Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cynhyrchion Opiwm (Yr Opiaid) DAVID W. G. COX a J. HYWEL THOMAS Y MAE pobl wedi bod yn defnyddio opiwm ers chwe mil o flynyddoedd er mwyn ysgafnhau eu poen a'u pryder neu er mwyn cael pleser. Ceir sôn am y cyffur hwn mewn sawl llawysgrif cynnar o wledydd y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell ac Ewrop. Mae'n debyg bod y sylwedd nepenthe ('yn rhydd o ofid'), y sonnir amdano yn yr Odyssey, yn cynnwys opiwm. Am ganrifoedd, defnyddiwyd opiwm (neu'r cysglys, neu'r cysglyn) yn helaeth gan feddygon ac mae'n hawdd gweld y rheswm am hynny gan fod opiwm, yn y dyddiau cyn darganfod y cyffuriau antibiotig a gwrth-seicotig, yn medru lleddfu poenau a gofidiau, hyrwyddo cwsg, a gwella dolur rhydd a pheswch. 'Ymhlith y meddyginiae- thau a welodd Duw yn dda i'w rhoi i ddyn i wella ei afiechydon, nid oes yr un mor gyffredinol ac effeithiol ag opiwm'. Dyna oedd barn y physigwr enwog Thomas Sydenham ym 1680. Y Cyfarwyddwr Meddygol Teuluaidd Yn y Cyfarwyddwr Meddygol Teuluaidd a gyhoeddwyd gan Spurrell yng Nghaerfyrddin ym 1856 cawn y disgrifiad canlynol: 'Opiwm sydd yn ddïau yn un o'r meddyginiae- thau mwyaf gwerthfawr a phwysfawr a feddwn, ond gof- ynnir y gofal a'r deall mwyaf wrth ei ddefnyddio, oherwydd ei fod mor wenwynllyd. Mae yn cael ei roddi i esmwytháu poen, lliniaru yr wrwst, peri cwsg, symud aflonyddwch gieuol, a pheri chwysiant, &.c.; ond dylid ei ddefnyddio yn wastad gyda'r gofal mwyaf, gan ei roddi mewn dognau bychain, a gwylio ei effeithiau yn ofalus'. Ni ddaeth y broblem o ddibyniaeth ar opiwm i'r amlwg yng ngwledydd y Gorllewin tan y ddeunawfed ganrif. Ond wedi Rhyfel Cartref America, pan ddef- nyddid opiwm yn helaeth i drin milwyr clwyfedig, gwelwyd cynnydd achlysurol, ond sylweddol, yn y nifer o gaethyddion (ymollyngwyr) i'r cyffuriau hyn hyd at y sefyllfa druenus heddiw, pryd yr amcangyfrifir bod dros ddeuddeng mil o gaethyddion ym Mhrydain ym 1984. Y gwahaniaeth heddiw yw mai rhesymau cymdeithasol sydd y tu ôl i'r epidemig presennol o gam-ddefnyddio cynhyrchion opiwm. (Am ddisgrifiad trylwyr o'r cefndir cymdeithasol a seicolegol, gweler y bennod, 'Dibynnu ar Heroin' yn y gyfrol Wynebu Bywyd gan Huw Edwards, Gwasg Gee, 1979). Papaver somniferum Opiwm yw'r llaeth (gwyn, pan yw'n ffres) a geir o hadlestr y pabi Papaver somniferum, blodyn sy'n tyfu'n wyllt ar draws Asia a rhannau o Ewrop. Cymysgwch yw opiwm o tua ugain alcaloid gwahanol gyda morffin yn bresennol fel y prif sylwedd narcotig. Y person cyntaf i buro morffin, a hynny ym 1803, oedd Sertürner, fferyll- ydd o'r Almaen, ac ef a enwodd y cyffur ar ôl Morffews, duw breuddwydion y Groegiaid. Cynhyrchwyd heroin (diamorffìn) gyntaf ym 1898 trwy asetyleiddio'r ddau grwp hydrocsyl sy'n bresennol mewn morffin. Mae heroin yn cyrraedd yr ymennydd o'r gwaed yn gynt na morffin, ac yn yr ymennydd fe'i newidir yn ôl i forffin trwy weithrediad ensymau arbennig. Er y perygl i gaethinen (dibyniaeth) ddatblygu wrth ddefnyddio morffin a chyffuriau narcotig eraill, mae'r opiaid yn dal i fod yn gyffuriau hanfodol yn y driniaeth o boen di-baid, a hefyd maent yn ddefnyddiol i drin acho- sion drwg o'r dolur rhydd a pheswch cythryblus. Ffig.1. Llun tri-dimensiynol o fframwaith alcaloid ffenanthrin. Yr opiaid a pheptidau opioid Cwestiwn a boenai wyddonwyr a meddygon am hydoedd oedd sut y medrai sylweddau fel morffin a gyfyngir i un math o blanhigyn yn unig ddylanwadu mor effeithiol ar weithrediad corfforol anifeiliaid, sy'n hollol wahanol i blanhigion o ran cyfansoddiad biolegol. Dadleuid rhai blynyddoedd yn ôl fod yr opiaid 'allanol' efallai yn medru gweithredu gyda'r union dderbynnydd yng nghelloedd yr ymennydd sydd hefyd yn 'adnabod' rhyw sylwedd perthynol a gynhyrchir yn y corff. Sylwyd, er enghraifft, fod nicotin — alcaloid arall, 0 blanhigyn y tobaco yn medru dynwared effaith y trawsyrrydd asetyl colin yn y corff trwy rwymo â math arbennig o dderbynyddion i asetylcolin. Yna, ym 1973 dangoswyd gan wyddonwyr yn yr Alban ac yn Sweden fod sylwedd yn bresennol yn yr ymennydd sy'n rhwymo wrth yr un derbynnydd â morffin. Galwyd y math yma o sylwedd yn opioid. Ar y pryd, credid mai dim ond un opioid ac un math o dderbynnydd opioid oedd yn bresennol yn y corff ond