Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Os nad oedd digon o wyliadwriaeth cynt, mae Chernobyl wedi sicrhau bod y diwydiant niwclear dan archwiliad rheolaidd a manwl gan arbenigwyr yr amgylchedd, rhai swyddogol ac answyddogol. Mae'n rhaid cyhoeddi'r manylion am bob arllwys- iad anfwriadol o ymbelydredd, er i'r rhain fod o fewn y terfynau a ganiateir gan y Ddeddf Amddiffyn Radiolegol. Ni chafodd y diwydiant cemegol yr un sylw, er rhai trychinebau enfawr, megis Seveso yn yr Eidal a Bhopal yn yr India. Efallai ein bod wedi dod yn rhy gyfarwydd â'r math yma o ddamwain, a hefyd ag effeithiau diwyd- iant sydd wedi achosi halogi cyson yn ystod y ganrif hon. Daeth y pentrefi o amgylch gwaith Monsanto, fel Acrefair, Cefn Mawr, Rhosymedre a Rhiwabon, i gynefino ag oglau cyson phenol, a gynhyrchwyd yno fel defnydd crai ar gyfer gwneud aspirin. Pan ddeuai'r gwynt o ryw gyfeiriad arbennig, fe gyrhaeddai'r oglau cyfoglyd mor bell â Rhosllan- nerchrugog, a mawr fyddai'r cwyno. Eto i'm cyfeillion o Acrefair 'roedd yn rhan anatod o'u bywydau. Defnyddiwyd afon Dyfrdwy, bryd hynny, fel y llwybr naturiol i gael gwared ar y sbwriel cemegol. Blas ar y dwr Blwyddyn neu ddwy yn ôl canfuwyd blas carbolig ar y dwr yfed yn ardal Wrecsam. Roedd yn wyth- nosau cyn i'r cwmni fu'n gyfrifol am yr halogi gael ei enwi'n gyhoeddus; ni wyddwn eto a oedd y lefelau yn niweidiol. Pan ddaeth yr achos gerbron, nid oedd dim o'r protestio cyfarwydd o ochr yr amgylcheddwyr; dirwy digon tila a gafodd y cwmni. Pe bai blas phenol ddim mor nodweddiadol, efallai na fyddai'r arllwysiad, bwriadol, neu anfwriadol, wedi ei ganfod. Nid ydym yn cysylltu'r Swistir, fel arfer, gyda halogiad o unrhyw fath; gwlad yw o fynyddoedd ac afonydd disglair, gyda'r amgylchedd yn hawlio'r gofal mwyaf. Eto yma gwelwyd y ddamwain ecol- egol fwyaf i gyffwrdd ag afon Rhein, traffordd-ddwr fwyaf Ewrop. Bron yn union wedi i'r afon gael ei glanhau, fel rhan o'r cylch 20 mlynedd, tywalltwyd iddi 30 tunnell o wenwyn chwyn, pryfaid a mercwri. Fel gyda Chernobyl 'roedd cryn oedi cyn sylweddoli maint y llanastr, a chymerodd ddau ddiwrnod cyn i'r gwledydd eraill ar lannau'r afon dderbyn unrhyw wybodaeth. Yr Almaen, wrth gwrs, a effeithiwyd fwyaf gan y cymysgedd o 34 o gemegau yn yr afon. Gan nad yw'r Swistir yn aelod o'r Gymuned Ewropeaidd, nid oes rheidrwydd cyf- reithiol arnynt i ddilyn y rheolau ynglyn â storio a symud cemegau gwenwynig a ddeilliodd o drych- Golygyddol ineb Seveso. Sandoz yw'r cwmni a achosodd y ddamwain, trwy i dân ddigwydd yn y stordy. Nid oedd chwistrellwyr dwr awtomatig na'r taclau can- fod tân wedi'u gosod yn eu stordai, fel sydd yn ofynnol yn ôl rheolau Ewropeaidd. Mae'n ofynnol hefyd fod llwybr annibynnol i ddwr cyffredin, a'r gwastraff cemegol sydd dros ben, ond yng ngwaith Sandoz, ar hyd yr un pibellau yr aent i'r afon. Tra oedd y gweithwyr yn ymladd y tân rhedodd 10,000 litr o'r gwenwyn i'r afon, gan halogi 40 milltir mewn un donfedd. Lladdwyd 250,- 000 o slywod, miloedd o bysgod, a'r rhan fwyaf o'r planhigion a'r adar fu'n ddibynnol ar yr afon. Bellach mae'r afon yn gwbl farw am rhyw 200 km o Basel i lawr i gyfeiriad y môr. Un o'r cemegau oedd yr asid phosphorodithionig 0, O-diethyl-S-ethyl-S-mercapto ethyl dithiophosphat, sydd yn ddwywaith mwy gwen- wynig na potasiwm cyanid, y gwenwyn cryfaf i ddyn ac anifeiliaid cynt (ID50, sef y dos i ladd hanner poblogaeth o lygod = 5 mg ar gyfer pwysau o lKg). Amserlen y Drychineb · 07.25, 1 Tachwedd, 1986: Tân yn ystordy SANDOZ IIe 'roedd 1,246 tunnell o gem- egau, yn bennaf gwenwyn pryfaid. · Arllwys o leiaf 25 m3 o ddwr ar y ffrwydrad; dwr halogedig yn rhedeg yn ddireolaeth i afon Rhein. · 19.30, 2 Tachwedd: Telex cyntaf oddi wrth yr awdurdodau yn y Swistir i'r gorsafoedd archwilio ar hyd yr afon. · 3 Tachwedd: Cyfarfod o Gomisiwn Rhyngwladol afon Rhein yn Colmar, ond cyn- rychiolydd y Swistir yn methu dweud pa gemegau a arllwyswyd na sut y digwydd- odd. · 4 Tachwedd: Rhestr o'r cemegau a oedd yn y stordy yn cael ei danfon Bonn. · 7 Tachwedd: Gwybodaeth bod ail don o wenwyn wedi rhedeg i'r afon. · 8 Tachwedd: Y gwenwyn wedi cyrraedd yr Iseldiroedd erbyn hanner nos. · 12 Tachwedd: Wedi cyrraedd y môr ger Rotterdam.