Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PIGION O'R YSGOLION O bryd i'w gilydd, bwriedir cynnwys adroddiadau byr yn y golofn hon am ddatblygiadau gwyddonol, mathemategol, a thechnolegol sy'n deillio o'n hysgolion neu sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gwaith ysgol. Gwahoddir i'r gornel hon gyfraniadau ar ffurf adroddiadau (hebfodynfwy na 500 o eiriau) a fydd yn amlinellu cyrsiau newydd, gwaith arloesol mewn technoleg, dulliau dysgu arbrofol neu brojectau diddorol eraill. Dylid anfon y gwaith, gyda lluniau addas os yn bosibl, at y Golygydd. MEDDALWEDD CYMRAEG Yn naturiol ddigon, cyfieithiadau o'r Saesneg yw mwyafrif y rhaglenni cyfrifiadurol Cymraeg a welir yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd. Daeth cyfieithiad llawn o'r pecyn o raglenni a ddarparwyd gan y Rhaglen Addysg Ficroelectroneg fel rhan o'r cynllun i alluogi ysgolion cynradd ac arbennig i brynu microgyfrifiadur am hanner pris, a chafwyd cyfieithiadau lleol a chenedlaethol o amryw o becynau eraill. Anhawster mwyaf gwaith o'r fath yw'r problemau sy'n gysylltiedig â hawlfraint y gwaith a rhyddid y cyfieithydd i'w ledaenu i gynulleidfa ehangach. Oherwydd hynny gwelwyd mwy o bwyslais yn ddiweddar ar gynhyrchu defnyddiau gwreiddiol neu i gyfyngu cyfieithu i becynau, megis y rhai a gynhyrchir gan y Rhaglen Addysg Ficroelectroneg, sydd yn rhydd o lyffethair hawlfraint. Gwelir nifer o grwpiau ledled Cymru yn gweithio ar agweddau amrywiol ac yn ceisio darparu adnoddau pwrpasol. Un o'r problemau a wynebir gan y gweithwyr yn y maes, heb sôn am yr athro neu'r athrawes yn y dosbarth, yw gwybod beth sydd eisoes ar gael a pha waith sydd ar y gweill. Prin y gallwn ganiatáu dyblygu gwaith a gwastraffu adnoddau. Mewn ymgais i geisio ateb y broblem o ledaenu gwybodaeth, darparwyd catalog meddalwedd gan y Panel Cymraeg a sefydlwyd gan y Rhaglen Addysg Ficroelectroneg yng Nghymru. Mae'r catalog yn cynnwys manylion am raglenni addysg arbennig, cynradd ac uwchradd ac hefyd yn cyfeirio at y rhaglenni hynny a ddarparwyd yn y Gymraeg ar gyfer busnes. Gellir sicrhau copi o'r Catalog Meddalwedd Cymraeg drwy gysylltu â swyddfa'r Rhaglen Addysg Ficroelectroneg yng Nghymru, Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, 245 Western Avenue, Caerdydd. H.G.Ff.R. MICROELECTRONEG YN Y MOELWYN Fel arfer ni chyfrifir Electroneg fel maes addas ar gyfer plant iau yn yr ysgol Uwchradd, ac yn sicr prin yw'r defnydd a wnaethpwyd o'r maes hwn yng nghwricwlwm y llai galluog ymysg y plant iau. Yn Ysgol Y Moelwyn, serch hynny, daethom i gredu y gellir cyflwyno rhai cysyniadau gwerthfawr yn y pwnc yma drwy edrych arno o safbwynt Systemau Electroneg yn hytrach nag yn nhermau disgrifiadau haniaethol o ymddygiad electronau dan amgylchiadau arbennig. Prif amcanion y prosiect 'Microelectroneg yn Ysgol Y Moelwyn' yw creu defnydd ar gyfer cwrs mewn electroneg i'r plant iau, llai galluog a chyflwyno'r cwrs hwnnw drwy gyfrwng y Gymraeg. Amcanion a dibenion eraill y prosiect fydd: 1. Rhoi cyfle i'r disgyblion ennill profiad o drin offer electronig drwy ddilyn cyfarwyddiadau manwl a dealladwy. 2. Sicrhau cyfle i'r disgyblion weithio mewn parau. 3. Strwythuro'r cwrs yn y fath fodd fel y gellir asesu gwaith y disgybl yn barhaol a thrwy hynny geisio osgoi gor- ddibyniaeth ar gofio dros gyfnod hir, a'r ymateb ysgrifenedig fel elfennau yn y broses o asesu. 4. Dilyn strategaeth fwriadol o ddysgu drwy ddatrys problemau, lle bynnag y bo modd gwneud hynny. 5. Tanio dychymyg y plentyn drwy gyflwyno iddo un agwedd bwysig ar Dechnoleg gyfoes ac ar yr un pryd ceisio dangos posibiliadau'r Dechnoleg honno a'r cyfyngiadau sydd ymhlyg ynddi. 6. Gofalu bod y cwrs yn cynnwys elfennau cytbwys o waith ymarferol ynghyd ag ymatebion ar lafar, drwy ddiagramau ac yn ysgrifenedig. 7. Dangos yn glir i'n Cymry ifanc (a'u rhieni) bod cysyniadau yn y Dechnoleg Newydd yr un mor hygyrch a dealladwy yn y Gymraeg ag y maent mewn unrhyw iaith fodern, fyw arall. Bwriedir sylfaenu'r cwrs ar y syniad o'r System Electronig fel: ARWYDD MEWNBWN PROSESYDD ARWYDD ALLBWN Er enghraifft, SYNHWYRYDD GOLAU GYRRWR TRAWSDDYGIADUR UNED SUWR Gan gymryd y syniad syml yma fel man cychwyn gobeithiwn gerdded yn bwyllog i gyfeiriad syniadau sylfaenol y microgyfrifiadur ei hunan! I'r perwyl yma gwyddom bod amrywiaeth o offer ar y farchnad ond ar y dechrau o leiaf rydym am gyfyngu'r prosiect i gymhariaeth o offer dau gwmni (er nad oes dim yn derfynol yn y dewis yma) sef: (a) E & L Electronic-unedau i'w cysylltu â'i gilydd. (b) Offer y cynllun MFA gan UNILAB. Ymysg nodweddion a methodoleg arbennig y prosiect fe amcenir at: (a) geisio sicrhau bod deunydd ysgrifenedig y cwrs o fewn gallu y plant i'w ddarllen-ceisir mesur 'oed darllen' y deunydd drwy ddefnyddio Profion Flesch a Fry. (Cwestiwn: A oes addasiad Cymraeg o'r ffurf gyfrifiadurol o'r profion yma ar gael?)