Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dibendraw CYFRES WYDDONOL I S4C GAN HTV Ganed Marc Evans yng Nghaerdydd i rieni di-Gymraeg ond cafodd ei fagu yn y Fflint. Dysgodd siarad yr iaith yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle graddioddyn Gymraeg. Bu'n gweithio i'r BBCa HTYond bellach mae'n Gynhyrchydd a Dyfeisydd teledu ar ei liwt ei hun. FEL un fu'n gweithio, am y tro cyntaf, ar y rhaglen 'Dibendraw', mae'n anodd i mi ddatgan barn ddi-duedd amdani. Felly, hoffwn gynnig beth oedd barn ein gwylwyr o Gymry cyffredin, neu hyd yn oed sôn am adwaith y Gwyddonydd o Gymro, a fu'n gwylio. Rwy'n siwr y buasem ni wedi clywed gan rywun petai hi wedi bod yn gyfres ddrybeilig o sâl! Byd Trennydd Mae'n anorfod bod 'Tomorrow's World', y rhaglen wyddonol ar BBC sy'n dilyn 'Dibendraw', yn fath o linyn mesur. A chofio'u hadnoddau ymchwil nhw, fel Goleiath a'i griw i'n Dewi ni, rwy'n credu i ni wneud sioe go lew ohoni. Roedd yn gefn i ni gael cyflwynwyr mor fedrus a phrofiadol. Llun 1. Y ddau gyflwynydd i'r rhaglen 'Dibendraw', Elin Haydn ac Arfon Haines Davies. Fe gafwyd dechrau gwir drawiadol i'r gyfres trwy ddan- gos ffilm byw-ddarluniau ar Gomed Halley, enghraifft ryfeddol o allu'r artist i ddehongli'r hyn sydd o fewn cyrraedd ein dychymyg a'n damcaniaethau, ond y tu hwnt i'n profiad. Piti garw bod 'Dibendraw' wedi hen glwydo erbyn i'r ymwelydd ddychwelyd liw nos i gwrdd â'r lloeren Giotto, a rhannu ychydig o glecs y gofod â'r byd crwn trwy gyfrwng gwyrth telathrebu. Helynt Wythnosol Yn aml, roedd hi fel dyfalu'r ceffyl blaen cyn y râs, adeg dewis eitemau ar gyfer ein newyddion, gan obeithio cael rhai a fyddai'n debyg o fod yn newydd o hyd ymhen deuddydd. Efallai nad oeddech wedi sylweddoli, ond yn wahanol i'n cymheiriaid Llundeinig, rhaglen wedi'i MARC EVANS recordio ('megis yn fyw', brynhawn dydd Mawrth), cyn ei darlledu ar nos Iau yw 'Dibendraw'. Ymhlith eitemau lawer fe lwyddwyd i ddarogan llwyddiant ysgubol cyfrifiadur gair- brosesu yr Amstrad PCW8256, o fewn dyddiau i'w ymddangosiad; i fynd ag eitem 'o dan drwynau' ein cystadleuwyr ni, pan ddaeth Dr Tom Jones i'r stiwdio a dangos dyfais newydd Labordai Lion o'r Barri, sef y Ffrwynydd Electroneg ar lun fflach-lamp. Mae hwn yn medru dirnad rhwng sawr y medd o dan y mintys ar anadl modurwr. Ac mae Elin yn dal i honni mai un sip yn unig a brofodd hi o'r glas- iad gwin. Llun 2. Dr. Tom Jones yn arddangos ei declyn mesur alcohol. Dim prinder Yn wir, doedd dim prinder o eitemau i'w dangos, pro- siectau i'w ffilmio, nac arbenigwyr o Gymry Cymraeg i'w gwahodd i'r stiwdio. Y broblem yn hytrach oedd dewis a dethol eitemau o ddiddordeb eang, a'u dehongli mewn modd dealladwy a difyr. Dwy o'r eitemau a hoffais innau fwyaf, ill dwy'n 'sgwps' megis, oedd honno am y peiriant hapchwarae deallus, sy'n medru adnabod twyllwr (y cwmni cynhyrchu'n ofni colli arian!), a'r eitem a ddatgelai trwy gyfrwng model mawr ddirgel berfeddion batri newydd sy'n cael ei ddatblygu yn Wrecsam. Gobeithiaf i'r eitemau hyn brofi'n ddeniadol i'r llygad ac yn ddiddorol hyd yn oed i'r rhai nad oedd â diddordeb yn yr esboniadau gwyddonol a roddwyd.