Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Benjamin Davies 1863-1957 Mae'r awdur yn frodor o Fôn acyn ŵr gradd o goleg Bangor. Bu'n athro Cemegyn ysgol y Bala ac yn ddarlithydd am lawer o flynyddoedd mewn coleg hyfforddi yn Lerpwl. Ymddiddorodd yn hanes gwyddoniaeth a thechnoleg a derbyniodd radd M.Sc. Prifysgol Manceinion (U.M.I.S.T.) am draethawd ar y Cymro Edward Hughes, dyfeisiwry meicroffôn. Ar gyfer gradd Ph.D troes ei sylw at Oliver Lodge, Athro Ffiseg cyntaf Prifysgol Lerpwl a'r Cymro a ddaeth yn gynorthwyydd ymchwil ac yn gyfaill personol iddo, Benjamin Davies. Cyd-ddigwyddiad hollol oedd bodyr Athro Iolo Wyn Williams wedi cyhoeddi ysgrif fer yn Y Gwyddonydd ym 1981 yn holi 'Pwy oedd Benjamin Davies?' Nid oedd yn hyderus y câi ateb, ond yr oedd Mr Roberts eisoes ar y trywydd. Darganfu yn Aberystwyth gasgliad eithriadol o ddogfennau a adawyd gan Benjamin Davies, yn cynnwys holl nodiadau a chofnodion ymarferol eiyrfa wyddonol hir. Mae'r mil a mwy o lythyrau gan Oliver Lodge, y mwyafrif yn trafod eu gwaith gwyddonol o ddydd i ddydd, yn hollol unigryw, ac fe fyddant yn sylfaen i nifer o draethodau ymchwil eto mae'n sicr. Y mae'r casgliad bellach yn ddiogel yn y Llyfrgell Genedlaethol. Tristwch i'r Athro Williams yn bersonol oedd sylweddoli ei fod yn fyfyriwr yn Aberystwyth pan fu farw Benjamin Davies, ac ni wyddai ddim am ei fodolaeth na'i hanes. Pleser anghyffredin iddo ar y llaw arall oedd cael arholi traethawd Ph.D. Glyn Roberts a dyfarnu'r radd iddo. Y mae Dr Roberts bellach wedi ymddeol o'i swydd ond yn parhau i fyw yn Lerpwl ac yn un o brif gynheiliaid y bywyd Cymraeg yno. YN ei erthygl ar 'Benjamin Davies a Rhith yr Ether,' disgrifiodd yr Athro Iolo Wyn Williams y cefndir i ymgais yr Athro Oliver Lodge i brofi bodolaeth yr ether a chyhoeddodd y llun adnabyddus o Lodge gyda George Holt a Benjamin Davies. Cododd y cwestiwn 'pwy oedd Benjamin Davies?' Ymgais fydd yr ysgrif hon i roi cip- olwg ar y gwr diddorol yma, Benjamin Davies, a dyfodd o fod yn 'fachgen yn y labordy' i fod yn un yr ystyriai Lodge, ar un pryd, ei fod yn bartner iddo. Ganwyd Benjamin Davies yn Llangynllo ym 1863. Ef oedd yr hynaf o dri o blant David a Hannah Davies. David Davies oedd prif arddwr stâd Bronwydd-cartref Syr Thomas Lloyd. Yn ôl yr hanes 'roedd yn fedrus iawn fel garddwr ac enillodd y cyfle, mewn cystadleuaeth ag amryw eraill, i gynllunio gerddi Syr Thomas-gerddi oedd, medd rhai, o safon i'w chymharu â gerddi Hampton Court.2 Merch fferm oedd Hannah Davies (Jones cyn priodi) o Flaenyllan ym mhlwyf Llandysul. Hannai Mrs Davies, ar ochr ei mam, o deulu oedd wedi bod yn amlwg fel arweinwyr yr ymneilltuwyr yn yr ardal am flynyddoedd. Bu farw David Davies ym 1874 ac mae'n debyg mai dylanwad Hannah a'i theulu oedd gryfaf ar y bachgen, er fod y tad a'r fam, wedi llwyddo i roi syniad o bwysigrwydd 'dod ymlaen' i'r mab. Addysgwyd Ben Davies yn ysgol Aberbanc-ac yn ôl ei ferch, Miss Gwen Davies, 'roedd ganddo feddwl uchel o'r prifathro Mr David Peters. Ar ôl gadael yr ysgol prentisiwyd Ben yn siop ei ewythr, Ben Jones. Yn ystod ei brentisiaeth dangosodd ddiddordeb mewn celfi mecanyddol-a hefyd, mewn darllen. (Yn wir mewn llythyr at ei fam yn Hydref 1883, soniodd yr hoffai gael rhai o'r llyfrau oedd gan 'Uncle Ben' yn ei dy yn eiddo'i hun.) Mae'n eglur, fodd bynnag, fod Ben wedi dangos nad oedd ganddo unrhyw wir ddiddordeb mewn bod yn siopwr! Dywedodd hynny, rhywbryd ym 1881, wrth gefnder ei fam, sef Dr D. Rhys Jones, Llandysul, gan awgrymu y carai fod yn beiriannydd neu hyd yn oed yn saer coed; nid oedd yn gweld y gallai wneud dim ohoni yn y siop. GLYN ROBERTS Mae'n debyg y byddai hanes Ben Davies wedi bod yn wahanol iawn onibai am yr 'ewythr' yma. 'Roedd Dr Rhys Jones wedi graddio ym Mhrifysgol Llundain, tua'r un adeg ag Oliver Lodge. Ym 1881 penodwyd Lodge yn Athro Ffiseg cyntaf Coleg Prifysgol Lerpwl ac ymhen byr amser 'roedd yn chwilio am 'fechgyn' i'w gynorthwyo yn y labordy. Yn ôl yr hanes a geir yn Cwrs y Byd ysgrifennodd Rhys Jones, wedi'r sgwrs â Ben Davies ym 1881, at un o athrawon Prifysgol Llundain yn holi tybed a oedd ganddo Ie i fachgen addawol yn y labordy. Nid o Lundain y daeth ateb ond o Lerpwl oddiwrth Lodge. Canlyniad hyn oedd i Ben Davies gael lle yn labordy Oliver Lodge a chychwyn y berthynas glos fu rhwng y ddau hyd at farw Lodge ym 1940. Dechreuodd Ben ar ei waith yn Lerpwl yn nechrau 1882. Mae'r llythyr cynta' a anfonodd i'w fam wedi ei ddyddio 24 Ionawr 1882, ac efallai ei bod yn arwyddocaol ei fod yn sôn am gapel yr Annibynwyr yn Park Road cyn mynd ymlaen i son am 'Y Coleg' ac am ei waith. Cyn hir ymaelododd mewn dosbarthiadau nos yn y Coleg i ddilyn cyrsiau Cemeg, Ffiseg a Mathemateg, gan y byddai hynny yn gymorth iddo i 'ddod ymlaen' chwedl yntau. Mae'n ddiddorol nodi hefyd ei fod wedi dweud wrth ei fam fod yna ddarlithoedd ar amryw bynciau i'w cael bedair gwaith yr wythnos yn yr Amgueddfa-a hynny yn rhad ac am ddim. Teimlai hefyd fod yn rhaid iddo egluro i'w fam mai yn Saesneg yr oedd y darlithoedd. (Gyda llaw, yn Gymraeg yr ysgrifennai at ei fam ond yn Saesneg, gan mwyaf, y cadwai ei ddyddiaduron.) Chwe swllt yr wythnos oedd cyflog Ben pan ddaeth i Lerpwl. Yn ôl ei gyfrifon manwl 'roedd ei gostau byw yn ddeg swllt a chwe cheiniog yr wythnos ac felly dibynnai ar ei fam weddw i dalu'r gwahaniaeth, sef pedwar swllt a chwe cheiniog. Byddai o bryd i'w gilydd yn derbyn rhodd o arian gan Rhys Jones hefyd ac, fel y ceir gweld yn nes ymlaen, nid ag arian yn unig y ceisiodd ei ewythr fod o gymorth i'r bachgen.