Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hil: Agwedd Genetig Homo Sapiens II Clin MAE symudiadau poblogaethau yn ystod holl gyfnod esblygiad a gwasgariad Homo sapiens, ac yn arbennig yn ystod y 500 mlynedd diweddaraf, wedi chwalu'r syniad o hilion cyfyngedig daearyddol. Mae'r amrywiaeth mewn nodweddion genynnol fel amledd yn Glinol, hynny ydyw yn newid yn raddol o un cynefin daearyddol i un arall. Clin yw newid rheolaidd mewn nodwedd fiolegol tros ran o wyneb y ddaear, fel arfer mewn ffurf reiddiol, allan o gylch canolog o amledd uchel. Dengys hyn yr anhaws- ter a geir wrth ddosbarthu'r teuluoedd, ac anoddach fyth yw'r dosbarthu mwy manwl mewn termau genynnol yr ydym yn ei geisio. Yn ystod hanes gwasgariad dyn, n: 1 oedd y ffiniau daearyddol ac ecolegol ond yn gweithio i ryw raddau fel rhwystrau i ymlediad, ymfudo a rhvng- fridio. Yng Nghanolbarth Ewrop mae amledd genyn grWp gwaed B yn hynod o ddiddorol. Ymysg Dwyreinwyr mae grwp gwaed B yn gymharol uchel ei amledd, yn arbennig Ffig.1. Dosbarthiad grwp gwaed B yn Ewrop. yng Ngogledd Asia, ond y mae'n bresennol yn y bobl- ogaeth hyd yn oed yng Ngorllewin Iwerddon, er bod yr amledd yn isel (Ffig. 1 a 2). Un o'r rhesymau tebygol am y Clin yma oedd yr Oresgyniad Mongolaidd yn ystod y 13eg ganrif, pan gyrhaeddodd y Dwyreinwyr yma mor bell i'r Gorllewin â'r Almaen ac Awstria. Ar ôl marwol- aeth y Khan Mawr ym Mongolia, ni lwyddodd llawer o'r milwyr i fynd yn ôl i'w cynefn, a sefydlasant yn Ewrop, yn arbennig ar hyd afonydd Rwsia. Rhyngfridiasant gyda'r boblogaeth leol gan achosi cynnydd yn amledd grwp gwaed B yn Ewrop. Rhyngbriododd y cenedlaethau diweddarach gyda'r Cawcasiaid yng Ngwlad Pwyl, a'r Almaen, ac felly ymlaen i'r Gorllewin. ROBIN JONES Mae sefyllfa fel hyn wedi digwydd yn aml yn ystod esblygiad Homo sapiens. Caiff ei alw'n Llif Genynnau (Gene Flow), lle mae amledd un genyn arbennig yn edrych fel petai'n 'llifo' o gylch amledd uchel i gylchoedd lle 'roedd y genyn yn absennol neu a'i amledd yn isel, trwy ryngfridio tros lawer cenhedlaeth. Dengys Ffig.l Glin grWp gwaed B yn Ewrop, gwelir fod amledd genyn B yn disgyn o amgylch y Pyrenean, pan symudwn tua'r De- Orllewin o Ddwyrain Ewrop, lle mae'r amledd yn uchel. Yng Ngorynys Iberia (Sbaen a Phortiwgal) mae'r amledd yn cynyddu unwaith eto, a'r rheswm dros hyn yw fod Arabiaid wedi ymsefydlu yno ar ddechrau'r Canol Oesoedd, pan oresgynwyd y gwledydd gan y Mwriaid. Mudodd yr Arabiaid gyda'u genyn B o'r Dwyrain Canol ar hyd Gogledd Affrica a chroesi i Ewrop ar draws culfor Gibraltar. Cynyddodd amledd genyn grwp gwaed B yng Ngorynys Iberia trwy ryngfridio â'r boblogaeth frodorol tros v canrifoedd. Digwyddodd y math yma o ormes yn aml yn ystod hanes Prydain, hefyd. Ynysoedd Prydain Dengys map cyfres ABO o Brydain wahaniaethau pwysig, gyda Chliniau o'r Dwyrain i'r Gorllewin ac o'r Gogledd tua'r De. Mac tarddiad y cliniau yma yn hanes- yddol, ac mae hanes meddiant Prydain yn enghraifft dda o'r cymlethdodau sydd i'w cael pan edrychwn ar wreidd- iau poblogaeth, a sut mae gwahaniaethau genynnol yn dangos gwreiddiau hanesyddol. Mae iaith yn bwysig er mwyn undod cymdeithas a'r cyfnewid genynnol a ddaw yn sgîl y cysylltiad cymdeithasol hwnnw. Y mae gwahanol ieithoedd yn aml yn gweithio'n erbyn cysylltiadau ac felly adgymysgiad genynol. Gyda datblygiad amaethyddiaeth cynyddodd maint yr unedau ieithyddol gan nad oedd