Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gorwel-Pob-Achlysur OWAIN WYN DAVIES MAE'N NATURIOL ddigon dyfalu beth yn hollol all ddigwydd i unrhyw ddarn o fater sy'n disgyn i mewn i 'Dwll Du'. Sut, er enghraifft, y gall y mas gywasgu i sero gyfaint ac i ddwysedd anfeidrol pan gyrhaeddir yr unig-bwynt hynod ynghanol y Twll? Dengys Ffig. 1 ranbarthau a ddychmygwyd gan Karl Schwarzschild, a fu'n gyfrifol am ddosrannu'r 'Twll Du' i'r rhannau yn y darlun. Dywedodd yn ogystal fod gan bob seren sy'n cywasgu'n barhaus ei stâd arbennig o fewn y cywasgiad pryd y mae cyflymdra-dianc unrhyw ddarn o fater oddiar ei harwyneb yn gyfartal â chyflymdra goleuni. Gelwir mesur radiws y seren yr adeg hynny yn 'Radiws- Schwarzschild'. Damcenir bod grym disgyrchiant yn cynyddu'n fwyfwy fel y cywasga'r seren, a dywed Damcaniaeth Perthnasedd Einstein fod cynnydd yn y grym hwn yn peri i amser arafu. Nid yw'n bosibl profi hyn o fewn ein bydysawd ni, gan nad yw grym-disgyrchiant arferol yn agos ddigon cryf i ddylanwadu yn y fath fodd. Dim ond o gylch 'Tyllau Duon' a 'Sêr Niwtron' y ceir y cryfder disgyrchiadol hwn. Ond, os yw'n wir fod amser yn arafu, dylem, pe byddai'n bosibl, edrych ar fater yn disgyn i 'Dwll Du', ei weld yn disgyn gan symud yn arafach fel y dynesa at 'Radiws-Schwarzschild'; yn arafu bron i ddim yng nghyffiniau'r radiws hwn ac yna'n aros yn gyfangwbl ar lepen y radiws. Gellid hefyd disgwyl iddo golli pob llewyrchedd goleuni fel y disgynno ac y byddai'n gwbl dywyll erbyn cyrraedd y Radiws-critigol. Ac o'r herwydd ni fyddai'n bosibl ei weld mwyach o fewn y Radiws hwn. Dengys Ffig. 2 drachefn, y modd y plygir ac y crymir y gofod o gylch seren-gywasgedig gan rymoedd cryfion y maes-disgyrchiadol o amgylch y seren. Yn union yr un fath ag y crymir haenen o rwber os digwydd i garreg neu wrthrych trwm o'r fath gael ei osod arni. Cofier fod Ffig. 1. Rhanbarthau Karl Schwarzschild gofod-amser yn hanfodol wastad pan ymhell bell oddi wrth y seren ond gwelir fod yna ymblygiad aruthrol ynddo yng nghyffiniau'r seren. Sylwer hefyd mai'r rhanbarth tywyll yn y darlun sy'n cynrychioli crynswth- corfforol y seren. Darlun-ymorweddol ydyw darlun fel Ffig. 2, a sylwer fod dau o'r pedwar dimensiwn a gysylltir yn arferol â gofod-amser wedi eu hanwybyddu pan y tynnir darlun fel hwn. Ac o'r herwydd, mae yn ein galluogi i amgyffred yn haws geometreg y gofod- crymog a gysylltir â maes-disgyrchiant angerddol. Er mwyn dilyn ymhellach yr hyn a all ddigwydd i fater o fewn 'Twll Du' a thu hwnt i Dwll o'r fath os ydyw hynny'n bosibl, dylid cysidro naws yr holl Greadigaeth a cheisio dehongli yr hyn sy'n digwydd ac a all ddigwydd i'r dyfodol o fewn yr holl Gyfanfyd. Gellir dwyn i gof y darlun a roddodd dau seryddwr, sef Hoyle a Bondi, ym 1948 o'r Greadigaeth megis un lle mae mater yn cael ei greu yn barhaol o'i mewn. Digwydd hynny fesul atom ar y tro, yma ac acw trwy'r Hollfyd, ar raddfa mor isel fel na fyddai neb yn sylwi ar y broses o gwbl. Ac fel yr ymledai'r Bydysawd, gan ehangu'r pellter rhwng galaethau, byddai digon o fater yn cael ei greu i ymgasglu a chrynhoi megis galaethau newydd o fewn gofod yr encil. Tybid na ffurfiai ond digon o'r galaethau newydd i lenwi'r pellter cynyddol rhwng yr hen rai a byddai'r Bydysawd yn llawn o wahanol alaethau o bob math, pob un mewn gwahanol stâd esblygol: rhai ar fin cael eu ffurfio, eraill ar fin edwino. Byddai sêr yn cael eu geni a byddai sêr yn mynd i'w tranc, ond byddai'r Cyfanfyd trwyddo draw yn anfarwol heb na dechrau na diwedd, dim ond rhywbeth yn 'bod' yn unig. 'Roedd y rhain oll yn syniadau damcaniaethol deniadol tros ben, ond nid oedd llawer o dystiolaeth ymarferol ar gael i gadarnhau'r ddamcaniaeth. Ac os