Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Genynnau ac Epilgarwch Defaid MAE arbrawf yn Adran Amaethyddiaeth, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn pontio'r gagendor rhwng cyhoeddi darganfyddiad sylfaenol geneteg yn y ddeu- nawfed ganrif a darganfyddiad ymarferol bwysig ym myd defaid union 120 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Arbrofion Mendel Ym 1865 y traddododd y mynach Gregor Johann Mendel (1822-1884) ganlyniadau ei arbrofion ar bys; ffrwyth gwaith diwyd wyth tymor (1856-1863) yng ngardd mynachdy Sant Thomas yn Brünn, Awstria. Tra- ddodwyd y ddarlith ar ddau achlysur, 8 Chwefror, 1865, ac 8 Mawrth vr un flwyddyn, a hynny i Gymdeithas lysieuol leol, ac fe'i cyhoeddwyd fel papur yn Nhralod- ion y gymdeithas y flwyddyn ganlynol. Disgrifia'r papur ymchwil manwl a thrvlwvr yn olrhain nifer o'r gwahanol nodweddion yn y rhiant blanhigion i'r rhai yn vr epil blanhigion. Nodwedd y gwaith oedd y nifer fawr o blan- higion a fu dan astudiaeth (o gwmpas 5,000 0 blanhigion y flwyddyn), eglurder diffmiad y nodweddion e.e. lliw melyn neu liw gwyrdd, pysen groen lefn neu bysen groen grebachlyd etc., a thrylwyredd y cyfrif manwl. Casgliad Mendel ydoedd fod nodweddion yr epil yn dibynnu ar unedau wedi eu cyplysu'n barau, gydag un uned o bob par vn tarddu o'r tad a'r uned arall o'r fam. Rhain yw'r unedau a elwir vn enynnau (genes). Bu Mendel yn ffodus iddo weithio ar nodweddion lIe nad oedd ond un neu ddau bar o enynnau yn gyfrifol am wahaniaethau mawr vn v nodwedd. Gwyddom vn awr fod y par unedau hyn yn cario cynllun datblygiad (blue- print) holl agweddau pob organeb fyw. Mendel a Darwin Yn ei adroddiad ar ei arbrofion mae'n hollol amlwg fod Mendel vn ymwybodol o bwysigrwydd ei ddargan- fyddiad, a gwelai fod ei ddamcaniaeth yn bwysig fel sail gwrthrychol i sylwadau Darwin ar esblygiad species. Y syn- dod mwyaf i ni heddiw, ac yn ôl pob golwg i Mendel ei hun, oedd na fu adwaith i'r darganfyddiad mawr a gyhoeddodd. Bu Mendel farw ym 1884 yn ddyn siom- edig ac vn wir credir iddo, yn ei iselder ddiwedd ei oes, ddifa cofnodion manwl ynglŷn â'i waith arloesol, nid yn unig yn y maes hwn, ond mewn meysydd eraill hefyd. Ym 1900 sylweddolodd tri gwyddonydd yn Ewrop, yn annibynnol ar ei gilvdd, cymaint oedd cyfraniad Mendel, a sefydlwyd Mendeliaeth fel v brif ddamcaniaeth svl- faenol ym maes etifeddeg. Yn y cyfnod wedi 1900 daeth biolegwyr i sylweddoli nid yn unig mai Mendeliaeth oedd sail etifeddeg ond hefyd fod llawer o nodweddion o bwvs i'r amaethvdd ac eraill yn llawer mwy cymhleth na'r rhai a astudiwyd gan Mendel. Sylweddolwyd yn fuan mai nodweddion oedd v rhain vn dibvnnu ar lawer par o enynnau vn hytrach na'r un neu ddau bar a welir vn astudiaethau Mendel. Hefvd, 'roedd vr amgylchedd yn achosi amrywiaeth pellach yn v nodweddion hyn. Enghraifft o'r gwahaniaeth rhwng y ddau fath o nod- wedd yw'r un rhwng v nodwedd lliw llygaid mewn pobl J. B. OWEN a'r nodwedd pwysau corff mewn anifeiliaid yn gyffred- inol. Nid oedd yn bosibl defnyddio dulliau syml Mendel i ddadansoddi etifeddeg y nodweddion cymhleth hyn. Llun 1. Mamog Cambridge wedi magu ei thri wyn. Epilgarwch defaid Merino Awstralia Ar ôl cvfnod maith, fodd bynnag, daeth tro newydd o gyfeiriad annisgwyl. Ym 1958 cafodd gwyddonydd yn Awstralia, Dr Helen Newton Turner, a oedd wedi sefydlu arbrawf ar gynvddu epilgarwch ym mrid defaid Merino vn New South Wales, lythyr gan ddau fridiwr Merino yn cvnnig maharen a oedd, meddent hwy, yn un o chwe oen a aned i'r famog. Pan aeth Dr Turner a'i chydweithiwr i ymweld â Jack a Dick Seears, a'u diadell o'r enw Booroola vn Cooma, NSW, cawsant fwy fyth o syndod o ddarganfod fod gan y ddau frawd nid yn unig un famog anhygoel o epilgar ond yn wir fod ganddynt is-ddiadell fach o ddefaid epilgar. Trosglwyddwyd nifer o'r defaid hvnod hvn i fferm arbrofol v llywodraeth vn NSW i wneud astudiaeth fanwl ohonynt. Yn anffortunus bu farw v ddau frawd Seears yn sydyn wedvn, un ym 1959 a'r llall vm 1960, ond nid cyn iddynt ddadlennu ffaith ddi- ddorol iawn vnglŷn â'u dull o fridio. Yn groes i'r disgwyl, er sefydlu'r is-ddiadell epilgar ym 1945, ni ddefnydd- iwvd ond meheryn piŷn, oedd yn awgrymu fod yr epil- garwch unigryw vn cael ei etifeddu a'i gadw ar yr ochr fenywaidd. Wedi cryn arbrofi a dyfalu daeth yn amlwg mai'r unig eglurhad boddhaol oedd mai nodwedd oedd epilgarwch v Booroola He'r oedd genyn ac iddo effaith sylweddol, fel v gwahaniaeth yn nodweddion y pys a astudiwyd gan Mendel gan mlynedd ynghynt. Arbrofion Fferm y Brifysgol, Bangor Yn sgîl darganfyddiad y genyn Booroola fe gododd y cwestiwn a oedd rhvwbeth cyffelyb vn bod ym mrid Cambridge, math o ddefaid hynod epilgar a fegir ar fferm y Brifysgol vm Mangor. Ym 1983 a 1984 daeth Dr Seamus Hanrahan, gwyddonydd o Iwerddon, i Fangor i wneud ymchwiliad pellach. Maes arbennig Dr Hanrahan vw cyfrif nifer vr wvau a ollyngir o wyfa'r ddafad. 'Roedd canl\ niadau v mesuriadau hyn yn ddadlennol iawn ac yn datgelu amryw 0 bwyntiau: