Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Dechnoleg Arall CRYNODEB O GYNNWYS DILYNIANT O RAGLENNI GAN H.T.V. YN Y GYFRES 'HYN O FYD' PWRPAS y gyfres hon o bum rhaglen oedd bwrw golwg yn fwyaf arbennig ar ffynonellau ynni ein byd a nodi manteision, anfanteision a rhagolygon y mathau gwahanol sydd gennym o gynhyrchu'r ynni hwnnw. Cyflwynwyd y bedair rhaglen gyntaf ar ffilm o Ganolfan y Dechnoleg Arall ym Machynlleth. Ac ar gyfer y bumed raglen fe ddefnyddiwyd ystafell reoli yr orsaf niwclear yn Hinkley Point, Gwlad yr Haf. 1. Pa ddewis arall? Gan ein bod yn sôn llawer am y gair technoleg yn y rhaglenni hyn, purion yw cyfeirio ar y dechrau at ystyr y gair hwnnw. Mae a fynno'r gair â pheiriannau a phrosesau-sut y byddwn ni yn eu defnyddio, a sut y mae nhw'n effeithio arnom i gyd. Mae technoleg yn ymwneud â'r ffordd y mae dyn wedi defnyddio'i wybodaeth wyddonol er mwyn cynhyrchu. Bob tro y byddwn ni'n defnyddio peiriannau, wrth gynhyrchu ynni neu fwyd, fe fyddwn yn newid pethau o'n cwmpas-yn newid yr amgylchfyd-sef y ddaear, dwr ac awyr. Hefyd y mae'r ffordd y byddwn ni'n cynhyrchu ynni yn golygu ein bod nid yn unig yn llygru ein hamgylchfyd ond yn gwastraffu llawer o adnoddau'r ddaear. Nodwyd yn y rhaglen hon y math o lygredd a gwastraff sy'n cael ei achosi wrth gynhyrchu ynni ag olew, glo a nwy. Nodwyd y ffaith hefyd na ellir dal ymlaen i weithredu fel hyn am yn hir eto, oherwydd y mae llawer o adnoddau'r ddaear yn dod i ben. Heblaw hynny mae miliynau o bobl yn ein byd heddiw yn dioddef yn enbyd o brinder bwyd, a ninnau yn y Gorllewin yn byw bywyd moethus ar draul pobl dlawd y Trydydd Byd. Sut felly y gallwn ni ddechrau newid hyn Llun 1. Yn ffilmio ar fferm Mr. Evans, Caerfai yn Nhyddewi-lle mae'r ffermwr yn cynhyrchu nwy methan o dail y fferm. IFOR REES oll, a pheri i blaned y ddaear oroesi'n hirach, a datrys y problemau y buom yn sôn amdanynt uchod? Un ffordd yw peidio â gwastraffu cymaint o adnoddau'r ddaear, a'r ffordd arall yw ceisio dod o hyd i ynni sydd yn lanach a rhatach ond heb fod yn achosi llygredd, sef ynni'r haul, dwr, gwynt a llanw'r môr. 2. Defnyddio gwastraff Yng Nghanolfan y Dechnoleg Arall ym Machynlleth fe roddir pwyslais mawr ar beidio â gwastraffu ynni, a cheir yno nifer o enghreifftiau diddorol o dechnegau sy'n osgoi gwastraff. Mae yno dy arbennig gyda drysau dwbl, ffenestri pedrwbl, a muriau wedi eu hinsiwleiddio -y cyfan er mwyn cadw'r gwres o fewn y ty ac arbed gwastraff. Mae modd yno hefyd, drwy ddefnyddio proses arbennig, i ailddefnyddio dwr twym ac aer twym er mwyn twymo rhagor eto o ddwr ac aer. Mae ail-brosesu-sef defnyddio rhywbeth sydd i bob golwg wedi darfod-yn cael sylw mawr yn y Ganolfan. Er enghraifft, mae'r papur toiled wedi cael ei ail- brosesu, ac mae'r toiledau compost yn troi gwastraff eu tanciau, yn nwy methan. Mae'r math yma o ail-brosesu yn cael ei wneud ar raddfa fawr mewn llawer man ar hyd a lled Prydain. Gerllaw Bryste, er enghraifft, mae Bwrdd Dwr Wessex yn cynhyrchu llawer o nwy methan o'r carthion sydd yn eu gorsaf garthffosiaeth, a defnyddir y nwy hwnnw, yn lle petrol, i yrru faniau'r awdurdod. Mae 'na ffermydd hefyd sy'n defnyddio carthion yr anifeiliaid fel slyri, er mwyn cynhyrchu methan i yrru peiriannau'r fferm. Fe wyddys am wledydd lle mae dwr poeth yn ffrydio allan o grombil y ddaear, a'r gwres hwnnw yn cael ei ddefnyddio wedyn er mwyn cynhesu'r tai lleol. Yr enw