Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwyddoniaeth Mewn Lliw I. ROBERTS a V. SCOTT (Cyd-ysgrifenyddion) ADRAN GWYDDONIAETH A THECHNOLEG EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLANBEDR PONT STEFFAN PABELL a ddenodd lawer o ymwelwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llambed oedd y babell Wyddoniaeth a Thechnoleg-yn wir 'roedd golwg allanol y babell yn ddigon i ddenu rhai, gan ei bod yn felyn lliwgar gydag arddangosfa hardd o flodau o'i blaen. Gan mai ardal wledig yw Llambed a'r cylch, penderfynodd y pwyllgor lleol mai thema'r babell fyddai 'Technoleg newydd a chefn gwlad', a dyna oedd y pwyslais drwy gydol yr wythnos. Bu'r pwyllgor yn ffodus i gael nawdd hael i'r babell gan gwmni Telecom Cymru a'r Gororau. Rhannwyd y babell yn dair-un rhan ar gyfer arddangosfa gan y noddwyr, un rhan yn arddangosfa gan gwmniau bychain lleol ac ardrannau lleol 0 ddiwydiannau neu sefydliadau mawr, ac un rhan yn ddarlithfa. Agorwyd y babell ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod gan y Dr John S. Davies, ysgrifennydd panel sefydlog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod. Pwysleisiodd yn ei araith fer y pwysigrwydd o fathu a defnyddio geiriau Cymraeg newydd ym myd gwyddoniaeth-geiriau newydd heddiw fydd geiriau dyddiol y dyfodol. Pabell Gwyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan, a noddwyd gan Gwmni Telecom Cymru a'r Gororau. A'R CYLCH, 1984 Trefnwyd rhaglen o ddarlithiau a gweithgareddau byr ar amrywiol bynciau drwy gydol yr wythnos. Fore Llun darlithiodd Mr Glyn Jones o'r Gwarchodlu Natur ar Gadwraeth Natur yng Nghors Caron a Dyffryn Teifi. Dangosodd nifer o sleidiau o adar gwyllt yr ardal ac o'r planhigion sy'n rhoi cartref iddynt. Brynhawn Llun cynhaliwyd clinic garddio, gyda Mr D. B. Clay Jones yn ateb nifer o gwestiynau amrywiol yn ei ffordd gartrefol ac awdurdodol ei hun. Fore Mawrth bu Dr John S. Davies eto yn traddodi, ar y defnydd o rai egwyddorion gwyddonol ym mywyd cefn gwlad yn ystod yr hanner can mlynedd ddiwethaf. Dr Ben Thomas, cadeirydd y Gymdeithas Wyddonol, ac yn enedigol o'r ardal, oedd darlithydd y prynhawn, yn sôn am y defnydd a wneir o laser a ffibrau optic yn y byd cyfathrebu, ac o'r gwaith a wneir yn ei adran yn yr Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg yng Ngaerdydd, mewn cysylltiad â chwmni Telecom Cymru a'r Gororau. Fore Mercher, Meddygon Myddfai oedd y pwnc yn narlith ddiddorol Mrs Morfudd Owen. Trefnwyd darlith y prynhawn gan Antur Teifi-Mr Dafydd Elis Thomas, A.S., ar 'Dechnoleg Pwy?' yn tynnu'n sylw at yr holl gyrff sy'n