Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oedd ond yn bosibl gyda llinellau syth cyn hynny. Wedyn, 'roedd yn bosibl rhoi disgrifiad manwl a phroffwydol o fesuriad nad oedd yn gyson a rheolaidd, er enghraifft, afal yn syrthio a hwnnw'n cynyddu mewn cyflymdra mewn perthynas ag amser. Yn llyfr Mr MacDonald Ross ceir, nid yn unig ddisgrifiad o waith Leibniz ond hefyd olwg banoramig, fywiog a dealladwy o'i fywyd amrywiol. Fe'i ganed ym 1646, ddwy flynedd cyn diwedd y rhyfel 'Deng Mlynedd ar Hugain'. Treuliodd drigain mlynedd ei fywyd yng nghyfnod mwyaf athrylithgar Ewrop. Ysgubodd ei lythyrau llengar ar draws holl gyfandir Ewrop hyd Napoli, St Petersberg a Llundain. Hyd yn oed heddiw, nid yw'r cyfan o'i gyfraniadau wedi eu cyhoeddi. Ar wahân i'w fathemateg, ymestynai ei ymdriniaeth ddadansoddol i fyd athroniaeth, diwinyddiaeth, metaffiseg, rhesymeg a gwleidyddiaeth. Rhagwelai Ewrop Gristnogol fel paradwys lle na fyddai Cristnogion byth eto'n ymladd ac yn lladd ei gilydd. Nid gweledigaeth foesol yn unig mo hon, oherwydd rhagwelai rwydwaith o wladwriaethau heddychol fyddai'n medru cyd-fyw heb ymgodymu ond ar lefel gyfeillgar. Yn wir, mae'r syniad o 'harmoni' yn sylfaenol i'w fetaffiseg, ac yn cael ei adlewyrchu yn ei wleidyddiaeth. Yn ddiweddar hefyd, cyhoeddwyd llyfr arall ar yr un gwrthrych (Leibniz, gan Stuart Brown, pris £ 22.50, Gwasg Harvester). Ni ddaeth y llyfr hwn i law, ond yn ôl a glywaf fe ddylai'r myfyriwr brwd ei ddarllen, bid siwr. Ar y llaw arall gallaf gymeradwyo llyfr MacDonald Ross i'r darllenydd cyffredin yn ogystal. G.O.P. Cynefin, Rhif 16, Mawrth 1985, Gwasg Dwyfor, Penygroes. Pris: 60c. Diolch i'r drefn fod cylchgrawn byd natur, lliwgar a graenus, bellach wedi ennill ei blwyf yn y Gymraeg. Pan ymddangosodd Cynefin gyntaf yn 1982, eglurwyd mai cylchgrawn i'r teulu ydoedd; fe awn i ymhellach, a'i alw'n gylchgrawn i'r gymdeithas. Bellach y mae 16 rhifyn wedi ymddangos, ac yn rhifyn Mawrth 1985 ceir yr arlwy amrywiol y daethom i'w ddisgwyl. Yn naturiol ddigon caiff adar y sylw pennaf, gyda phum erthygl. Hoffais sylwadau Duncan Brown ar adar y gaeaf, ac yn ôl ei arfer ceir erthygl gan E. V. Breeze Jones yn llawn o'i brofiad ef ei hun fel adarwr, y tro hwn yn trafod yr aderyn lliwgar, glas-y-dorlan, gyda llun lliw arbennig o wych gan yr awdur o dri chyw ar gangen helyg. Ceir toreth o ffeithiau diddorol am y bioden gan Tony Mercer, ac ef hefyd sy'n rhoi inni adolygiad o lyfr enwog Charles Tunnicliffe, Shorelands Summer Diary. Cyfrannwr cyson i Cynefin yw'r naturiaethwr o ardal Treffynnon, Norman Closs Parry. Pysgod a physgota yw ei destun, a'r tro hwn aiff â ni i'r Bala, ac i Lyn Tegid, lle cawn gip ar sawl pysgodyn, a chlywed swn y tonnau ar y graean yn ei arddull fyw, bersonol. Os mai garddio yw eich diddordeb, cewch dudalen o gynghorion buddiol, yn gymysg ag ambell i bennill gan E. J. Griffith 'i brofi'r pwnc'. Aiff Ted Huws â ni i'r môr, ac i gwmni'r morfilod, gyda lluniau a sylwadau clir ynglyn â'r gwahanol rywogaethau. Gyda llaw, sylweddolais pa mor anwybodus oeddwn dro'n ôl, pan welais haid o'r creaduriaid yma ger gogledd Yr Alban, a dim syniad o'u henwau. I'r llysieuwr, does dim angen cyflwyno Linnaeus, ac aiff Geraint Owen â ni i Sweden i edmygu gardd yr arloeswr mawr hwn yn Uppsala, a chawn gip ar fywyd yr un a roes drefn ar y broses o enwi creaduriaid a phlanhigion; 'Duw a greodd-Linneaus a drefnodd'. Wyddoch chi'r gwahaniaeth rhwng y creaduriaid hynny, y cantroed a'r miltroed? Na, thâl cyfri'r coesau mo'r tro, ond eglurir y gyfrinach, a llawer mwy gan Hefin Jones, tra mai anifeiliaid gwahanol iawn yw testun Derek Lewis, sef anifeiliaid prin y fferm, a chawn ddisgrifiad mewn gair a llun o fridiau anghyffredin megis y gwartheg Hirgorn a defaid Ynys Manaw. Y mynydd yw cynefin Dafydd Prydderch Williams, a'r eira gaiff ei sylw yn y rhifyn hwn. Cawn ganddo dipyn o hanes yr Escimo yn ogystal ag ambell i gyngor ynglyn â dringo yma yng Nghymru yn y gaeaf. Ac o'r mynydd, naturiol yw sôn am ddaeareg, a cheir enghraifft wych o erthygl 'boblogaidd' ar y testun hwn gan Arfon Rhys. Mewn iaith raenus cawn amlinelliad clir o'r prif fathau o greigiau, gan ddefnyddio glan y môr fel labordy. Am ryw reswm y mae llawer o fechgyn ysgol wrth eu bodd yn trin a thrafod creaduriaid y cynfyd-y dinosoriaid a'i tebyg-a chawn dipyn o'u hanes gan Mary Vaughan Jones, ynghyd â sylw neu ddau am ein hymlusgiaid brodorol ni yng Nghymru heddiw. Ar ffurf stori y lluniodd Dewi Tomos ei gyfraniad, hanes dau hogyn wrthi ar lan yr afon yn dal pysgod â'u dwylo, a cheir hefyd ddwy dudalen yn arbennig ar gyfer plant: un o Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, yn trafod nadroedd a'r dull o'u cadw, a'r llall ar ffurf cystadleuaeth i blant yr ysgol gynradd. Ceir nifer o fanion diddorol i lenwi bwlch hwnt ac yma, a thoreth o luniau da yn britho'r cylchgrawn. Mae'r cynllunio yn ddeniadol a'r argraffu yn raenus ar bapur sylweddol, ac mae'r pris o 60c yn rhesymol iawn. Ar y cyfan mae'r Gymraeg yn lân, er bod rhai gwallau a chystrawennau chwithig yn ymddangos yma a thraw, e.e. 'dau rywogaeth', 'i gadw i fynd', 'yr amlycaf yn eu plith dybiaf yw'r ymfudo', 'un bronwen', 'creda gwyddonwyr' Rhaid canmol y golygydd, Huw John Hughes am fentro, ac am lenwi'n ardderchog fwlch mor amlwg ym myd cyhoeddi Cymraeg. Da iawn, Cynefin-daliwch ati! GORONWY WYNNE