Cenedlaethol yw mai parhau o fewn y mudiad fyddai'r peth doethaf, a mynnu'r gwelliannau sy'n angenrheidiol. 'Rydym yn siwr o golli'n sylweddol wrth adael, beth bynnag, a thybia rhai y byddai dadleuon ar hyd y llinellau hyn yn fwy tebyg o gael dylanwad ar y llywodraeth bresennol. Y Dadleuon Derbyniwn yn ôl i Brydain, bob blwyddyn, waith i arbenigwyr, ymweliadau, cytundebau i werthu cyflenwad o'n llyfrau, offer a.y.b. sef llawer mwy na'r £ 5m a gyfrannwn i'r coffrau. Mae UNESCO hefyd yn rheoli llawer iawn o raglenni Banc y Byd ac arian Rhaglen Ddatblygu y Cenhedloedd Unedig (UNDP), ac ni allem ddisgwyl cael ein cyfran o'r arian a'r gwaith yma 'chwaith petaem yn gadael. Mae Canolfan Ddogfennau Cyfreithiol UNESCO wedi ei lleoli yn Llundain a byddai'n rhaid ei chau a'i throsglwyddo i Ffrainc, mae'n debyg. Mae hefyd nifer o raglenni gwyddonol cydweithredol mewn bioleg, geoffiseg, astudiaethau'r gofod, cyfnewid safonau a mesuriadau etc. fyddai'n golled bwysig i grwpiau o wyddonwyr ym Mhrydain. Ymlaen felly â'r ddadl. A oes raid i ni gael ein ffordd ar bob pwynt a gododd y Gweinidog? Onid yw'r Unol Daleithiau wedi gadael am yr union reswm y beirniedir y mudiad, sef gormod o ystyriaethau gwleidyddol? Ysgwn i a fyddai sôn am or-bwyslais ar wleidyddiaeth pe bai'r cyfeiriad yn ffafriol i America, yn hytrach nag i'r gwledydd comiwnyddol fel ar hyn o bryd? Er ei holl wendidau, mae UNESCO yn gorff allweddol, yn cynnig yr unig fodd i rai gwledydd gael eu gwyddonwyr a'u haddysgwyr i'r maes rhyngwladol. Byddai cau'r siop a rhedeg adre yn bradychu'r rhain, a'r gwledydd tlawd sy'n dal i edrych at UNESCO am gymorth diwylliannol ac ymarferol. Yn sicr bydd 1985 yn mesur ein gallu i edrych heibio i ddiffygion amlwg y presennol a throi ein golygon a'n hymroddiad tuag at y weledigaeth fwy, a mynnu mai honno sydd yn llwyddo yn y pen draw. GLYN O. PHILLIPS Coleg Prifysgol Gogledd Cymru CANMLWYDDIANT Gan mlynedd yn ôl, ar 18 Hydref 1884, agorwyd drysau'r Coleg am y tro cyntaf. Mae'r Coleg wedi trefnu rhaglen arbennig am y flwyddyn o Hydref 1984 tan yr Haf 1985, ac 'rydym yn awyddus i gysylltu â chyn-fyfyrwyr y Coleg. Byddwn hefyd yn paratoi Cofrestr Barhaol o Gyn-fyfyrwyr. YSGOLORIAETHAU Y mae'r Coleg yn cynnig 18 Ysgoloriaeth Fynediad i gyd, y rhan fwyaf ohonynt yn werth £ 200 y flwyddyn. Rhoddir 7 o'r ysgoloriaethau hyn gan Awdurdodau Lleol ac y mae nifer ohonynt yn gyfyngedig i fyfyrwyr o Gymru. Hefyd rhoddir un ysgoloriaeth gan Gylch Darlithwyr Cymraeg y Coleg i fyfyriwr sydd â'r gallu i ddilyn cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Os hoffech gael gwybod mwy am y dathlu, y Gofrestr Barhaol, neu os hoffech dderbyn copi o'r Prospectws arbennig 'Dysgu Drwy Gyfrwng y Gymraeg' neu'r pamffled ar yr Ysgoloriaethau, cysylltwch â John W. Jones, Cofrestrydd Cynorthwyol, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, Gwynedd, ffôn Bangor (0248) 351151, est. 400.