Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ennodd y Dr Samuel Johnson erthygl yn condemnio def- nyddio anifeiliaid mewn arbrofion gan ddweud 'If knowledge of physiology has been somewhat increased he surely buys knowledge dear who learns at the expense of his humanity.' Erbyn heddiw mae datblygiadau yn y byd gwyddonol a chyfrifiadurol yn bodoli a all, 0 bosibl, ateb y cyhuddiad hwn. LWSIFERIN LWSIFERAS Fel y mae bwlb trydan yn trosi ynni trydanol i oleuni mae adwaith fiocemegol i'w chael sy'n trosi ynni cemegol ar ffurf ATP yn oleuni, sef un ffoton ar gyfer pob moleciwl o ATP. Dyma'r adwaith sydd yn cynhyrchu goleuni a allyrrir gan y fagüen (glow worm) fenywaidd, a hefyd nifer o organebau morol. Poenyn Penna' Rhif 33: GWYLIAU GWYLLT 'I ble fuost ti ar dy wyliau, Llew?' 'I ryw wlad ddigon od, a dweud y gwir. Wyddost ti, roedd yno wartheg a lloeau ond dim sôn am darw o gwbl. 'Roedd pawb yn byw mewn byngalo, pob un â chwech o ffenestri ond dim un drws yn 'run ohonynt. Ac er bod yno ffyrdd llydain ym mhob- man, welais i ddim un car na bws na beic na dim cerdded oedd pawb pob tro. Beth amdanat ti, Siân?' 'Lle odiach fyth fuon ni iddo! Roedd beudy ynghlwm wrth bob un o'r tai a dwy iâr yn cadw cwmni i'r fuwch ym mhob un. Pawb â'i feic roedd hi yno ar bob heol, ond 'roedd loncian yn boblogaidd iawn hefyd. Ond hoffais i mo'r bwyd o gwbl wy mewn saim i frecwast, cawl malwen i ginio a siocled poeth cyn mynd i'r gwely. Ychafì!' Fedrwch chi ddarganfod cyfrinachau'r ddwy wlad ryfedd hyn? (Ateb ar dudalen 102) Positron LDso, CDso ac ATPso Er mwyn cael mesur o pa mor wenwynig yw unrhyw sylwedd rhaid wrth rhyw fath o safon. Y mesur LDso yw'r un a ddefnyddir gydag anifeiliaid cyfan, megis llygod. Yn gyffredinol mesur yw hwn o'r pwysau (mg) i bob cilogram o bwysau corff yr anifail sydd yn lladd 50% o'r anifeiliaid oddifewn i gyfnod y prawf. Yr un yw'r egwyddor y tu ôl i'r mesur CDso, ac y mae'n nodi'r crynodiad o wen- wyn sydd ei angen i ladd 50% o gelloedd mewn potel feithrin o fewn pedair awr. Mesura'r ATPso'r crynodiad o wenwyn sydd ei angen i haneru'r lefel o ATP mewn pedair awr. Cyfeiriadau Balls, M. a Clothier, R., 'In vitro Toxicology', Lab. Sci. Technol, 2, 14 (1986). DeLuca, M. A. & McElroy, W. D., Bioluminescence and Chemiluminescence, Arg. laf, tud.122, Academic Press, Efrog Newydd (1981). Glick, D., 'Microchemical analytical techniques of potential clinical interest. III. Single cell analysis', Clin. Chem., 23, 1465 (1977). Kemp, R. B., Meredith, R. W. J., Gamble, S. & Frost, M., 'Toxicity of detergent-based commercial products on cells of a mouse line in suspension culture as a possible screen for the Draize rabbit eye irritation test', ATLA, 11, 15 (1983). Kemp, R. B., Meredith, R. W. J. & Gamble, S. H., 'Toxicity of commercial products on cells in suspension culture: a possible screen for the Draize eye irritation test', Fd. Chem. Toxic, 23, 267-270 (1985). Kemp, R. B., Cross, D. M. and Meredith, R. W. J., 'Adenosine triphosphate as an indicator of cellular toxicity in vitro', Fd. Chem. Toxic, (1986). Rotman, B. & Papermaster, B. W., 'Membrane properties of living mammalian cells as studied by enzymatic hydrolysis of fluorogenic esters', Proc. Natn. Acad. Sci. USA, 55, 134 (1966). Takasugi, M., 'An Improved fluorochromatic cytotoxic test', Transplantation, 12, 148 (1971). Ulrich, K. and Moore, G. W., 'A vibrating mixer for agitation of suspension cultures of mammalian cells', Biotechnol. Bioeng., 7, 417 (1965).