Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr A thro Robert Owen Cyfres newydd yn olrhain gyrfaoedd pedwar gwyddonydd o Gymro yr enillodd eu gwaith edmygedd a bri byd eang. BRODOR o Eifionydd yw Robert Owen; aeth i ysgol Llanystumdwy ac yna i Ysgol Ramadeg Pwllheli cyn ennill gradd M.B., B.S. ym 1946 yn Ysbyty Feddygol Guy, Llundain. Llawenydd i'w gyfeillion ar hyd a lled Cymru, ac yn arbennig i'r rhai yng ngogledd Cymru fu'n derbyn triniaeth mor effeithiol ganddo, fu ei apwyntiad i Gadair Orthopaedeg Prifysgol Lerpwl, gan ychwanegu eto at hynodrwydd y Cymry ym myd trin esgyrn. Ar ôl cyfnod yn y Llu Awyr hyd at 1949, dychwelodd i'r byd academig i astudio llawfeddygaeth orthopaedig yn Lerpwl a chael ei ethol i Gymrodoriaeth Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ym 1951. Enillodd raddau M.Ch.Orth. Prifysgol Lerpwl ym 1953, ynghyd â Gwobr y Cyfarwyddwr. Maes ei ymchwil fu Bys Bawd y Droed Ddynol. Tra'n sefydlu ei hun yn Lerpwl, datblygodd raglen gyd-weithredol gydag Ysbyty Esgyrn enwog Robert Jones ac Agnes Hunt yng Nghroesoswallt. Ym 1959, fe'i hapwyntiwyd yn Llawfeddyg Ymgynghorol i ysbytai Clwyd a Glannau Dyfrdwy cyn iddo symud i fod yn Llawfeddyg Orthopaedig Ymgynghorol yn Ysbyty Frenhinol Lerpwl ac Ysbyty'r Plant Alder Hey ac yn ogystal yn Ddarlithydd Clinigol yn Ysgol Feddygol Lerpwl. Daeth yr apwyntiad i'r Gadair Orthopaedeg yn goron ar yrfa ymroddgar a disglair. Yn ystod yr yrfa honno llwyddodd i barhau gyda'i waith llawfeddygol ymarferol yn ogystal â'i waith ymchwil, gan gyhoeddi dros gant o bapurau mewn cylchgronau, llyfrau a thrafodion y cymdeithasau arbenigol. Ef yw'r pennaf awdurdod ar Scoliosis. Datblygodd hefyd dechnegau newydd o drin y llaw a'r clun, yn arbennig mewn plant. Bu yn ymwelydd cyson â gwledydd tramor. Yng Ngwlad Groeg cefais dystiolaeth uniongyrchol bod galw mawr am ei wasanaeth a'i gyngor. Serch hynny, yn anad dim, Cymro hawddgar a brwdfrydig ydyw, ac ar hyd y blynyddoedd mae wedi cadw ei brif gartref yng Ngogledd Cymru. Mae'n aelod o Orsedd y Beirdd ac yn ymddiddori yn niwylliant a phroblemau ei wlad. Cafodd ei fagu gartref ar y fferm, ac mae ei ddiddordeb ym mhroblemau amaethyddiaeth a ffermio wedi parhau. 'Roedd yn un o sylfaenwyr Y Gymdeithas Feddygol a thestun ei ddarlith gyntaf i'r Gymdeithas oedd 'Peryglon mewn Amaethyddiaeth ac Anafiadau Gwledig'. Gwn fod clywed ei Gymraeg naturiol ac acen gron a choeth Pen Llyn wedi codi calon llawer i Gymro aeth yn bryderus tua Lerpwl i dderbyn triniaeth. Derbyniodd bellach bron pob anrhydedd posibl yn ei faes; yn ddiweddar cafodd ei ethol ar Gyngor Brenhinol Llawfeddygon Lloegr, ac mae ar hyn o bryd yn Llywydd y Gymdeithas Scoliosis Brydeinig. Eto'i gyd tuag at Gymru a'i diwylliant y mae'r dynfa, a thybiaf mai edmygedd a pharch ei gyd- Gymry a rydd iddo'r pleser mwyaf. Yn sicr mae wedi rhoi gwellhad i gannoedd ohonynt. Heb amheuaeth ychwanegodd bennod anrhydeddus arall at draddodiad cyfoethog y Cymry ym myd yr esgyrn. G.O.P. Yn y rhifyn nesaf ceir portread o'r Athro John Owen Williams, Pennaeth Adran Gemeg, Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Prifysgol Manceinion.