Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Rhaglenni), yn gyfrifol yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf am ddatblygu strategaeth fanwl a rhaglenni yn y maes. Mae Mr Parish yn arbenigwr blaenllaw ar addysg iechyd a hyd yn ddiweddar bu'n Brif Gynghorwr Hyrwyddo Iechyd i Awdurdod Iechyd Stockport. Mae gan Guriad Calon Cymru bolisi dwyieithog ac i gynorthwyo i'w weithredu fe apwyntiwyd Cymro Cymraeg rhugl arall i'r tîm. Bydd Mr Gareth Morgan, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Gogledd Cymru), yn gyfrifol hefyd am gyd-gysylltu gweithgareddau yng Ngogledd Cymru ac am helpu i ddatblygu rhaglenni plant a ieuenctid ar hyd a lled y Dywysogaeth. Yn ogystal â'r dyletswyddau hyn mae ef yn parhau i fod yn Brif Swyddog Addysg Iechyd Awdurdod Iechyd Gwynedd. Yn olaf, crybwyllir Mr Donald Nutbeam a ymunodd â'r tîm o Adran Addysg Prifysgol Southampton. Yn rhinwedd ei swydd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol (Ymchwil) bydd ef yn gyfrifol am bwyso a mesur y Rhaglen a fydd yn cynnwys Arolwg Iechyd Cymreig yn 1985 a 1990. Arolwg ar raddfa fawr o Gymru gyfan fydd hwn ac y mae ei angen er mwyn gallu mesur effeithlonrwydd a chost-effeithlonrwydd yr ymyriadau. Rhoddir pwyslais mawr ar gydweithrediad ag Awdurdodau Lleol, Iechyd ac Addysg a grwpiau proffesiynol a mudiadau gwirfoddol. Bydd dull y gweithredu'n rhyngsectoraidd ac anogir pob grwp yng Nghymru sydd â diddordeb yn y maes i gyfranogi ynddo. Bydd yr ymgyrchoedd yn ymwneud â gofal cynradd (practis cyffredinol, ymweld ynghylch iechyd, ac ati), ysgolion, grwpiau cymuned, adeiladau awdurdod iechyd, y cyfryngau, amaethyddiaeth, COLEG PRIFYSGOL ABERTAWE Un o Golegau Cyfansoddol Prifysgol Cymru Prifathro: B. L. Clarkson, B.Sc., Ph.D., D.Sc., C.Eng., F.R.Ae.S., F.S.E.E., F.I.O.A. Darperir y cyrsiau canlynol ar gyfer myfyrwyr gwyddoniaeth: (a) Graddau Prifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth a Gwyddoniaeth Gymhwysol. (b) Diplomâu'r Coleg mewn Bioleg Forol Gymhwysol, Cartograffi, Ffiseg Cyflwr Solet, Ffiseg Fathemategol, Ffiseg loneiddiad, Gwyddor Rheolaeth, Peirianneg Gemegol, Tocsicoleg Geneteg, Geneteg a'i Defnyddioldeb. Mae'r cyrsiau yn y Gyfadran Gwyddoniaeth yn cynnwys Athroniaeth, Biocemeg, Bioleg yr Amgylchedd, Bioleg Forol, Botaneg, Cemeg, Cyfrifianneg, Daeareg, Daeareg gyda Geocemeg, Daearyddiaeth, Economeg, Eigioneg, Ffiseg, Geneteg, Gwyddoniaeth Ddadansoddol, Gwyddoniaeth Dopograffigol, Mathemateg, Mathemateg Bur, Mathemateg Gyfrifiadurol, Mathemateg Gymhwysol, Microfioleg, Palaeontoleg, Seicoleg, Sŵoleg. Mae'r cyrsiau yn y Gyfadran Gwyddoniaeth Gymhwysol yn cynnwys Astudiaethau Busnes Ewropeaidd Efrydiau Ynni, Electroneg gyda Chyfrifianneg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg Deunyddiau, Gwyddor Rheolaeth, Gwyddor Rheolaeth Americanaidd, Mathemateg Beirianegol gyda Chyfrifianneg, Meteleg, Peirianneg Drydanol a Thrydan, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Fiocemegol, Peirianneg Cemegol, Peirianneg Sifil, Astudiaethau Busnes, Ymchwil Gweithredol, Gwyddor Rheolaeth Ewropeaidd. Ceir Neuaddau Preswyl ar gyfer dynion a merched. Cedwir dau lawr yn Neuadd Sibly i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. masnach a diwydiant. Anogir amrywiaeth lleol; yn wir, wrth amrywio dulliau gweithredu bydd mwy o gyfle i ni ddysbu gan y project. Bydd yr angen am ddatblygu hunanhyder, hunan- gynhaliaeth a hunan-barch yn tanategu'r rhaglenni addysgiadol. O'r herwydd, fe roddir sylw i agweddau seico-gymdeithasol iechyd ac afiechyd. Mabwysiedir canllawiau llawer ehangach na'r hyn a fabwysiadwyd yn y gorffennol gan raglenni atal cyfyngach eu maes. Fe hyrwyddir iechyd pobl drwy berswâd a chymorth yn hytrach na gorfodaeth. Fe gyflwynir iddynt ddelweddau dengar a chadarnhaol yn hytrach na rhai negyddol. Dyma'r dull a arferir eisoes gan BBC Cymru wrth baratoi cyfres o raglenni teledu ar y cyd. Dangosir y rhaglenni ar oriau brig yr Hydref gan astudio'r angen am weithredu i leihau perygl clefyd y galon a sut y gellir cyflawni hynny. Er mwyn apelio at wyr a gwragedd cyffredin yng Nghymru, fe gyflwynir personoliaethau Cymreig enwog a phoblogaidd a'u holi pam y credant bod iechyd yn bwysig ac ym mha fodd y ceisiant fyw'n iachach. Anogir cymryd rhan yn hytrach na bod yn oddefol. Yn y pen draw, gweithredu drwy bobl ac nid posteri sy'n bwysig. Fe welir, felly, mai'r athroniaeth y tu cefn i Guriad Calon Cymru yw mai eiddo Cymru yw'r Rhaglen hon ac nid eiddo'r Ganolfan. Dylai pawb yng Nghymru deimlo fod ganddynt gyfraniad unigryw i'w roi. Gan hynny buasai'r Cyfarwyddiaeth yn croesawu cyngor neu gynigion o gymorth gan unrhyw un yng Nghymru, gan gynnwys y gymdeithas wyddonol. Mae'r Rhaglen yn dal yn ei chyfnodau cynnar, ffurfiannol, a rhaid wrth gynllunio effeithiol.