Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Picozyme F) ac yna mesur y goleuni a gynhyrchir gyda Luminomedr Auto Picolite (Model 6100, Packard). Trawsnewidir yr unedau o oleuni i unedau o ATP drwy ddefnyddio llinell safoni (10-10 i 10-14 mol o ATP). Gwenwyn pwerus iawn Dengys y ffigurau yn nhabl 1 pa mor wenwynig y gall defnyddiau cyffredin fod. Efallai nad yw'n syndod fod bendiocarb a 2,4-asid dichloroffenocsiasetig mor wen- wynig ond mae'n rhyfeddol fod effaith yr ychwanegydd bwyd hydrocsianisol biwtyledig mor niweidiol i'r cell- oedd. Er bod crynodiad y cemegyn hwn mewn bwyd yn isel iawn nid yw hyn o unrhyw gysur i'r bobl hynny sy'n gweithio yn y diwydiant. Mae hyn yn wir hefyd am gyn- hyrchwyr pla- a chwynleiddiad. Gellir gosod y ffigurau yma yn eu cyd-destun drwy eu cymharu â ffigurau ATPso 2,4 deunitroffenol (dadgysylltwr metabolig) 586 ug/ml (Kemp et al, 1986), sydd ag LDso mewn llygod mawr o 30 mg/kg o bwysau corff ac yn cael ei ystyried yn wenwyn pwerus iawn. Mae'r wybodaeth am LDso y tri chemegyn anfferyllol yn nhabl 1 yn wybyddus yn barod o waith mewn labordai eraill. Tabl 1. Effaith gwenwynig y 6 cyfansoddyn a aseswyd drwy fesur crynodiad adenosin triffosffad (ATP) a hyfywdra celloedd LS929 ar ôl 4 awr. Cemegyn dan brawf Defnydd ATPso* r CDso** r (ug/ml) (ug/ml) Hydrocsianisol Gwrthocsidydd 76.6 0.91 79.1 0.72 biwtyledig Bendiocarb Pryfleiddiad 225.8 0.73 345.9 0.99 2,4 Asid Chwynleiddiad 741.3 0.73 1000.0 0.80 Deuchloroffenocsiasetig Ffenobarbital Lleddfolyn 1620.0 0.91 1590.0 0.91 Chlorocwin sylffad Gwrthfalariydd 4050.0 0.93 3650.0 0.85 Parasetamol Analgesic 5390.0 0.93 6050.0 0.79 r = cyfernod amrywiad = crynodiad y cemegyn dan brawf sydd yn gostwng lefel ATP y celloedd i 5096 o fewn pedair awr. = crynodiad y cemegyn dan brawf a ladda 50% o'rcelloeddo fewn y pedair awr. Cemegion gwenwynig ac arbrofi ar anifeiliaid Fel y mae'r wybodaeth in vitro am y gwahanol gemeg- ion gwenwynig yn cynyddu cwyd y cwestiwn a ddylid dileu defnyddio anifeiliaid mewn arbrofion ar gemeg- ion anfferyllol? Cyn y gellir dileu defnyddio anifeiliaid yn gyfangwbwl bydd rhaid cael arbrofion in vitro ar 0 leiaf ddwy lefel. Y lefel gyntaf, a rydd wybodaeth am yr effaith a geir ar briodweddau sylfaenol y gell, a'r ail lefel, fydd yn asesu'r effaith a geir ar feinwe neu'r organau a dargedir arnynt gan y gwenwyn, neu unrhyw effaith sydd yn berthnasol i oedran, rhyw neu rywogaeth. Mae'r dech- neg a rydd ATPso a CDso yn perthyn i arbrofion o'r lefel gyntaf. Er hynny, gall y dechneg hon, mewn amser, ddis- odli'r prawf Draize ar LDso i gemegion neu gynnyrch anfferyllol. Bydd hyn yn debycach o ddigwydd fel bydd y wybodaeth a gesglir yn cynyddu. Mae'r tri sylwedd meddyginiaethol a welir yn nhabl 1 yn galw am arbrofion o'r ail lefel a hyd yn oed wedyn anodd yw gweld sut y gellir gwneud yr arbrofion yn drwyadl heb ddefnyddio anifeiliaid. Er hynny, trwy ddef- nyddio arbrofion in vitro o'r lefel gyntaf ar ddefnyddiau cyffelyb i'r rhain gellir o leiaf gyfyngu ar y nifer o anifeiliaid a ddefnyddir i'r pwrpas hwn. Mae parasetamol (asetaminoffen) yn enghraifft dda o'r angen sydd am arbrofion o'r ail lefel. Mae ei effaith wen- wynig ar y celloedd LS yn isel, ond yn y corff caiff ei drosi gan yr afu i asetimodocwinôn, sydd yn llawer iawn mwy gwenwynig. Dibyna'r adwaith fetabolaidd yma ar y cym- hlygion seitochrom P449/450. Gellir peri i'r trosiad yma ddigwydd oddi allan i'r corff ond nid yw'r canlyniadau yn foddhaol iawn ar hyn o bryd. Er bod trefn y raddfa wenwynig yn nhabl 1 yr un fath ar gyfer CDso ag yw ar gyfer ATPso y mae nifer o wahan- iaethau. Dangosodd Balls a Clothier (1986) hefyd fod gwahanol arbrofion in vitro sy'n arddangos newidiadau megis cynnwys prodin, staenio gyda choch niwtral neu newidiadau morffolegol, wedi ildio gwahaniaethau rhifiadol yn y canlyniadau gyda'r un chwe chemegyn. Oherwydd hyn mae'n debygol y bydd yn rhaid def- nyddio mwy nag un dechneg in vitro. Dengys Ffig. 1 linellau atchwel sydd yn enghraifft o'r data a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu'r ffigurau a welir yn nhabl 1. Mae'n amlwg fod goledd y llinellau yn wahanol ac yr ydym, ar hyn o bryd, yn ystyried beth yw arwydd- ocâd hyn. Ffig.LCDeoa ATP». a hydrocsianisol biwtyledig (100 mg/ml mewn ethanol). b — bendiocarb (100 mg/ml mewn deumethylsylffocsid). Cemegion newydd Mewn blwyddyn cyflwynir dros fil o gemegion newydd i'r amgylchedd, a gall profi un o'r rhain olygu defnyddio 1500 o anifeiliaid. Ym 1984 dechreuwyd dros 3.6 miliwn o arbrofion ar anifeiliaid ym Mhrydain yn unig. Gall pro- fion tocsicolegol in vitro leihau nifer yr anifeiliaid yma tra'r un pryd wella ansawdd y wybodaeth a geir am gost sydd yn dipyn is. Cymaint â chanrif a hanner yn ôl ysgrif-