Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Silff Lyfrau The Human Body a The Facts of Life gan Jonathan Miller a David Pelham, Jonathan Cape Limited, 30 Bedford Square, Llundain WCl. Pris: £ 8.95 yr un. Wrth edrych ar gampweithiau Michael Angelo, mae pawb yn dotio at ei adnabyddiaeth o'r corff dynol, yn fframwaith esgyrn a rhwydwaith cyhyrau, a hyn mewn cyfnod pan oedd gwybodaeth wyddonol ond yn ei babandod. Ys gwn i beth fyddai Michael Angelo wedi'i wneud o ddau lyfr Jonathan Miller a David Pelham? Ymddangosodd The Human Body yn 1983 o wasg Jonathan Cape Ltd., i'w ddilyn gan The Facts of Life yn 1984. Fe'u gelwir yn astudiaethau mewn tri dimensiwn. Gan Jonathan Miller mae'r cefndir meddygol a gellir casglu felly mai ef sy'n gyfrifol am y wybodaeth glir, syml ond cynhwysfawr a gyflwynir trwy'r ddau lyfr. Gwyr pawb am ei allu dramatig hefyd, wrth gwrs, a hyn, gyda dawn artistig David Pelham sy'n rhoi arbenigrwydd i'r cyfrolau. Ni allai unrhyw olygfa ar lwyfan godi mwy o arswyd nac agor tudalen gyntaf The Human Body a chael penglog yn rhythu arnoch gydag esgyrn ac organau'r geg a'r gwddf yn symud fel yr agorwch y llyfr ymhellach. Drwy dynnu ar ddarn o gardbord lluniwyd clust yn atgynhyrchu swn, llygad yn derbyn llun, calon yn pwmpio gwaed, D.N.A. yn ymddatod, ac yn y blaen. Llwyddwyd yn ogystal i greu ansawdd y gwahanol feinweoedd yn rhyfeddol o realistig. Gallwch dynnu un haen oddi ar y nesaf yn un o'r lluniau a theimlo'r gwahaniaeth rhwng cyhyr, asgwrn, pibellau'r ymys- garoedd a sbwng yr ysgyfaint. Cyfyngwyd yr ail lyfr i broses atgenhedlu ac mae'r stori'n cael ei hadrodd yn hynod o lawn ond eto'n ddadansoddol ddealladwy, gan gyfleu rhyfeddod y creu. Efallai nad yw'r bywiogrwydd sydd mor eithriadol yn y gyfrol gyntaf gystal yn yr ail, er fod y darluniau o'r organau mewnol mor lliwgar â gardd flodeuog. Yn sicr bydd y ddwy gyfrol yn amhrisiadwy i bob athro bywydeg, i feddygon â chlaf pryderus, ac yn wir yn handi iawn yn aml i rieni. RHIAIN M. PHILLIPS From Falling Bodies to Radio Waves gan Emilio Segre, W. H. Freeman, Rhydychen (1984): Tud: x + 298. Pris: £ 24.95 (clawr caled), £ 13.95 (clawr meddal). Mae rhyfeddodau diweddar ffiseg-ynni niwclear, y cyfrifiadur, archwilio'r gofod-yn aml iawn yn gwneud i ni anghofio'r hyn a'u rhagflaenodd, sef y ffiseg clasurol. Mae'n amserol felly i gael cyfrol, fel yr un dan sylw, sydd â'r is-deitl 'y ffisegwyr clasurol a'u dargan- fyddiadau', i'n hatgoffa am wyddonwyr mawr y gorffennol a'n gosododd ni ar y ffordd, gyda'u syniadau a oedd yn eu cyfnod yn chwyldroadol iawn. Gellir dweud i raddau bod y darganfyddiad yn dibynnu ar bersonoliaethau a'r gwrthdrawiadau rhyngddynt ac eraill. I osod y llwyfan megis, mae'r llyfr yn agor gyda'r hyn a elwir yn rhagarweiniad ysmala, lle mae'r awdur yn ei ddychmygu ei hun yn ymweld â rhai o'r mawrion-Galileo, Newton, Faraday ac eraill. Mae'r bennod gyntaf ar Galileo a Huyghens. Mae helyntion Galileo (un o'r rhai cyntaf i sylweddoli'r pwysigrwydd o gysylltu arbrofion trwy fathemateg) gyda'r chwilys yn adnabyddus, ac mae'r awdur yn dangos gymaint o ran y chwareuodd gwleidyddiaeth yn y cyfnod yma. Nid yw Huyghens mor enwog, ond efe a sylfaenodd ddamcaniaeth tonnau goleuni. Yn yr ail bennod ar Newton, a fu'n gyfrifol am gymaint o ddatblygiadau pwysig mewn meysydd gwyddonol, ymdrinnir nid yn unig â'r rhain, ond hefyd â'i syniadau diwinyddol anuniongred ac â rhai agweddau braidd yn annymunol o'i gymeriad. Teitl y drydedd bennod yw 'Beth yw Goleuni?' Ymdrinnir yma â gwaith rhai fel Young, a drafododd y syniad o ymyrraeth goleuni, ac â Fresnel a arloesodd gyda'r syniad o bolariaeth goleuni. Trydan yw testun y bedwaredd bennod. Cyfeirir yma at y ffordd y datblygodd ein gwybodaeth o drydan, o'r electrostatig syml i'r tonnau electromagnetig. Mae'r bennod hon yn hir ac yn cynnwys sylwadau ar waith amryw, yn eu plith Volta, a ddarganfu'r batri, Faraday, yr hogyn tlawd a ddaeth yn athro'r Sefydliad Brenhinol, a Maxwell a lwyddodd i greu'r ddamcaniaeth a arweiniodd at ddarganfod tonnau electromagnetig lawer o flynyddoedd cyn iddynt gael eu darganfod. Mae'r bumed bennod yn ymwneud â gwres-y modd y datblygodd syniadau am, er enghraifft, tymheredd; y ffaith bod gwres yn un agwedd o egni, a'r amhosibilrwydd o fudiant tragwyddol. Y Ddamcaniaeth Cinetig yw testun y chweched bennod. Dangosir sut y datblygodd y syniad bod nwy wedi ei wneud o dalpiau bach o fater yn gwibio o gwmpas yn ddi-drefn ac eglurir ei nodweddion ac fel y daeth yn angenrheidiol i ystyried nodweddion ystadegol mater cyn y gellid datblygu ffiseg ymhellach. Mae'r llyfr yn gorffen gyda rhai sylwadau gan yr awdur ar stad ffiseg ddechreu'r ganrif hon, a nifer o atodiadau sy'n trafod manylion rhai o'r pethau y cyfeirwyd atynt yng nghorff y llyfr. Mae diwyg dymunol i'r llyfr ac mae llawer o luniau sy'n ychwanegu at ein dealltwriaeth o'r testun. Mae wedi dod yn fwy amlwg yn ddiweddar bod cyfeiriadau at gefndir hanesyddol gwyddoniaeth, trwy ddangos ffyrdd a arweiniodd at ddarganfyddiadau, o gymorth mawr yn y broses ddysgu. Mae'r awdur wedi llwyddo yn y llyfr hwn i ddangos sut y daeth darganfyddiadau gwyddonol yn eu cyfnod, a thrwy'r mynych gyfeirio at gymeriadau y rhai a fu'n flaenllaw, daw'r hanes yn fwy byw byth. Bydd y llyfr hwn o gymorth mawr i'r rhai sydd â diddordeb yn egwyddorion a sylfeini ffiseg. LL.G.C. Leibnii gan G. MacDonald Ross, Gwasg Prifysgol Rhydychen (1984): Tud: 121. Pris: f7.95 (clawr caled), £ 1.95 (clawr meddal). Heb amheuaeth, y mwyaf o gyraeddiadau Leibniz mewn mathemateg yw ei ddarganfyddiad o'r calculus, ym 1675. Dyma, mae'n debyg, bwynt cychwynnol mathemateg fodern, er bod Newton cyn hynny wedi dod i'r un canlyniad, ond heb ei gyhoeddi. Er mwyn i ffiseg fedru datblygu ar ôl cyfnod Newton, 'roedd angen calculus. Gyda'r wyddor newydd yma, gellir ymdrin â hafaliadau amrywiol a llinellau tro mewn modd nad