Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mae modd cael gardd organig. Yr enw a roddir arno yw 'Cylch Bywyd'-ffordd o dyfu bwyd nad yw'n gwneud niwed i'r pridd, ac yn wir sy'n gwella'r pridd am na ddefnyddir unrhyw gemegion yn yr ardd. 5. Pa ddyfodol? Cyflwynwyd y rhaglen hon o Ystafell Reoli un o'r gorsafoedd niwclear mwyaf modern ym Mhrydain. Ond cyn sôn am ynni niwclear adolygwyd y ffordd y mae'r rhan fwyaf o ynni'r byd yn cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd-sef ag olew, glo a nwy. Cafwyd barn Dr Glyn O. Phillips ynglyn a'r dyfodol o safbwynt ynni olew, glo a nwy a hefyd am safle'r ynni a gynhyrchir drwy ddefnyddio'r haul, y gwynt, ac wrth ffrwyno grym dwr a llanw'r môr. Mae datblygu ynni o'r ffynonellau glân ac adnewyddol hyn-sef yr haul, y YSGOLORIAETHAU I IS-RADDEDIGION Astudiaethau Morwrol 4 Bioleg Gymwysedig 3 Cemeg Gymwysedig 3 Electroneg 3 Ffiseg Mathemateg 3 Ystadegaeth Bancio a Chyllid 3 Economeg Cyfrifeg 3 Gweinyddiaeth Busnes Saesneg 2 Y Gyfraith 5 Cynigir Ysgoloriaethau gan UWIST yn y pynciau a'r niferoedd a nodir uchod ar sail canlyniadau Lefel A. Ymholiadau i'r Swyddog Derbyniadau, UWIST, Swyddfa'r Post Rhif Blwch 68, Caerdydd CFl 3XA. gwynt a'r môr, yn gostus iawn ac yn cymryd amser hir. Mae gan y rhain i gyd eu cyfraniad pwysig ond ni allant ar hyn o bryd gymryd lle y ffynonellau traddodiadol eraill. Beth felly am ynni niwclear? Mae trydedd ran o'n hadnoddau ynni ni yng Nghymru erbyn hyn yn dod o'r ffynhonnell niwclear. Ond gan fod y math yma o ynni wedi cael ei gyplysu â'r bomiau niwclear nid yw'r cyhoedd wedi bod yn barod iawn i'w groesawu. Ond mae yna ddatblygiadau newydd yn y maes hwn hefyd, yn enwedig gyda'r tanwydd newydd plwtoniwm. Technoleg newydd ydyw hon fodd bynnag, ac yn ôl Dr Phillips, ni fydd yn debyg o wneud cyfraniad mawr am y deng mlynedd ar hugain nesaf beth bynnag. Yr hyn sydd ei angen yw cynllun ynni newydd a fydd yn cynnwys yr holl agweddau ar ein hadnoddau ynni y cyfeiriwyd atynt yn ystod rhaglenni'r gyfres. Prifysgol Cymru Heb Dreth £ 900 Peirianneg Drydan 3 Peirianneg Electroneg Peirianneg Fecanyddol 5 Peirianneg Gynhyrchu Peirianneg Sifil 3 Cynllunio Dinesig 3 Pensaernïaeth 4 Fferylleg 6 Opteg Ophthalmig 3 Seicoleg 3 MYNEDIAD 1986 £ 100 y tymor am naw tymor Heb Brawf Moddion